Sgwrs:Gwilym Brewys

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Reginald[golygu cod]

Roedd gan Gwilym Brewys fab o'r enw Reginald, a briododd Gwladus Ddu, mae'n debyg, sef merch Llywelyn Fawr. Ond mae angen atgyfnerthu hyn gyda ffynhonnell. Unrhyw syniadau? Ysgol Rhiwabon 14:08, 9 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Rydym newydd fod ar y Wiki a yn fama mai tad Gwilym oedd Reginald. Ydy hyn yn gwneud synnwyr? Bod Tad Gwilym Frewys yn briod i merch Siwan? Na! Ysgol Rhiwabon 15:11, 9 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi rhoi cysylltiad i erthygl Y Bywgraffiadur ar-lein ar y teulu. Rhion 17:25, 9 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Dyddiad geni[golygu cod]

Dwi'n amau dyddiad geni Y Bywgraffiadur fan hyn. Mae sawl llyfr ysgolheigaidd yn rhoi Mai 2 ac un ffynhonnell yn rhoi Mai 1. Y rheswm yw fod y llawysgrifau cynnar yn dweud ei fod wedi ei grogi "on the morrow of the feast of Philip and James" - dyna'r trawsgrifiad Saesneg beth bynnag, alla'i ddim dod o hyd i gyfieithiad llawn o'r ffynhonnell Lladin gwreiddiol arlein (nodyn ar enwiki, "Royal Letters of Henry III"). Mai 3 yw dyddiad yr ŵyl heddiw ond dim ond ers 1955. Yn wreiddiol roedd e ar Fai 1, felly mi fyddai Mai 2 yn gywir am ddyddiad ei grogi. --Dafyddt (sgwrs) 19:44, 3 Mai 2016 (UTC)[ateb]