Neidio i'r cynnwys

Y Dywysoges Siwan

Oddi ar Wicipedia
Y Dywysoges Siwan
Ganwyd1191 Edit this on Wikidata
Ffrainc Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 1237, 1237 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
Swyddtywysoges gydweddog Edit this on Wikidata
TadJohn, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
MamClementina Edit this on Wikidata
PriodLlywelyn Fawr Edit this on Wikidata
PlantDafydd ap Llywelyn, Elen ferch Llywelyn, Angharad ferch Llywelyn, Gwladus Ddu Edit this on Wikidata
LlinachLlinach y Plantagenet Edit this on Wikidata

Y Dywysoges Siwan (Saesneg: Joan) (tua 11952 Chwefror 1237), merch ordderch y Brenin John o Loegr, oedd gwraig Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru. Roedd hi'n hanner-chwaer i Harri III, brenin Lloegr, ac yn fam i'r Tywysog Dafydd ap Llywelyn a olynodd Llywelyn Fawr yn 1237 (credir mai Tangwystl Goch oedd mam ei frawd Gruffudd). Fe'i cofir yn bennaf am hanes ei charwriaeth gyda'r arglwydd Normanaidd Gwilym Brewys ond bu ganddi ran bwysig yng ngwleidyddiaeth y cyfnod hefyd fel cynghorwraig i Lywelyn yn ei gyngor a'i lys ac yn llysgennad drosto.

Blynyddoedd cynnar

[golygu | golygu cod]
Arch garreg Siwan ger porth Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares
Beddrod Siwan yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares. Fe gafodd ei symud yno o Lanfaes (ychydig filltiroedd i ffwrdd).

Roedd Siwan (Joan neu Joanna) yn ferch ordderch y brenin John o Loegr a merch lys o'r enw Clementia Pinel. Ni wyddys nemor ddim am ei mam, ond bu farw ar y 30 Mawrth, 1237.[1]

Mae'n bosibl y ganed Siwan cyn i John briodi ei wraig gyntaf yn 1189, ond ni ellir fod yn sicr am hynny gan fod cyn lleied o dystiolaeth. Dim ond un cyfeiriad sydd at enw ei mam - os cywir y cofnod - a hynny yng Nghronicl Tewkesbury, sy'n cyfeirio ati fel "reginæ Clemenciæ" ('Y Frenhines Clementina').[1] Treuliodd Siwan ei phlentyndod yn Ffrainc, yn ôl pob tebyg; cafodd ei hebrwng o Normandi er mwyn paratoi ar gyfer ei phriodas yn Rhagfyr 1203.

Gwraig a chynghorwraig

[golygu | golygu cod]

Priododd Lywelyn Fawr yn 1205. Mae'n bosibl nad oedd hi ond rhwng deng a phymtheg mlwydd oed, ond doedd hynny ddim yn beth anghyffredin yn yr oes honno. Priodas wleidyddol ydoedd, yn sêl ar y cytundeb a wnaed rhwng Llywelyn a'r brenin John yn 1204. Ffrangeg Normanaidd fyddai mamiaith Siwan, gan iddi gael ei magu yn Ffrainc a gan mai honno oedd iaith llys y cyfnod hwnnw yn Ffrainc a Lloegr fel ei gilydd. Ychydig iawn o Saesneg fyddai ganddi, os o gwbl, ond gellid tybio ei bod wedi dysgu Cymraeg ar ôl dod i fyw i Wynedd.

Chwaraeodd Siwan rôl bwysig yn y trafodaethau diplomyddol rhwng Llywelyn a John, er enghraifft, pan aeth i weld ei thad ar ran y tywysog yn 1211, a rhoddai gyngor buddiol i Lywelyn. Bu'n cynnal trafodaethau â'i hanner brawd Harri (Harri III) yn 1225, 1228 a 1232 yn ogystal.

Carwriaeth

[golygu | golygu cod]
Garth Celyn, Aber; mae'n bosib mai yma y carcharwyd hi gan ei gŵr.

Cafodd garwriaeth â Gwilym Brewys (William de Braose), arglwydd Normanaidd o Frycheiniog, yn 1230. Carcharwyd Siwan gan Lywelyn am flwyddyn (hynny yw, fe'i cadwyd dan wyliadwriaeth) fel cosb am hynny ac fe grogwyd Gwilym Brewys ganddo ar ôl ei ddal. Yn ôl traddodiad lleol, o flaen prif lys y tywysog yn Abergwyngregin y crogwyd Brewys, ond ceir traddodiad arall sy'n lleoli'r crogi yng Nghrogen, ger Y Bala. Cyfeiria Brut y Tywysogion at y digwyddiad ond heb nodi'r lleoliad. Gyrrod y weithred ias o ddychryn drwy Gymru, Lloegr a Ffrainc am fod un o 'flodau marchogion y Norman' wedi cael ei grogi yng ngolau dydd o flaen torf o bobl gyffredin. Mae'n arwyddocaol nad ymyrodd frenin Lloegr, cymaint oedd awdurdod Llywelyn Fawr.

Cadwyd hanes carwriaeth Siwan a Gwilym Brewys ar gof gan y werin a cheir traddodiad a rhigwm amdano. Yn ôl yr hanes, crogwyd Gwilym heb yn wybod i Siwan. Daeth un o weision neu filwyr y tywysog ati yn ei stafell a gofyn iddi,

Dicyn, docyn, gwraig Llywelyn,
Beth a roi di am weled Gwilym?

Atebodd Siwan,

Cymru, Lloegr a Llywelyn
A rown i gyd am weled Gwilym.

Yna fe hebryngwyd hi i ffenestr a dangoswyd iddi ei gordderchwr ynghrog wrth gangen o goeden.[2]

Mae'r hanesyn am berthynas Siwan â Gwilym Brewys yn sail i ddrama fydryddol enwog Saunders Lewis, Siwan.

Cymodi

[golygu | golygu cod]

O fewn tua blwyddyn fe ymddengys ei bod wedi cymodi'n llwyr â Llywelyn. Cynghorodd ei gŵr yn 1232 a bu'n llysgennad iddo eto yn llys ei frawd, Harri III yn Llundain.

Bu farw Siwan yn llys Abergwyngregin (Garth Celyn) ar 22 Chwefror 1237.[3] Sefydlodd ei gŵr fynachlog er cof amdani yn Llan-faes ar Ynys Môn, mewn golwg dros Afon Menai o'r llys yn Aber. Claddwyd hi mewn urddas gan Lywelyn ym Mhriordy Llan-faes.

Heddiw mae arch garreg Siwan gyda'i delw arni i'w gweld yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares ar yr ynys. Cafodd ei symud yno yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol. Ceir plac uwchben yr arch yn rhoi ei hanes.

Addasiad o ddrama Saunders Lewis: 'Siwan a Cherddi Eraill'

Cafodd Llywelyn sawl plentyn gan fwy nag un gymar. Gan Siwan cafodd:

  • Dafydd (c. 1215-1246): priodi Isabella de Braose
  • Margaret: priodi Syr John de Braose, ŵyr Gwilym Brewys
  • Elen (1207-1253)
  • Gwladus Ddu. Nid oes sicrwydd mai Siwan oedd mam Gwladys. Yn ôl rhai cofnodion roedd hi'n ferch iddo gan un o'i wragedd gordderch.

Credir mai Tangwystl Goch, un o'i gwragedd gordderch, oedd mam Gruffudd, brawd hŷn Dafydd. Dyna pam dewisodd Llywelyn Ddafydd yn edling (etifedd ac olynydd) iddo.

Roedd ganddi ferch, hefyd, o'r enw Susanna, ond ni wyddom pwy oedd ei mam.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Charles Cawley: Medieval Lands, Wales
  2. William Williams, Prydnawngwaith y Cymry (1822). Dyma'r cofnod cynharaf o'r traddodiad llafar lleol hwn, fe ymddengys.
  3. [1] Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  • Siwan, drama Saunders Lewis