Maud de Braose

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Maud de Braose
Ganwyd 1224 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Mawrth 1301 Edit this on Wikidata
Swydd Henffordd Edit this on Wikidata
Tad Gwilym Brewys Edit this on Wikidata
Mam Eva Marshal Edit this on Wikidata
Priod Roger Mortimer Edit this on Wikidata
Plant Edmund Mortimer, 2nd Baron Mortimer, Roger de Mortimer, Isabella Mortimer, Countess of Arundel Edit this on Wikidata
Llinach Teulu Mortimer Edit this on Wikidata

Uchelwraig Seisnig oedd Maud de Braose, Baroness Mortimer neu Matilda de Braose (1224 – ychydig cyn 23 Mawrth 1301)[1] ac aelod o deulu pwerus de Braos (Cymreigiad: Brewys),[2] a oedd yn berchen llawer o dir Arglwyddiaethau'r Mers. Ei gŵr oedd Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer, milwr enwog a barwn.

Adfeilion Castell Wigmore, Swydd Henffordd a fu'n gartef i Maud a Roger Mortimer.

Roedd Maud a'i theulu'n deyrngar iawn i frenin Lloegr yn ystod Ail Ryfel y Barwniaid, a chynllwyniodd i ryddhau'r Tywysog Edward o grafangau Simon de Montfort, 6ed iarll Swydd Gaerlŷr.[3]

Plentyndod[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei geni yng Ngymru yn 1224, yr ail ferch i'r arglwydd William de Braose (neu yn Gymraeg Gwilym Brewys) ac Eva Marshal. Roedd ganddi dair chwaer: Isabella (gwraig Dafydd ap Llywelyn), Eva (gwraig William de Cantilupe) ac Eleanor (gwraig Humphrey de Bohun). Pan oedd yn chwech oed, ar 2 Mai 1230 crogwyd ei thad gan y Tywysog Llywelyn Fawr am iddo gael affêr efo'i wraig Siwan. Ei thaid ar ochr ei mam oedd William Marshal, Iarll 1af Penfro.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Charles Cawley, Medieval Lands, England, Earls created 1207-1466
  2. Mitchell, tud.44
  3. Costain, The Magnificent Century, tud. 292-294

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Siwan, drama Saunders Lewis