Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer
| Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer | |
|---|---|
| Ganwyd | 1231 |
| Bu farw | 1282 |
| Dinasyddiaeth | Lloegr |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Tad | Ralph de Mortimer |
| Mam | Gwladus Ddu |
| Priod | Maud de Braose |
| Plant | Edmund Mortimer, Isabella Mortimer, Roger de Mortimer, Margaret de Mortimer, Ralph Mortimer, Sir William Mortimer, Sir Geoffrey Mortimer |
| Llinach | Teulu Mortimer |
Un o Arglwyddi'r Mers ac aelod o deulu pwerus Mortimer oedd Roger Mortimer (1231 – 30 Hydref 1282), Barwn 1af Mortimer.
Ganed ef yn 1231, yn fab i Ralph de Mortimer a'i wraig Gwladus Ddu, merch Llywelyn Fawr. Yn 1256 aeth Roger i ryfel yn erbyn Llywelyn ap Gruffydd am feddiant o arglwyddiaeth Gwrtheyrnion, ymladd a fyddai'n parhau yn ysbeidiol hyd farwolaeth yn ddau yn 1282. Ymladdodd dros Harri III, brenin Lloegr yn erbyn Simon de Montfort ym Mrwydr Lewes, pan orchfygwyd y bewnin gan de Montfort. Yn 1265 cynorthwyodd Mortimer i achub y Tywysog Edward o afael de Montfort, a gwnaethant gynghrair yn ei erbyn. Ymladdodd Morimer ym Mrwydr Evesham pan orchfygwyd de Montfort.
Plant
[golygu | golygu cod]Priododd Mortimer Maud de Braose, un o ferched Gwilym Brewys, yn 1247. Cawsant nifer o blant:
- Ralph Mortimer, bu farw 1276.
- Edmund Mortimer, 2il Farwn Mortimer (1251-1304)
- Isabella Mortimer, bu farw 1292.
- Margaret Mortimer, bu farw 1297.
- Roger Mortimer o'r Waun, bu farw 1326.
- Geoffrey Mortimer
- William Mortimer