Unst

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Unst

Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio ynysoedd Shetland, i'r gogledd o dir mawr yr Alban, yw Unst. Hi yw'r ynys fwyaf gogleddol ym Mhrydain sydd a phoblogaeth arni. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 720. Mae'n 20.4 km o hyd ac 8.5 km o led. Y prif bentref yw Baltasound, lle ceir maes awyr bychan. Adeiladwyd Castell Muness yn 1598.

Pentrefi Unst[golygu]

  • Baltasound
  • Haroldswick
  • Skaw
  • Uyeasound

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Canolfan Etifeddiaeth Haroldswick
  • Castell Muness
  • Eil Bws Bobby
  • Greenwell's Booth
Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato