Sgwrs:Y Dywysoges Siwan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Crogiad Crogen?[golygu cod]

Ynyrhesolaf, gyfaill, a fuaset mor garedig a nodi ffynhonnell y newid; fe ddywedi yn rhywle: Oxford DNB), bydda'n wych ei ychwanegu fel ffynhonnell o fewn yr erthygl; mae Wiki hithau'n cytuno a thi, ond ddim yn nodi'r ffynonellau. Dylai fod gennym ni lawer iawn mwy o ffynonellau ar Wici. Mae geirwirdeb y cyfan yn hanfodol. Diolch i ti, gyfaill. Llywelyn2000 22:28, 18 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Ia, pa mor ddibynadwy ydy'r DNB pan mae'n dod i bethau Cymreig beth bynnag? Mae hyn yn groes i bob traddodiad lleol, yn bendant (un o Aber oedd fy modryb, heddwch i'w llwch). Dwi ddim yn deud nad ydyw'n wir, ond mae angen ffynhonnell gadarn a gorau oll cael mwy nag un. Gyda llaw, Llywelyn, ar ôl siecio hanes y dudalen ar y wici Saesneg dwi'n gweld mai Ynyrhesolaf ychwanegodd y wybodaeth yno hefyd, heddiw (neu ddoe erbyn hyn - dwi yma'n hwyr eto!). Mae crogi rhywun mewn lle o'r enw Crogen yn swnio braidd yn amheus hefyd... :-) Anatiomaros 00:21, 19 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Cyfeillion, mae'n ddrwg iawn gennyf am fethu ymateb i'r cwestiynnau yma; mae materion beunyddiol, fel petai, wedi achosi fy absenoldeb yn y misoedd diwethaf!

Ynglyn a hwn, wnai fwrw golwg dros y ffynhonell yn y DNB. Hyd y cofiwn, cafodd ei ysgrifennu gan J. B. Smith (neu, efallai, Huw Pryce). Dylwn ddweud hefyd bod Huw Pryce (The Acts of Welsh Rulers 1120-1283, Cardiff: 2005) yn dweud y canlynol (t. 429):

... according to Nicholas, abbot of Vaudy, writing to the chancellor Ralph Neville soon after 18 May 1230, William was hanged from a tree at Crogen (a princely manor near Bala) on 2 May 1230 in the presence of over 800 persons.

Mae'n nodi mai A. D. Carr wedi cyfeirio at hwn hefyd yn ei draethawd 'The Barons of Edeyrnion, 1282-1485' (Journal of the Merioneth History and Record Society 4, 187-93).

Mae hwn yn ddigon da i mi: adroddiad cyfoes gan berson dibynnadwy (does yna ddim rheswm i rywun fel Nicholas i ddweud celwyddau am ddigwyddiad o'r math hwn, rwy'n cymryd). Dwi ddim yn gwybod beth yw sail y traddodiad lleol, ond os nad oes ganddo dytiolaeth bendant i'w gefnogi, efallai dylai rywun ddechrau sgwrs ar yr holl dudalennau'r Wiki Saesneg sydd yn cofnodi crogiad Gwilym yn Abergwyngregyn. Maen nhw i gyd yn cyfeirio at hwn heb air, hyd yn oed, am y wybodaeth yn Pryce a Carr. Gobeithio bod hyn yn helpu, gyfeillion. Ynyrhesolaf 11:37, 30 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Diolch i ti am yr esboniad manwl, Ynyrhesolaf. Y peth gorau i'w wneud i'w nodi hyn, gyda'r ffynhonellau, a'r traddodiad lleol hefyd (hyd yn oed os ydyw heb sail hanesyddol, o bosibl, mae'n rhan o'r hanes - 'cof gwerin' a ballu...). Dwi'n dal i feddwl fod crogi rhywun yng Nghrogen yn swnio'n "gyfleus" braidd, ond wedyn mae pethau rhyfeddach i'w cael mewn hanes! Anatiomaros 16:04, 30 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Symud[golygu cod]

Dwi wedi symud hyn i Y Dywysoges Siwan. Roeddwn i wedi cael llond bol o weld y teitl trwsgl 'Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)' ar ben y ddalen! Symlach a mwy urddasol o lawer. Anatiomaros 19:31, 29 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Dyddiad Geni Siwan?[golygu cod]

Mae gwahaniaeth rhwng Wici a Wiki yn dyddiad geni Siwan! Pa un sy'n gywir? Yn ail, oedd ganddi hi ferch o'r enw Susanna? Ysgol Rhiwabon 09:41, 5 Hydref 2009 (UTC)[ateb]

Cwestiwn da, gyfaill, a'r gwir ydy does posibl gwybod pryd yn union cafodd ei geni. Mae'r awdurdodau'n amrywio yn ei hamcangyfrifon neu'n osgoi'r anhawster trwy beidio cyfeirio ato o gwbl! Ceir dryswch llwyr ynglŷn â'i mam hefyd. Mae rhai haneswyr yn dweud yn unig - yn ddoeth, efallai - 'fod enw ei mam yn anhysbys' ond ei bod hi'n un o ordderchwragedd John. Po fwyaf dwi'n chwilio mwya yn y byd dwi'n dechrau drysu hefyd. Doedd yr un o'r "awdurdodau" dwi wedi darllen hyd heddiw yn crybwyll hanesyn Syr John Wynn o Wydir yn ei The History of the Gwydir Family: yn ôl Syr John, roedd hi'n ferch i Agatha, ferch Robert Ferrers, Iarll Derby. Digon o ddewis felly! Yn nes ymlaen dwi am roi'r pytiau yma i mewn a rhoi nodyn am yr ansicrwydd am ei dyddiad geni. Y cwbl medrem ni wneud ydy cofnodi hyn oll a gadael i amwysedd y dystiolaeth siarad drosto ei hun. Diolch am eich diddordeb a'ch cyfraniadau. Anatiomaros 18:58, 5 Hydref 2009 (UTC)[ateb]
ON Roedd gan Lywelyn Fawr ferch o'r enw Susanna, mae'n ymddangos (cafodd o leia bedair o ferched) ond mae'n ansicr pwy oedd ei mam. Fel nifer o frenhinoedd a thywysogion y cyfnod, yng Nghymru a'r tu hwnt, cafodd Llywelyn sawl plentyn "anghyfreithlon" (syniad ni heddiw ydy hynny: roedd 'plentyn perth a llwyn' yn cael ei adnabod dan Gyfraith Cymru a doedd dim gwarth o gwbl am fod yn ffrwyth perthynas y tu allan i briodas). Dydw i ddim wedi gweld honiad fod Susanna yn ferch i Siwan. Anatiomaros 19:04, 5 Hydref 2009 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr am y wybodaeth. Rydym wedi ychwanegu Susanna fel un o ferched Llywelyn. Beth fyddai'r sillafiad Cymraeg? Ysgol Rhiwabon 09:28, 7 Hydref 2009 (UTC)[ateb]