Baner Saudi Arabia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Saudi Arabia FIAV 011011.svg

Maes gwyrdd gydag arysgrif Arabeg a chleddyf gwyn yw baner Saudi Arabia. Gwyrdd yw lliw Islam, tra bo'r cleddyf yn symboleiddio cyfiawnder. Y shahadah, Cyffesiad y Ffydd Islamaidd, yw'r arysgrif sydd yn darllen "Un Duw sydd a Muhammad yw Ei Broffwyd". Mae'n debyg iawn i faner yr enwad Wahabi, a ddefnyddiwyd ers 1901. Cyflwynwyd baner Saudi Arabia ym 1932, a mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 15 Mawrth 1973.

Ffynhonnell[golygu]

  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).