Gwilym Brewys
Gwedd
(Ailgyfeiriad o William de Braose)
Gwilym Brewys | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mai 1197 |
Bu farw | 1230 o crogi Penfro |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | Arglwyddi'r Mers |
Tad | Reginald de Braose |
Mam | Grecia de Briwere |
Priod | Eva Marshal |
Plant | Maud de Braose, Eleanor de Braose, Eva de Braose, Isabella de Braose, Joan de Braose |
Arglwydd y Fenni, Brycheiniog, yn ne-ddwyrain Cymru oedd y Normaniad Gwilym Brewys neu William de Braose (1197 – 3 Mai 1230). Gelwyd ef gan y Cymry gyda'r enw Gwilym Ddu.[1]
Roedd yn fab i Reginald de Braose. Cafodd garwriaeth gudd â Siwan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth a merch y brenin John o Loegr, a arweiniodd at ei grogi gan y tywysog, efallai yng Nghrogen, ger Y Bala, yn 1230.
Mae drama fydryddol Saunders Lewis, Siwan, yn seiliedig ar y digwyddiad.
Priodi a phlant
[golygu | golygu cod]Priododd Gwilym Eva Marshal, Barwnes y Fenni a merch William Marshal, Iarll 1af Penfro a chawsant bedwar o blant:
- Isabella de Braose (ganwyd tua 1222), gwraig y Tywysog Dafydd ap Llywelyn
- Maud de Braose (ganwyd tua 1224 – 1301), gwraig Roger Mortimer, Barwn 1af Wigmore
- Eleanor de Braose (ganwyd tua 1226 – 1251), gwraig Humphrey de Bohun a mam Humphrey de Bohun, 3ydd Iarll Henffordd.
- Eve de Braose (ganwyd tua 1227 – Gorffennaf 1255), gwraig William de Cantelou.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig; adalwyd 3 Mai 2016