Wicipedia:Y Caffi/archif/8

Oddi ar Wicipedia

Awgrymaf fod angen ail-ystyried sut yr ydym yn defnyddio'r categori/nodyn "eginyn" ("stwbyn" gynt). Mae yna dros filoedd o erthyglau yn y categori - gormod? Mae rhai ohonynt yn bitw bach ac yn debyg o gael eu hehangu, ond mae eraill yn cynnwys digon o wybodaeth perthnasol i fod yn ddigonol fel y maent, neu'n anhebyg iawn o gael eu hehangu. Fe fyddai'r categori'n fwy defnyddiol i ni petawn ni'n ei gyfyngu i'r erthyglau llai. Oes gan rhywun awydd ysgrifennu cyfarwyddiadau ynglŷn a'i ddefnydd? --Llygad Ebrill 13:51, 14 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

It might be worth starting to break the category into subcategories e.g. history stubs, geography stubs, language stubs like the English Wikipedia (en:Wikipedia:WikiProject Stub sorting/Stub types). Tigershrike 11:48, 18 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
Cytunaf yn llwyr ag awgrym Tigershrike. Mae 'na gymaint o erthyglau yn y categori 'egin' erbyn hyn fel ei fod yn wastraff amser braidd. Dydwi erioed wedi cael digon o amynedd i ddechrau chwilio trwy bob tudalen! Credaf byddai eginau Hanes, Daearyddiaeth a Llenyddiaeth yn gam i'r cyfeiriad iawn. Y dewis amlwg arall yw eginau sy'n ymwneud â Chymru (ar yr un llinellau neu fel categori cynhwysfawr am rwan?). Anatiomaros 22:25, 5 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno ei fod yn digaloni dyn bod rhan helaeth o'r 7000 erthygl ar Wicipedia yn egin. Mynd ati i ehangu'r egin sydd eisiau, yn amlwg. Ond dwi ddim wedi fy argyhoeddi y byddai trefnu'r egin yn ddosbarthiadau yn fwy o ysgogiad i fwrw ati gyda'r gwaith ehangu, h.y. o'm rhan i. Dwi ddim yn gweld bod ail-ddosbarthu yn werth yr ymdrech sylweddol y byddai ei hangen i'w gyflawni, a'n bod ni'n griw mor fach.
Un ffordd o leihau nifer yr egin rhywfaint byddai i gyfuno rhai erthyglau sy'n trin materion cysylltiedig. E.e. gallai'r erthygl fer (ar hyn o bryd) ar 'Un Nos Ola Leuad' fod yn adran yn yr erthygl ar 'Caradog Pritchard'. Nid dweud yr ydwyf nad yw 'Un Nos Ola Leuad' a Charadog Pritchard yn haeddu bobi erthygl. On ni fyddai erthygl cyfun gyda'r cynnwys presennol yn rhy faith. Petai'r adran ar Un Nos Ola Leuad yn tyfu'n ddigon hir i fod yn erthygl unwaith eto gellid ei symud yn ôl i'w thudalen ei hun.
Mae trefn cyfuno erthyglau yn bodoli eisoes ar en: Wikipedia:Merging and moving pages. Yn fras mae yno dudalen gymorth yn cynghori ar sut i gyfuno erthyglau trwy symud cynnwys un erthygl a newid y dudalen wag i fod yn dudalen ail-gyfeirio at yr erthygl gyfun. Mae ganddynt hefyd dudalen weinyddol ar gyfer cynnig cyfuno erthyglau pan fod cynnig dadleuol i'w drafod. Mae system ganddynt o farcio'r tudalennau a gynigir â nodyn, tebyg i'r system trin tudalennau amheus. Os nad oes gwrthwynebiadau af ati i lunio rhywbeth yn debyg ar gyfer Wicipedia – os nad oes neb arall am achub y blaen arnaf! (yn ogystal â rhywbeth ar yr egin hefyd, yn dibynnu a gaf i gyfle i wneud) Lloffiwr 20:44, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]


Wicillyfr Cymraeg[golygu cod]

Hello! Dysgwr dw'i, ond dw i'n ceisio sgwennu un Wicillyfr i addysg yr iaith Gymraeg. Dw i'n hoffi dechrau un llyfr gramadeg a un llyfr a la "Teach Yourself". Dw i wedi sgwennu tipyn o project, ond mae rhaid i mi helpu.... Ok, I'm struggling... A call to arms....anyone wish to contribute to a Welsh Wikibook [[1]]? Diolch! Kijog 16:13, 25 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]


Publicity[golygu cod]

I've received an email from Sandra Ordonez (sordonez@wikimedia.org) at the Wikimedia Foundation which may be of interest. As I'm hardly ever around here, would someone like to take over the response?

"A Welsh-American newspaper would like offer you guys free advertisement space. Would you guys be interested, and could you forward me a logo with some text maybe explaining what the Welsh Wikipedia is all about. I think its a great opportunity.....particularly since there are many Americans of Welsh descent or Welsh people who live in the States, that may not be aware of the site.

Please let me know if I can help in an any way gathering these materials. Or if I should contact someone else from the Welsh Wikipedia to get their opinion.

Sandy"

-- Arwel 23:14, 21 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n meddwl fod hyn yn gyfle gwych. Ydy pawb yn cytuno? Pwy sydd am anfon e-bost? Anatiomaros 16:46, 22 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Cytuno. Lloffiwr 12:57, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Ydy rhywun wedi ymateb i hyn? Mae David Gerard yn sôn amdani ar restr wikimediauk-l. Telsa 20:10, 3 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Oes rhywun yn teimlo fel ymateb i hyn? Buasai'n well i rywun sy'n fwy cyfarwydd na fi â hanes ac ystadegau'r wikipedia Cymraeg i'w wneud, ond dwi'n fodlon anfon gair os rhaid. Mae'n gyfle da ac does dim ymateb yma ers pythefnos bron! Anatiomaros 20:34, 7 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Byddwn yn falch petaech chi Anatiomaros yn cymryd at y gwaith o gyfansoddi hysbyseb. Rhowch drafft fan hyn os ydych am ymgynghori cyn anfon (dim bod rhaid gwneud hynny chwaith). Lloffiwr 17:12, 8 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Patrymluniau (Templates)[golygu cod]

Oes tudalen o batrymluniau ar Wicipedia (fel sydd ar Wikipedia)? Os oes, ble mae nhw, ac os ddim, sut mae mynd o gwmpas eu creu? Mae defnyddiwr wedi bod yn brysur yn creu erthyglau am glybiau pêl-droed Cymreig, a meddwl oeddwn i byddai'n neis cael patrymlun ar eu cyfer (fel hwn). Os nad ydi'n rhy anodd i greu un, dwi'n fodlon gwneud y gwaith cyfieithu/gosod dolenni, cyn belled a bod rhywun yn fy rhoi ar ben ffordd. --Ben Bore 15:31, 13 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Does dim rhestr o nodiadau gennym ni, ond mae'r mwyafrif yn y categori Categori:Nodiadau. Mae'r gwybodlenni (infoboxes) yn y categori Categori:Gwybodlenni. Os ydych chi'n teimlon'n barod i greu'r nodyn (byddai'n awgrymu o dan yr enw Nodyn:Gwybodlen Clwb pêl-droed) ewch ati i'w wneud, ond cymerwch gofal gyda'r cystrawen wici – weithiau gall un gamgymeriad bach gwneud llanast o'r holl beth! Ond os ydych chi'n cyfieithu o'r côd Saesneg dylech chi fod yn iawn. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:46, 13 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Infoboxes (Gwybodlenni) are generally created when there is enough demand for them on the wicipedia. One day an Album Infobox (Gwybodlen Albwm) will be created, but I think that we only have two album articles on the whole wicipedia, Mwng being one of them. Paul-L 13:24, 24 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]


Delweddau Wiki[golygu cod]

A oes modd defnyddio delweddau o'r Wiki Saesneg ar dudalanneu Wici Cymraeg, heb orfod eu hail fynnu-lwytho eto?

Diolch

Garynysmon 10:43, 17 Ebrill 2007 (UTC))[ateb]

Mae'n debyg nad yw'n bosib copio delweddau o wiciau eraill heblaw am Gomin Wicifryngau - gweler gwaelod y dudalen hon. Ydych chi wedi edrych ar Gomin Wicifryngau am y ddelwedd? Lloffiwr 12:39, 17 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, os nad yw'r llun ar Gomin Wicifryngau yna gall fod y cafodd ei lwytho cyn bod Comin Wicifryngau yn bod neu mae problemau hawlfraint yn ei hadel (atal) rhag cael ei roi ar Gomin Wicifryngau. Lloffiwr 12:53, 17 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Cwestiwn bach[golygu cod]

Dydy cwestiwn hwn ddim yn perthyn i Wicipedia, dweud y gwir, ond fe ddes i yma er mwyn ffeindio siaradwyr Cymraeg.

P'un yw'r sillafiad cywir -- "sgwd" neu "sgŵd"? Mae geiriadur Mark Nodine yn dangos nad oes het ar yr "w", ac mae'r map OS Explorer yn anghyson ("Sgwd yr Eira" ond "Sgŵd y Pannwr").

Diolch.

Yn ôl Geiriadur y Brifysgol, mae dau "sgwd"

  • 1. Sgwd yn golygu rhaeadr neu bistyll, dim tô bach (felly efallai mai "Sgwd y Pannwr" ddylai fod)
  • 2. Sgwd, neu amrywiad "sgŵd". yn golygu gwthio, "rhoi sgwd i rywun" - felly gallai'r ddau fod yn gywir yma. Rhion 12:48, 18 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr am dy gymorth. Ro'n i'n gofyn am yr ystyr gyntaf, mewn ffaith.

'Rhestr Gwylio' wedi newid i 'My Watchlist'[golygu cod]

Oes rheswm am hwn? Tomos ANTIGUA Tomos 23:28, 19 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Baneri Bychain[golygu cod]

A oes modd cael baneri bychain wrth ymyl enw i ddangos eu cenedligrwydd (fel y tudalen hon [[2]], er enghraifft), oc os felly, sut?

Diolch

Garynysmon

Yn debyg i erthygl y Scarlets? Bydd angen creu Nodyn arbennig ar gyfer rhai pel-droed. - Tomos ANTIGUA Tomos 17:16, 6 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Wiki Meetup yn ystod Eisteddfod Sir y Fflint 2007?[golygu cod]

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni bydd blogwyr yn cwrdd am flog-gwrdd (fel llynedd), unai ym Mhabell y Cymdeithasau ar y prynhawn Dydd Mawrth yn dilyn cyflwyniad ar wefannau a meddalwedd Cymraeg, neu at ddiwedd yr wythnos mewn lleoliad llai ffurfiol. A fydd aelodau Wicipedia'n mynychau'r Eisteddfod, ac a hoffech chi gwrdd?--Ben Bore 15:26, 16 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n debyg o fod yno. Cyfle i gyfarfod ac i ddenu mwy o gyfranwyr o bosib? --Llygad Ebrill 21:46, 16 Mai 2007 (UTC)[ateb]
Mae'n debyg y byddaf yn mynd i'r Eisteddfod ar un diwrnod - ond ni fydd clem gennyf pa ddiwrnod am hydoedd! Os digwyddaf fod yno ar y diwrnod cywir byddaf yn falch cael cwrdd â'm cyd-Wicipedwyr. Lloffiwr 18:48, 17 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Dwi yn yr un sefyllfa. Dwi'n gobeithio cael lifft yno gan ffrind am y diwrnod ond mae'n debyg y bydd hi'r funud olaf cyn imi gael gwybod. Buasai'n braf cael cwrdd â'n gilydd, yn sicr. Pwy a ŵyr, efallai bydd yn gyfle i denu cyfranwyr newydd i'r wicipedia hefyd. Anatiomaros 19:25, 17 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych yn debyg mai ar ddydd Iau y byddaf yn yr Eisteddfod. Oes rhywrai am gwrdd yn anffurfiol ar y diwrnod hwnnw? Lloffiwr 13:03, 3 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Tudalen gwahaniaethu[golygu cod]

Wedi i mi greu erthygl am borwr gwe Firefox, dyma fi hefyd yn creu tudalen gwahaniaethu gan bod nofel o'r un enw. Am ryw reswm pam dwi'n teipio 'Firefox' i'r blwch chwilio, mae'n mynd a fi'n syth at dudalen y nofel o'r un enw. All rhywun ddweud wrthai beth dwi'n wneud o'i le? Roeddwn yn meddwl efallai bod rhaid i'r 'bots' wneud eu gwaith gyntaf, ond mae'r dudalen gwahaniaethu wedi ei greu ar y 13eg o Ebrill.--Ben Bore 11:32, 18 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi newid enw'r dudalen gwahaniaethu o "Firefox (gwahaniaethu)" i Firefox. Gan nad oedd yna erthygl arall gyda'r teitl "Firefox" ar ei ben ei hun, does dim angen y "(gwahaniaethu)". Rhion 16:38, 18 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Petasai'r dau ystyr o bwys cyfartal, faswn i'n cytuno. Ond dylid bod erthygl gyda'r teitl "Firefox" ar ei ben ei hun (neu dudalen "redirect", o leiaf), achos mai'r borwr gwe ydy ystyr llawer mwy enwog na'r arall (dwi'n meddwl). Fasai'r dudalen gwahaniaethu yn well gyda "(gwahaniaethu)", felly. Edrychwch i'r fersiwn saesneg.

Nid oes ffordd 'cywir' i fynd ati gyda'r tudalennau gwahaniaethu. Gweler Wicipedia:Arddull#Tudalennau_gwahaniaethu am ragor o wybodaeth. Petai dim ond dau ystyr posib i Firefox byddwn i'n hepgor y dudalen gwahaniaethu yn gyfangwbl, yn cysylltu Firefox gyda'r dudalen ar y porwr gwe (y defnydd amlaf) ac yn croesgyfeirio rhwng y ddwy erthygl gyda brawddeg ar ben y dudalen. Ond gan ei bod yn bosib y bydd rhywun am greu erthygl am Firefox y ffilm a.y.b. yna mae angen tudalen gwahaniaethu. Nid oes dim yn digwydd yn awtomatig ynglŷn â'r tudalennau gwahaniaethu. Fel y dywed MH96 at y porwr gwe y bydd y rhan fwyaf am fynd ac felly galler fod wedi cadw'r dudalen gwahaniaethu o dan y teitl Firefox (gwahaniaethu), anfon rhywun sy'n chwilio am Firefox yn syth at Firefox (porwr gwe) a chynnwys brawddeg ar ben yr erthygl i gyfeirio at y dudalen gwahaniaethu. Dylai fod brawddeg gyswllt â'r dudalen gwahaniaethu ar ben pob erthygl sy'n cael ei restru ar dudalen gwahaniaethu. Lloffiwr 09:40, 20 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth[golygu cod]

Wnaiff rhywun sydd a'r hawl i wneud roi bloc (hir) ar IP 88.111.126.205 os gwelwch yn dda (y fandaliaeth gwrth-Gymreig arferol).Rhion 19:34, 10 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Wikimedia Election Notice[golygu cod]

If you are able, please translate this notice to as many possible languages and post it anywhere applicable.

The Wikimedia Election Committee is accepting candidates for the 2007 Wikimedia Foundation Board of Trustees election. Please see [3] for more information.

There is still time for a new candidate to be considered for election, and you may now endorse the candidate of your choice (up to 3 candidates) on the endorsements page, [4]. Please read the instructions carefully prior to endorsing. If you can translate the instructions, please do.

If you have any questions, please contact any member of the election committee, who are listed here [5].

Posted on behalf of the Election Committee,
Philippe

Dyma dasg ddiddorol iawn.

  1. eisteddwch gyda'ch paned o de
  2. chwiliwch am dudalennau sy'n cynnwys "yn ffodus" neu "yn anffodus"
  3. mae'n debyg bod y rhan fwyaf ohonynt yn mynegi barn
  4. golygwch nhw (bron) i gyd
  5. yfwch eich te sy wedi dod yn oer


Ychwanegu nodau arbennig at y bocs golygu[golygu cod]

Rwyf wedi ychwanegu'r bocs nodau arbennig sydd eisoes yn ymddangos wrth olygu trwy'r rhyngwyneb Cymraeg at y rhyngwyneb Saesneg hefyd. Mae'n bosib y bydd y bocs yn diflannu pan ddaw diweddariad i'r negeseuon o Mediwiki. Os bydd y bocs yn diflannu a rhywrai'n gweld colled ar ei ôl yna gadewch neges ar y Caffi ac fe'i ail-osodwn. Gobeithio y bydd y bocs o ddefnydd i'r rhai sy'n defnyddio'r rhyngwyneb Saesneg ar Wicipedia. Pob hwyl ar y golygu. Lloffiwr 18:46, 24 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Infoboxes tîmau pêl-droed[golygu cod]

Rwyf wedi trwsio'r infoboxes timau pêl-droed i ddangos lliwiau'r gwîsg y tîmau.Yn anffodus, mae "defaults" yr infoboxes yn ddangos crysau glas a trwsys a sannau gwyn am y gwisg cartrefol, a crysau gwyn a trwsys a sannau las am gwisg i ffwrdd! Rwyf wedi copïo'r pedwar llinellau o'r erthyglau yn y Wicipedia Saesneg (pattern_1a1, leftarm1, pattern_1a2, a leftarm2) i rhoi'r lliwiau cywir pob tïm yn yr Uwchgynghrair Cymru, ond mae rhaid i ni gwneud pob tïm Saesneg, Albaneg, a tramor hefyd! -- Arwel 00:21, 25 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Bot status for User:Byrialbot[golygu cod]

Hello! I ask for permission to run my interwiki bot Byrialbot here at the Welsh Wikipedia, and to get a bot flag for it.

  • Bot accout: User:Byrialbot (contributions)
  • Botmaster: User:Byrial
  • Botmaster's home project: da:User:Byrial
  • List of botflags on others wikipedias: als:, ar:, bat-smg:, be:, bn:, bs:, bpy:, ca:, ceb:, cs:, da:, de:, el:, en:, eo:, es:, et:, fo:, fr:, fy:, gl:, he:, hu:, id:, io:, is:, it:, ka:, ksh:, lb:, li:, lt:, lv:, mk:, ml:, mr:, ms:, nds:, nds-nl:, nl:, nn:, no:, pms:, pt:, ro:, ru:, simple:, sk:, sl:, sr:, sv:, ta:, tl:, th:, uk:, vo:
  • Purpose: Interwiki
  • Technical details: Interwiki using Pywikipediabot (constantly updated with CVS) starting from da:, nn:, no: and sv:. It mostly runs manually assisted and I try to solve found interwiki conflicts when I can.

It will soon begin to do test edits. Thank you! Byrial 14:00, 28 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Tynnu sylw gweinyddwyr[golygu cod]

Rwyf wedi drafftio nodyn newydd {{Atsylwgweinyddwr}} ([6] er mwyn i'r rhai sydd dynnu sylw gweinyddwr at rywbeth gael modd i'w wneud - e.e. cynnig newid i'r rhyngwyneb. Mae'r nodyn yn creu categori newydd ar gyfer y tudalennau hynny y mae'r nodyn arnynt. Gallem greu tudalen drafod newydd ar gyfer trafod y cynigion at sylw gweinyddwyr yn hytrach na'u bod yn cael eu trafod ar y Caffi neu ar 'Gymorth Iaith' - beth yw'r barn am hyn? Rwyf hefyd wedi drafftio tudalen newydd ar gyfer Wicipedia:Gweinyddwyr - gweler Sgwrs_Wicipedia:Gweinyddwyr sy'n ceisio egluro sut mae'r system yn gweithio. Ydy'r drafft yn synhwyrol? Lloffiwr 13:01, 30 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Wedi gweithredu'r hyn a gynigiwyd gan nad oes gwrthwynebiad i'r cynnig. Lloffiwr 11:03, 11 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Rhybudd golygu heb logio i mewn[golygu cod]

Rwy'n aml yn cael fy hun yn golygu heb fod wedi logio i mewn, un ai am fy mod wedi anghofio neu am fy mod wedi cael fy logio allan ac heb sylweddoli hynny. Y canlyniad wedyn yw bod cyfeiriad IP rhywun ar gael i'r byd ei weld. Mae yna faner amlwg iawn yn ymddangos ar dop y dudalen yn y Wici Almaeneg os yw rhywun yn ceisio golygu heb logio i mewn. Fyddai modd cael un debyg yn y Wici Cymraeg tybed? Rhion 13:07, 30 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Wedi rhoi bocs am y neges 'Dalier Sylw' ac wedi ehangu'r neges rhywfaint. Ydy e'n foddhaol fel hyn? Lloffiwr 15:41, 30 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Gwell o lawer - rwy'n meddwl fod hyn yn datrys y broblem. Diolch. Rhion 18:29, 30 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Enwau priod[golygu cod]

Dyma gopi o drafodaeth sydd wedi ei gladdu yn archif y caffi o dan y teitl Cymreigio enwau priod:

Mae trafodaeth ar maes-e ynglŷn â'r tuedd ar Wicipedia i Gymreigio enwau ffigyrau hanesyddol. Yr enghraifft defnyddiwyd oedd Catrin Parr, un o wragedd Harri VIII. Fel dwedodd rhywun yn y drafodaeth yna, mae'n ddigon cyffredin i gyfieithu enwau brenhinau a brenhinesau Lloegr, ond mae'n gallu bod yn dryslyd os ydy'r cyfieithiadauyn estyn i gynnwys ffigyrau llai amlwg. Yn ôl Wicipedia, enw merch Catrin Parr oedd Mair Seymour - o edrych ar hynny a ddim yn gwybod llawer am uchelwyr Lloegr, fyddai dyn yn tybio taw Cymro oedd ei gŵr hi.

A pham cyfieithu Catrin Parr a Catrin o Aragon, ac nid Siân Seymour, er enghraifft?

Nic Dafis 11:04, 27 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Yn bersonol, mae'n well gen i'r fersiynau wedi eu cymreigio ar y cyfan, gan eu bod nhw'n swnion well ynghanol braweddegau Cymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'r ieithoedd eraill yn gwneud rhywbeth tebyg: e.e. gweler y dolenni rhyngwici o Catrin Parr - Katarzyna, Katharina... Ond dwi'n cytuno fod rhai o'r enghreifftiau uchod yn ddryslyd. Dylai fod pob ffurf perthnasol ar enw'r person yng nghychwyn yn yr erthygl (a thudalen ailgyfeirio o'r enwau amgen) --Llygad Ebrill 15:38, 27 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]


A dyma gopi o'r drafodaeth ar dudalen sgwrs yr erthygl Mair Tudur a symudwyd i Mari Tudur:

Dwi'n eitha siwr mai Mari Tudur oedd hi, nid Mair Tudur...

Sorry to reply in English. These names are often a problem for me, as there seems to be more than one Welsh equivalent for some English names, Mary being a good example. How can we decide whether Mair or Mari is more appropriate? Deb 22:01, 7 Maw 2005 (UTC)
Dyna'r broblem gyda chyfieithu enwau pobol ac hefyd enwau lleoedd. Fy hunan dw i'n credu y dylid cadw at fersiwn yr iath wreiddiol oni bai bod yna ddefnydd o gyfieithiad Cymraeg ar gael yn hanesyddol. Er engraifft mai pawb yn derbyn Louis XIV o Ffrainc ac ddim yn meddwl am ei gyfieithu i Lewis yn saesneg neu Lewys yn Gymraeg. Byddai cyfieithu Dafydd ap Gwilym i David son of William yn gwbwl wallgo ac yn y blaen. Yn fy marn i dylid defnyddio fersiwn cyfieithiedig os oes yna draddodiad o'i ddefnyddio yn GYmraeg, fel arall cadw at y fersiwn yn yr iaith wreiddiol. Dyfrig
Dwi'n cytuno bod popeth yn dibynnu a oes yna draddodiad o ddefnyddio cyfeithiad yn y Gymraeg neu beidio. Ond yn aml iawn mae yna draddodiad, a dylwn ni chwilio amdano cyn penderfynu peidio â chyfieithu. Mae digon o gyhoeddiadau ar hanes y Tuduriaid yng Nghymru. Mae John Davies (Hanes Cymru) yn defnyddio Mari ar ei chyfer hi, a dwi'n credu taw hyn yw'r defnydd cyffredin heddiw. Yn sicr, Mari oedd y ffurf a ddefnyddid yng Nghymru yn ystod ei hoes. Dwi wedi symud yr erthygl (a chyfeiriadau eraill) i Mari I o Loegr. Yr un peth gyda Mari II. Daffy 12:31, 23 Awst 2006 (UTC)[ateb]

MARI yw'r ffurf safonol yn Gymraeg - dyna a ddefnyddir yn wastad ym mhob llyfr hanes amdani, er mai Mair yw'r ffurf Gymraeg arferol am Mary, wrth gwrs.--Anatiomaros 14:39, 23 Awst 2006 (UTC)[ateb]


Ar hyn o bryd rwyf wrthi, o dipyn i beth, yn newid teitlau brenhinoedd di-ri i gydymffurfio â'r canllaw ar deitlau brenhinoedd. Ond nid yw'n glir eto beth ddylid ei wneud ynglŷn ag enwau Saesneg, e.e. James ynteu Iago. O'm rhan i byddwn yn hoffi dilyn yr arfer gyffredinol ymysg llenorion cyfoes fel ag y mae mewn llyfrau tebyg i Hanes Cymru gan John Davies. Ond nid yw'r llenorion hyn i gyd yn cytuno chwaith.... O ddilyn arfer Hanes Cymru y rhain byddai enwau'r brenhinoedd ar Loegr (a'r Alban) - Harri, Gwilym I a II ond William III, James, Mari, Charles, Richard, Stephen, George, Victoria ac Elizabeth, Kenneth, Donald, Malcolm, David, John, Margaret. Lloffiwr 17:04, 30 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Yn gyffredinol mi fuaswn i'n ffafrio defnyddio'r enw yn yr iaith wreiddiol onibai bod yna ffurf Gymraeg sy'n wirioneddol yn fwy adnabyddus. Mae'r duedd fwy at hynny bellach, a llai o bethau fel "Buddug" am "Victoria"; yr un modd yn Saesneg mae pethau fel "Leoline" am Llywelyn wedi diflannu, ac mae'n ymddangos fod "Glendower" am "Glyndŵr" ar y ffordd allan hefyd. Y cwestiwn sy'n codi yw a yw'n iawn defnyddio ffurf Saesneg pan nad oedd y brenin ei hun yn siarad Saesneg - mae'n debyg nad oedd Gwilym I na nifer o'i olynwyr yn medru fawr ar yr iaith; felly hefyd frenhinoedd cynnar yr Alban. Dyma mae'n debyg pam mae John Davies yn defnyddio Gwilym I ond William III. Rhion 18:39, 30 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Rhifau a chystrawen rhyngwyneb Wicipedia[golygu cod]

Ar hyn o bryd mae cystrawen negeseuon rhyngwyneb Wicipedia {{PLURAL}} yn dilyn cystrawen y Saesneg, sef:

{{PLURAL|$rhif|cystrawen os yw'r $rhif yn 1|cystrawn ar gyfer pob $rhif arall}}.

e.e. 'Isod mae'r $rhif newidiad diweddaraf yn y $rhif diwrnod diwethaf.' (gweler MediaWici:rcnote)

'Mae yma $rhif o ddefnyddwyr cofrestredig, ac yn eu plith mae gan $rhif ohonynt ($rhif%) bwerau gweinyddwr.' (gweler MediaWici:userstatstext)

Nid yw'r gystrawen Saesneg yn cyfateb â'r gystrawen Gymraeg oherwydd 2 beth:

  1. Petai $rhif yn 0 mae angen negyddu'r frawddeg, e.e.

yn yr enghraifft uchod - '... ac yn eu plith nid oes gan neb ohonynt (0%) bwerau gweinyddwr.'
Rwyf wedi cael cyngor bod modd defnyddio'r gystrawen {{GRAMMAR}} i wneud hyn - byddai hyn yn caniatau cystrawen ar gyfer rhif 0 a chystrawen gwahanol ar gyfer pob rhif arall.

  1. Mae rheolau treiglo yn effeithio ar yr enw sy'n dilyn y rhifau un (b) (meddal); dwy/dau (meddal); tri (llaes); chwech (llaes); rhifau eraill (dim treiglad). Cyfanswm yr amrywiadau yw 5. (Mae nifer y posibiliadau ar gyfer y gair 'blwyddyn' llawer yn uwch na 5 – rhaid ceisio aralleirio i osgoi problemau gyda hwn.) Pan nad yw'r gair sy'n dilyn y rhif yn treiglo does dim angen PLURAL o gwbl! Mae modd defnyddio'r gystrawen "o dudalennau" ac osgoi'r broblem treiglo ond nid yw'n gystrawen hwylus bob amser e.e. 'Isod mae'r 2 o newidiadau diweddaraf yn y 5 o ddiwrnodau diwethaf' – tu hwnt o annaturiol. Felly rwyn cynnig ein bod yn gofyn am gael {{PLURAL}} gyda 5 posibilrwydd ar gyfer y rhyngwyneb Cymraeg.

Rwyf wedi cael cyngor bod modd defnyddio GRAMMAR a PLURAL ar y cyd i greu rhywbeth tebyg i hyn:-

{{GRAMMAR|if $1=0 Ni chafwyd unrhyw olygiad|Isod mae'r {{PLURAL $1 golygiad|olygiad|golygiad|golygiad|golygiad}}}} diweddaraf …

Byddai hyn yn rhoi i ni: 0: 'Ni chafwyd unrhyw olygiad …' 1: 'Isod mae'r 1 golygiad diweddaraf …' 2: 'Isod mae'r 2 olygiad diweddaraf…' 3: 'Isod mae'r 3 golygiad diweddaraf…' 6: 'Isod mae'r 6 golygiad diweddaraf…' Pob rhif arall: 'Isod mae'r 4,5,7,ayb golygiad diweddaraf…'

{{GRAMMAR|if $1=0 ddim yn gwylio unrhyw dudalen|yn gwylio {{PLURAL $1 dudalen|dudalen|tudalen|thudalen|tudalen}}}} (gan gymryd bod tudalen yn fenywaidd)

Gyda llaw 5 yw uchafswm yr amrywiadau ar PLURAL ar hyn o bryd ar feddalwedd wici ond mae modd ehangu'r nifer hwn.

Beth yw'r farn gyffredinol? Os ydy'r cynllun uchod yn gymeradwy fe holaf i ddatblygwyr y meddalwedd ysgrifennu'r côd ar ei gyfer ac yna af ati i ysgrifennu tudalen gymorth arno. Gweler - Wikipedia am eglurhad cyffredinol. Lloffiwr 14:43, 22 Gorffennaf 2007 (UTC)[ateb]

Mae'n swnio'n gwbwl resymol i fi. Dw i'n cefnogi Dyfrig 19:12, 22 Gorffennaf 2007 (UTC)[ateb]
Nodyn i ddweud fy mod wedi holi am gael PLURAL i'r Gymraeg ar Betawiki. Croeso i unrhywun sydd a diddordeb i ddilyn ei hynt a'i helynt yno, ac ymuno yn y trafod. Lloffiwr 16:58, 6 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Ychwanegu erthyglau[golygu cod]

Dwi wrthi'n ychwanegu erthyglau ar wahanol mathou o gloeon. Ydw hi'n iawn i mi rhoi dolen at wefan allanol (fy wefan i) lle mae gwybodaeth manylach am y pwnc mewn cwestiwn? Fel yr wyf i wedi neud gyda'r cyfraniad clo 5 lever?

Hefyd, ar ol i mi newid cofnod, ar y tudalen newidiadau diweddar, beth yw'r rhifau gwyrdd a coch mewn bracedi? nifer y llythrennau yr ychwangwyd neu a thynnwyd? Dewi

Anatiamaros wedi ymateb i'r paragraff cyntaf ar dudalen Sgwrs Defnyddiwr:Delyn Locksmiths. Ie, nifer y llythrennau a nodau eraill a ychwanegwyd neu a dynnwyd sy'n dilyn enw'r erthygl ar y dudalen newidiadau diweddar. Lloffiwr 17:01, 28 Gorffennaf 2007 (UTC)[ateb]


Administrator help required[golygu cod]

Hi - sorry for writing in English, but I tagged a couple of my images, Delwedd:Tivedshambo 2006-10-28 Mallwyd waterfalls.jpg and Delwedd:Tivedshambo 2006-03-04 Borth in snow.jpg for deletion some time ago, as they are both low resolution copies of images on Commons. They have not yet been deleted, and there are other entries in Categori:Tudalennau amheus which also seem to have been there for some time. Could an administrator look at this please. Diolch yn fawr. – Tivedshambo 21:08, 30 Gorffennaf 2007 (UTC)[ateb]

Dwi wedi dileu'r hen ddelweddau (Mallwyd a Borth) / I've deleted the redundant images. Anatiomaros 22:18, 30 Gorffennaf 2007 (UTC)[ateb]

Bot status for PipepBot[golygu cod]

Hello! I ask for permission to run my interwiki bot PipepBot here, and to get a bot flag for it.

  • Operator: it:User:Pipep
  • Purpose: Interwiki
  • Software: Pywikipedia
  • Have bot flag at: als, am, bat-smg, be-x-old, bn, bs, cv, da, en, eo, et, fo, nap, pms, simple, sl
  • Details: Interwiki using Pywikipediabot. It mostly runs manually assisted. May run automatically in some cases.

It will soon begin to do test edits. Thank you! --it:User:Pipep 13:13, 1 Awst 2007 (UTC)[ateb]

All rhywun roi statws bot iddo fe yn gyflym os gwelwch yn dda? Ac i Benoni hefyd. Mae Recent Changes yn lawn i ben o'u newidiadau robotig. Mh96 21:30, 2 Awst 2007 (UTC)[ateb]

PipepBot has now bot status. Thank you! it:User:Pipep 19:54, 1 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Dileu Erthyglau a Chategoriau[golygu cod]

Falle fod hwn yn gwestiwn bach dwl, ond sut mae dileu categoriau neu erthyglau di-angen, er engraifft [Categori:Marwolaethau 1700au]? Mae'r rhanfwyaf wedi eu creu gan gangymeriad sillafu. Dwi'n deallt fod modd symyd erthyglau ond nid categoriau i enwau newydd, ond beth yw'r drefn pan fydd erthygl yn bodoli odan yr enw cywir yn barod!? Thaf 14:24, 16 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Fel arfer, creu ail-gyfeiriad o'r sillafiad anghywir i'r un cywir yw'r drefn. Dim ond gweinyddwyr sy'n gallu dileu tudalennau dwi'n meddwl. Mae ail-gyfeirio yn well ar y cyfan, achos wedyn fe fydd darllenwyr sy'n camsillafu'n dod at y dudalen gywir! I wneud hynny, dileër cynnwys y dudalen, a rhoi #AIL-CYFEIRIO[[Teitl cywir]] (sic) yn ei le. DIolch am eich cyfraniadau diweddar! Hwyl, --Llygad Ebrill 10:31, 17 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Weithiau mae categori sydd wedi ei greu ar ddamwain yn pallu diflannu hyd yn oed wedi i ddyn gael gwared ar y cysylltiadau i'r categori. Mae hyn yn digwydd pan mae rhywun wedi ysgrifennu rhywbeth ar dudalen y categori (e.e. cyswllt wici i gategori uwch) a thrwy hynny wedi creu hanes i'r dudalen. Er mwyn dileu tudalen gategori fel yma, gallwch dynnu sylw gweinyddwr ati trwy roi nodyn amdani ar Wicipedia:Tudalennau amheus. Os cofiaf yn iawn mae dileu'r tudalennau categori bach yn lletchwith ond edrychaf ar Categori:Marwolaethau 1700au cyn bo hir er mwyn chwilio am y ffordd gorau o gael gwared ar y rhain. Mae'n well cael gwared ar gategorïau diangen gan nad ydym am greu llwybrau cyfochrog i'r cadwyni categorïau. Lloffiwr 13:19, 17 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Mae'r system yn gyndyn yn erbyn cael gwared o'r categori diangen hwn (ac eraill, mae'n debyg). Dwi newydd "dileu" [[Categori:Marwolaethau 1700au]] dim ond i gael gwybod ei fod eisoes wedi'i "ddileu" saith waith yn barod! Ac mae'n dal yno. Syth ar ôl ei ddileu rhoddais yr enw yn y blwch chwilio a chael yr un dudalen eto. Od iawn. Tybed oes rhywun yn deall hyn? Anatiomaros 14:02, 17 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Rwyn gweld eich bod wedi llwyddo dileu 'Categori:Marwolaethau 1700au' - llongyfarchiadau. Sut doethoch i ben â gwneud hyn? Gyda llaw, nid oes modd defnyddio #ail-cyfeirio (sic) ar dudalen categori. Lloffiwr 17:17, 17 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Mae gen i ofn fod eich llongyfarchiadau yn gynamserol braidd, Eleri. Dwi ddim yn deall sut mae'n digwydd, ond mae'n ymddangos fod y categori yn cael ei ailgreu gan y meddalwedd yn ddiofyn. Rhoddais yr enw yn Chwilio jest rwan, ar ôl darllen eich neges yma, a chlicio 'Mynd'. Roedd y Categori yno, gwaetha'r modd, ond sylwais hefyd ei fod wedi'i greu ar yr eiliad imi gyrraedd (mae'n nodi'r amser gyda'r dyddiad creu: felly 1832=1932 heddiw)!!! Mae angen cymorth technegol gan rywun i ddatrys hyn. Anatiomaros 18:44, 17 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Newydd siecio eto a dyma'r wybodaeth a geir: "Categori:Marwolaethau 1700au / Perthnasedd: 87.4% - 0.1KB (12 gair) - 18:44, 17 Awst 2007". Felly yn bendant mae'n cael ei ailgreu o'r newydd. Ond pam? 'Dirgelwch i rai i'w deall...'! Anatiomaros 18:47, 17 Awst 2007 (UTC)[ateb]
It works OK for me. Perhaps the database was slow at updating when you had this problem. Paul-L 15:33, 19 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Ôl-nodyn. Dydi'r dudalen ei hun ddim yn bod, serch hynny. Neu'n hytrach, mae'n bod ac eto dim yn bod.... Anatiomaros 19:02, 17 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Llongyfarchiadau ar Ddydd Dim Gŵyl Dewi[golygu cod]

Welcome to Not St David's Day.

This is the Furthest Away from any St David's Day. Most of the time, the furthest that you can be from any St David's Day is 182 days. But on the 31st of August before a Leap Year, you can be a full 183 days away from any St David's Day.

I would tell you more, but I have just eaten a piece of mouldy bread, so I have to log off now.

I was in Wales yesterday. I didn't realise it was traditional to eat mouldy bread when 183 days away from St Davids Day. Laver bread maybe ;-)  – Tivedshambo (talk) 22:06, 1 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Categorïau[golygu cod]

Mynegai i'r categorïau?[golygu cod]

Ar hyn o bryd nid oes mynegai i'r categorïau ar ffurf tebyg i'r Categorical index ar Wikipedia. Byddai siwr o fod yn gaffaeliad i'r darllenwyr cael mynegai o'r fath. Oes awydd ar rywun i fynd ati i gynllunio mynegai i'r categorïau? (At present there is no categorical index on Wicipedia. Would anyone like to design one?)

Adam wedi cynnig mynd ati i ddylunio mynegai (diolch iti, Adam). Lloffiwr 20:37, 3 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Dyma'r drafft cyntaf ar gyfer y mynegai i'r categorïau. Byddai'n falch o unrhyw adborth ac awgrymiadau am welliannau ar y dudalen sgwrs. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:59, 22 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Ydy'r drafft nawr yn barod i'w gadw fel Wicipedia:Mynegai i'r categorïau neu oes unrhyw awgrymiadau i'w wella? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 18:01, 6 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Heb edrych ar bopeth, ond mae gennym y categori 'Cyfnodau hanes' sy'n cyfateb i 'Hanes yn ôl cyfnod' gyda dolenni rhyngwici e.e. i en. 'History by period.' Efallai dylem symud y cynnwys i 'Hanes yn ôl cyfnod.' Gyda llaw, mae'n edrych yn dda iawn. Bydd yn ddigon hawdd gwneud mymryn o fân diwnio yn nes ymlaen. Anatiomaros 18:14, 6 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Yn cefnogi rhoi'r dudalen ar waith - mae'n ddrwg gen i fod cyhyd cyn ymateb. Lloffiwr 15:25, 7 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]
Dyna ni. Dwi hefyd 'di rhoi cyswllt i'r mynegai ar y dudalen Hafan. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:54, 7 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Canllawiau categoreiddio?[golygu cod]

Ar hyn o bryd nid oes canllawiau na pholisïau gennym ar sut i greu, trefnu na defnyddio categorïau ar gyfer cyfranwyr na darllenwyr. Oherwydd hyn mae'r categorïau ar chwâl braidd gennym (er yn well nag a fuont trwy ddyfal waith sawl un). A allem drafod rhai o'r problemau gyda'r system categoreiddio a gweld a oes modd cynllunio canllaw a fyddai'n rhoi cyngor ar sut i fynd ati i gategoreiddio? Hyd yn oed os na gytunwn ar egwyddorion categoreiddio gallem ddisgrifio'r gwahanol opsiynau mewn canllaw fel bod y cyfranwyr yn deall effaith y gwahanol ffyrdd o gategoreiddio. Mae tudalen gymorth sylfaenol ar gategoreiddio ar wikimedia. Mae Commons:Categories yn ddefnyddiol ac hefyd Wikipedia:Categorisation FAQ a Wikipedia:Categorization. (At present we don't have guidelines or conventions on creating, organizing and using categories for contributors or readers. Because of this the categories are a little disorganized (although getting less so). Can we discuss some of the problem areas and see whether we can agree on a common approach? Even if we do not come to a consensus we could record the options in a guideline so that so that contributors understand the effect of different ways of categorizing.)

Nodyn ar y ddau ffordd o is-gategoreiddio[golygu cod]

Mae yn bosib poblogeiddio'r prif gategorïau'n llawn fel maent yn gwneud ar Wikipedia Almaeneg e.e. Categori Arlunwyr. Mae rhyw 600 o bobl yn y categori hwn. Mae hyn y gwrthwyneb i'r polisi ar Gomin Wicifryngau lle nad oes unrhyw erthyglau i fod yn y categori Arlunwyr, dim ond yn yr is-gategori gwaelod yn deg o'r llinyn categorïau.

Lloffiwr 17:49, 2 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n sylwi bod ambell gyfrannwr ddim yn trefferthu rhoi categoriau o gwbwl wrth greu eginau, tra dwi efallai'n euog o or-gategareiddio (drwy ddefnyddio categariau sy'n bodoli). Dwi wedi creu un neu ddau gategori newydd fy hun (eg Toronto a Prifysgolion Canada wedi i rhywun greu egin Prifysgol Toronto). Oes na rhyw fath o ganllawiau 'hierachiaeth' cyffredinol i'w dilyn?--Ben Bore 15:19, 13 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Gol. Sori, newydd weld y pwynt uwchben sy'n cyfeirio at ganllawiau ar y Wikipedia. A'i i'w darllen nhw rwan!--Ben Bore 15:21, 13 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Categorïau pobl[golygu cod]

Gweler y canllaw ar gategoreiddio pobl ar Wikipedia.

Categorïau 'pobl enwog'.[golygu cod]

Mae rhai categorïau ar Wicipedia yn cynnwys y gair 'enwog', e.e. [:Categori:Cymry enwog] a Categori:Cristnogion enwog. Pwy sydd i ddweud a yw rhywun yn ddigon enwog i fod yn y categorïau yma? Byddai'n well gen i weld categorïau sydd mor wrthrychol â phosib – rwyn gweld y busnes 'enwog' yma'n ddi-anghenraid o ddadleuol. A allwn ni gytuno i beidio a rhoi neb arall yn y categorïau yma a chael gwared ohonynt o dipyn i beth trwy symud y rhai sydd ynddynt i'w categori cenedlaethol priodol, e.e. symud y rhai sydd yn 'Cymry enwog' i'r categori 'Cymry', neu rhyw is-gategori addas o'r 'Cymry'. (Some categories on Wicipedia contain the word 'famous'. What is the definition of famous? Can we agree to not put any more people in the famous category and move those who are little by little to their nationality category?)

Egwyddorion categoreiddio pobl[golygu cod]

Y categori pwysicaf – yn ôl y rheswm bod yn Wicipedia[golygu cod]

Pan ddechreuodd Wicipedia dechreuwyd llawer o erthyglau heb eu categoreiddio o gwbl. O dipyn i beth ychwanegwyd categorïau. Yn anffodus rhoddwyd llawer o erthyglau ar bobl mewn categorïau blynyddoedd marw a geni yn unig, ac weithiau mewn categorïau cenedligrwydd. Yn ddiweddarach yn unig y daethom i'r arfer o osod pobl mewn categorïau yn ôl y rheswm eu bod yn Wicipedia. A allwn ni gytuno mai'r math pwysicaf o gategori y dylai person fod ynddo yw'r categori sy'n disgrifio'r rheswm ei fod yn Wicipedia (neu categorïau os oes sawl rheswm bod person yn wicipedia)? E.e. byddai William Wallace yn cael ei osod mewn categori (neu is-gategori i'r categori) Categori:Gwladweinwyr. (When Wicipedia started a lot of articles were not categorized at all. Slowly articles on people acquired categories for years of birth and death, then nationality then later on the category for the reason of inclusion in Wicipedia. Can we agree that the most important type of categorisation for a person is the reason(s) that they are in Wicipedia?)

Is-gategoreiddio yn dilyn sawl llinyn[golygu cod]

Os oes cytundeb ar yr egwyddor uchod yna gallwn drafod y ffordd orau i fynd ati i greu is-categorïau synhwyrol ar gyfer y prif gategorïau yma, lle mae'r rheiny'n fawr iawn, e.e. Categori:Beirdd. Byddwn i fy hunan yn hoffi gweld is-gategorïau mor wrthrychol â phosib. Dyma rai enghreifftiau:

  • Mae'n well gennyf Categori:Arlunwyr a aned yn yr 20fed ganrif na Categori:Arlunwyr o'r Eidal.
  • Mae'n well gennyf Categori:Cemegwyr a aned yn y 19eg ganrif na Categori:Cemegwyr Ewrop.

Wrth gwrs mae rhai is-gategorïau 'naturiol' i'w cael, e.e. is-gategorïau

  • pwnc o fewn 'gwyddoniaeth' – bioleg, cemeg, ayb;
  • iaith ar gyfer llenorion – Cymraeg, Saesneg
  • gwlad ar gyfer gwleidyddion a gwladweinwyr

I grynhoi, mae'n well gennyf weld is-gategorïau canrifoedd neu gyfnodau geni i'r is-gategorïau daearyddol neu genedlaethol neu genedligrwydd. Wedi dweud hyn rwyn deall yn iawn bod cenedligrwydd, er ei fod yn gategori dadleuol iawn (mwy am hyn isod) o ddiddordeb i'r cyfranwyr (mae'r holl gategoreiddio yn ôl cenedl sydd wedi digwydd eisoes yn dyst i hynny). Beth sydd yn digwydd ar y rhan fwyaf o Wicipediau eraill yw bod Arlunwyr ar Gomin Wicifryngau e.e. yn rhannu yn sawl llwybr o is-gategorïau: Painters by period, Painters by style, Painters by Country, Alphabetic list of painters. Yr hyn sydd gen i, rwyn credu, yw gofalu peidio ag is-gategoreiddio ar sail cenedligrwydd yn unig, neu dras yn unig.

Er enghraifft mae Edward Lhuyd wedi ei osod yn y catetgorïau Cymry enwog a Botanegwyr, ymhlith eraill. Fel ag a soniwyd uchod byddai'n well gennyf weld 'enwog' yn diflannu. Mae'r categori Cymry eisoes yn fawr iawn felly da o beth fyddai gweld y categori'n cael ei is-gategoreiddio rhywbeth yn debyg i hyn? –

  • Cymry yn ôl cyfnod eu geni
    • Cymry a aned yn yr 17eg ganrif. (Edward Lhuyd)
  • Cymry yn ôl yr wyddor Gymraeg (gyda'r llythrennau dieithr K, Q, V, X, Z wedi eu hychwanegu)
    • Cymry Ll (Edward Lhuyd) (yn ôl cyfenw, neu enw cyn bod cyfenwau'n bod)
  • Cymry yn ôl eu galwedigaeth
    • Gwyddonwyr o Gymru
      • Biolegwyr o Gymru
        • Botanegwyr o Gymru (Edward Lhuyd)

Petai'r categori Cymry a aned yn yr 17eg ganrif yn tyfu'n fawr iawn gellid ei rannu'n Cymry a aned bob yn ddegawd.

Nid yw'r categori Botanegwyr eto'n fawr iawn ar Wicipedia. Pe dyfai'n sylweddol neu petai rhywun yn rhagweld y byddai'n tyfu'n drwsgl o fawr yna gellid ei rannu i bedwar neu bum llinyn, yn ôl cyfnod, yn ôl yr wyddor (ar gyfer categorïau poblog iawn), yn ôl y math o waith botanegol arbennig mae'r person yn ei wneud, yn ôl y llefydd mae'r person wedi eu hastudio (hy Botaneg Cymru, Botaneg Awstralia), yn ôl cenedligrwydd. Byddwn i'n ei gweld yn fantais petawn yn cytuno i roi pawb yn y categori Botanegwyr yn rhywle yn y llinyn yn ôl cyfnod a'r llinyn yn ôl yr wyddor, hyd yn oed os nad yw'n ymddangos yn y llinynau eraill. Byddai Edward Lhuyd yn ymddangos yn y categorïau: Botanegwyr a aned yn yr 17eg ganrif, Botanegwyr yn astudio Botaneg Cymru, Botanegwyr o Gymru ond byddai'n diflannu o'r categori Botanegwyr – dim ond is-gategorïau byddai ar ôl yn hwnnw heb ddim erthyglau.

Os na chaiff categori botanegwyr ei is-gategoreiddio ond y caiff y categori Cymry ei is-gategoreiddio hyd at Botanegwyr o Gymru yna bydd Edward Lhuyd yn ymddangos yn y categorïau Botanegwyr o Gymru a Botanegwyr – sefyllfa ein bod yn gorfod byw gydag ef hyd y cawn ni ddigon o ddwylo i wneud y categoreiddio'n fwy trylwyr?

Ystyr Hynafiaethwyr Cymreig?[golygu cod]

Rwyf wedi cynnig Botanegwyr o Gymru yn hytrach na Botanegwyr Cymreig oherwydd yr amwyster ystyr: ydy Botanegwyr Cymreig yn astudio Botaneg Cymru, neu ydynt yn Fotanegwyr sy'n hanu o Gymru? Mae Edward Llwyd wedi ei gategoreiddio gyda'r 'Hynafiaethwyr Cymreig' – rhaid oedd edrych ar gynnwys y categori cyn cael ar ddeall mai hynafiaethwyr o Gymru oedd dan sylw (rwyn credu), nid pobl yn astudio hynafiaethau Cymru. Rwyn credu bod yn rhaid i ni ddiffinio'r categorïau ar dudalen y categori, e.e. ar Categori:Hynafiaethwyr Cymreig (symud y categori i Hynafiaethwyr o Gymru?) byddem yn dweud rhywbeth tebyg i 'Mae'r categori Hynafiaethwyr o Gymru yn cynnwys Hynafiaethwyr sy'n byw yng Nghymru neu'n hanu o Gymru'. A fyddai o fydd argymell llinell o ddiffiniad o'r categori ar bob tudalen gategori? (I have suggested Botanists from Wales instead of Welsh Botanists because of the ambiguity of Botanegwyr Cymreig – are they studying the botany of Wales or are they citizens of Wales? Perhaps it is best to include a short definition of each category on its page?)

Problemau gyda categoreiddio yn ôl cenedl a thras[golygu cod]

  • Mae'r rhan fwyaf o'r categorïau cenedlaethol wedi eu trefnu yn ôl trefn politicaidd y presennol. E.e. Mae Categori:Llydawyr yn is-gategori i Categori:Ffrancod, mae Categori:Dyneiddwyr Cymreig yn is-gategori i Categori:Dyneiddwyr Prydeinig. Bydd rhai aelodau o'r categorïau yma yn perthyn i oes pan nad oedd Llydaw yn ran o Ffrainc, pan nad oedd Tibet wedi ei feddiannu gan Tseina, pan nad oedd 'Prydain' eto'n bod.
  • Mae cymhlethdodau dyrys i'w gael pan fydd rhywun wedi ei eni mewn un gwlad ac yn symud i un arall i weithio, e.e. Handel, Augustus John, Cary Grant, Ingrid Bergman, Sant Padrig. Beth sydd bwysicaf – categoreiddio yn ôl man geni ynteu yn ôl lle y gwnaeth person ei waith h.y. ydy hi'n bwysicach categoreiddio Augustus John yn Arlunydd o Gymro ynteu'n arlunydd a weithiodd yn yr Eidal? Os am is-gategoreiddio arlunwyr yna dylid is-gategoreiddio yn ôl lle y buont yn gweithio yn ogystal ag yn ôl cenedligrwydd.
  • Mae tras yn fater cymhlethach fyth. Beth wnawn ni â phobl o ragor nag un tras? Faint o waith y dylem ei wneud i ddarganfod o ba union lwyth(au) mae rhywun a aned yn y Swdan yn tarddu ohono? Wedi pa sawl cenhedlaeth mae tras Normanaidd yn troi'n dras Cymreig? Beth am bobl sydd wedi eu mabwysiadu?


Medra' i ffeddwl am sawl enghraifft sy'n dangos mor anfoddhaol yw'r system bresennol, yn arbennig yn achos perthynas Cymru a'r Deyrnas Unedig (mae'n wir am Dibet, Llydaw, etc hefyd wrth gwrs). Dyma ddwy enghraifft. Gellid disgrifio Owain Glyndŵr fel 'Gwrthryfelwr Cymreig': os rhoddir y categori hwnnw yn is-gategori i'r categori "Prydeinig" roedd yn 'Wrthryfelwr Prydeinig' (a William Wallace hefyd!). Ail enghraifft: Dafydd Wigley. Cymro twymgalon a chenedlaetholwr Cymreig a aned yn Lloegr: ydi o felly yn Sais ac yn genedlaetholwr "Prydeinig"?! Ac aros gyda chwestiwn Cymru mewn perthynas â'r DU, er mwyn ceisio cadw'r ddadl yn syml, y broblem ydyw, dwi'n meddwl, ein bod ni wedi copïo'r system ar en.wikipedia heb ei addasu o gwbl bron. Os ydyw'r Cymry fel grwp yn dod dan y categori "Prydeinwyr" mae hynny'n mynd i gael ei dderbyn fel rhyw fath o ddatganiad gwleidyddol gan nifer o Gymry sydd ddim yn ystyried eu hunain yn "Brydeinwyr" (heb sôn am yr Albanwyr!). Beth am Gerry Adams er enghraifft - dwi'n siwr buasai fo ddim eisiau bod yn y categori "Gwleidyddion Prydeinig", ond dyna ydi o dan y system sydd gennym ni. Methu gwahaniaethu rhwng cenedl/gwlad ar y naill law a dinasyddiaeth/gwladwriaeth ar y llaw arall yw'r broblem. Ychwanegwch at hynny y cwestiwn o hanes ac mae'n mynd yn fwy dyrys byth. Felly, beth ydy'r ateb. Oes modd bodloni pawb? Mae'n rhaid cael enw amgen yn lle "Prydeinig" yn fy marn i; term gwleidyddol ydyw yn y bôn. Dwi'n gwybod na fyddai'n boblogaidd gan bawb, ond beth am '...o wledydd Prydain' yn lle 'Prydeinig'? Dim yn berffaith, ond fedra i ddim meddwl am ateb arall na fyddai'n amhosibl o hirwyntog (fel mae'r sylw yma'n troi allan, efallai!). Anatiomaros 20:11, 12 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Gwrthryfelwyr o Ynysoedd Prydain o bosib? Mae dal yn hirwyntog, ond o leiaf mae'n gwneud yn amlwg ei fod yn cyfeirio at 'Brydain' yn y synnwyr daearyddol, yn hytrach na'r wladwriaeth Brydeinig. Wrth gwrs, byddai categori o'r fath deitl yn cynnwys Gwyddelod hefyd. Ham 21:58, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Problemau gyda categoreiddio yn ôl cyfnod geni[golygu cod]

  • Nid ydym yn gwybod blwyddyn geni rhai pobl ond mae'n arfer bod yn ddigon agos i'w gosod mewn canrif.
  • Mae cyfnodau hanesyddol 'naturiol' yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r byd. Hynny yw, nid yw cyfnodau ymerodraethau Tseina yn cyfateb â chyfnodau hanesyddol Ewrop. Nid yw cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig yr un hyd ym Mhrydain ag oedd hi yn Rhufain. Y dewis yw:
    • Categoreiddio yn ôl cyfnodau sydd yn 'naturiol' i'r categori dan sylw e.e. Hanes Cymru cyn 1536.
    • Categoreiddio yn ôl mil blynyddoedd, canrifoedd neu degawdau, yn dibynnu ar ba mor boblog yw'r categori.

Wel, dyna ddigon i gnoi cil arno am nawr. Lloffiwr 17:49, 2 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Sylwadau ar yr uchod ac ar gategoreiddio yn gyffredinol[golygu cod]

Diolch yn fawr am grynhoi a chyflwyno rhai o'r problemau categoreiddio mor eglur, Eleri. Mae'n waith ardderchog. Rydwi wedi ystyried rhai o'r pwyntiau uchod fy hun sawl gwaith wrth greu categorïau newydd. Roeddwn i am ymateb uchod dan y pennodau sydd gennych ond, ar ôl ystyried, efallai buasai'n well cychwyn trafodaeth isod fesul pwnc, gan gopïo a gludo'r testun perthnasol yn eich cyflwyniad, am ei fod yn braf a chyfleus cael gweld pobeth uchod fel un testun. Fel arall bydd perygl colli golwg ar y cyfanwaith yn y manylion. Anatiomaros 18:42, 2 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Mae yna lawer i feddwl amdano yn y fan hyn! I gychwyn gyda un o'r pwyntiau symlaf, rwy'n cytuno y dylid gwneud i ffwrdd a'r categori "Cymry enwog" a'r cyffelyb. Os nad ydyn nhw yn enwog, o leiaf yn lleol, ddylai ddim bod erthygl arnyn nhw beth bynnag. Rhion 21:41, 3 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Cytunaf â sylw Rhion am y categori 'Cymry enwog' (a'r rhestr hefyd). Dwi wedi dechrau dileu'r categori a rhoi rhywbeth arall yn ei le pan ddigwyddaf weld enghraifft. Anatiomaros 20:17, 12 Medi 2007 (UTC)[ateb]
I also agree with deleting 'Categori:Cymry enwog'. It was originally created in Wicipedia's early days (2003) to make sure we had articles about Welsh people, and convieniently put them all in one category, but they can all be recategorised now (if not already). Paul-L 15:55, 19 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Gwelaf bod dal rhyw 400 o erthyglau yn y categori 'Cymry enwog'. Oes modd creu 'bot' a all newid pob defnydd o'r geiriau Categori:Cymry enwog mewn erthygl i Categori:Cymry? Mae'n job rhy ddiflas i gael ei wneud gan fod dynol! Ham 22:15, 20 Medi 2007 (UTC) (Does anyone know how to create a 'bot', of the kind seen on the English Wikipedia, for changing every instance of the 'Cymry enwog' category to 'Cymry'?)[ateb]
Buasai bot yn syniad gwych! Dwi wedi creu Nodyn:Eginyn Cymry gyda llaw, sy'n rhoi eginau am Gymry mewn un categori (Categori:Egin Cymry). Ond mae'n waith diflas ar y naw ceisio gwneud hynny ar gyfer pob erthygl. Wnes i gyraedd Ch yn y categori:Egin, ond rwan dwi mond yn mynd i newid yr eginyn ar waelod erthygl pan dwi'n digwydd dod ar draws un. Mae Categori:Egin ar ben ei hun bron yn ddiwerth erbyn hyn gan fod miloedd o erthyglau yno. Gobeithio bydd pawb yn ceisio cofio newid {{Eginyn}} i {{Eginyn Cymry}} wrth olygu, os ydyw'n briodol wrth gwrs. Rhywbeth i'w wneud yn ara deg ydyw, fel pob dim arall efo'r categoriau. Anatiomaros 22:45, 20 Medi 2007 (UTC) ON Dwi'n cael gwared o'r categori 'Cymry enwog' wrth wneud hynny hefyd.Anatiomaros 22:47, 20 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Dwi wedi dileu'r categori "Nofelau enwog" (cytunwyd ar y dudalen Sgwrs). Mae "Cymru enwog" yn mynd yn llai ond erys nifer o enwau yno.
Sylw ychwanegol ar yr eginau: Dwi'n meddwl ei bod yn bryd i ni gael categori ar gyfer y categorïau egin (Categori:Categorïau egin?). Oes rhywun yn fodlon gwneud hynny a'i ffitio i mewn gydag en. (a'r wikis eraill)? Anatiomaros 21:20, 7 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Hoffwn dynnu sylw pawb at y pwyntiau ynglŷn a chategoreiddio pobl yn ôl man geni dwi wedi codi ar Sgwrs Categori:Cymry yn ôl sir? Basai'n dda cael ymateb (ar y dudalen sgwrs sydd orau efallai, i arbed lle fan 'ma). Anatiomaros 21:10, 29 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Meddwl buasech chi licio gwybod fod 'Categori:Cymry enwog' wedi mynd, o'r diwedd! Dwi wedi creu sawl categori 'Pobl o...' hefyd (gweler Categori:Demograffeg Cymru a'i dudalen Sgwrs). Anatiomaros 23:43, 6 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]
Da iawn! Mae'n siwr ei fod wedi bod yn dipyn o waith. Rhion 12:34, 7 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Preparation of Fundraiser 2007[golygu cod]

Hi, this is just a first introduction message to tell you: there is more to come. I am dealing with the Project Management of the Fundraiser 2007 and therefore will search for contacts of wikimedians who can help us to do our tasks on all projects. I am actually also building the structure for the fundraiser on Meta. We will need people who help to design buttons, translate texts of buttons, documents, sitenotices etc. Should you feel you want to co-operate please let me know. You can reach me on my meta user page or by e-mail at scretella (at) wikimedia (dot) org. If you wish to notify us that you would like to co-operate on translations, it would be nice if you used e-mail and copied the e-mail to me and Aphaia (aphaia (at) gmail (dot) com). Thank you for your attention and I hope to meet you soon! Cheers :-) -- 4 September 2007 Sabine

Enwau tudalennau[golygu cod]

Be sydd wedi digwydd i enwau'r tudalennau? Maen' nhw wedi troi yn llythrennau maint arferol am ryw reswm. Anatiomaros 17:15, 11 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Ac yn syth ar ôl sgwennu hyn maen nhw nôl fel y dylen nhw fod: rhyfedd! Anatiomaros 17:17, 11 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Fundraiser 2007 – Buttons and Banners[golygu cod]

We are searching for people who can help to design buttons and banners for the Fundraiser 2007 and of course they will be used also after that period. Also the translation of the texts and people who then work on the graphics to add these texts are needed.

You can find examples for buttons that are ready right now on this page on meta and some more info about the initiative here.

Of course, should you have further questions, please contact us. Thank you!!! – 12 september 2007 Sabine

This is a message posted according to the Village Pump list on meta. Should it go in the wrong place on your wiki, please help by correcting the link on the page on meta.

Anamwysedd[golygu cod]

"Nodyn:Anamrwysedd" (sic) --> "Nodyn:Anamwysedd" (?) -- Jac-y-do 09:31, 22 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Beth sydd ar eich meddwl? Eisiau newid Nodyn:Anamrwysedd i Nodyn:Anamwysedd? Hyd y gwelaf, hen beth yw Nodyn:Anamrwysedd. Nodyn gwahaniaethu yw'r term cyfredol am disambiguation page. Dim ond mewn tudalennau sgwrs a'u tebyg mae'r hen ffurf yma'n parhau - gweler cysylltiadau i'r dudalen Nodyn:Anamrwysedd. Cael ei gadw er mwyn yr archifau y mae? Ei ddileu'n gyfangwbl yw'r dewis arall mae'n debyg? O ran diddordeb, 'diamwyso' neu 'dileu amwysedd' sydd gan Eiriadur yr Academi am 'disambiguate' (nid bod unrhywbeth yn bod ar 'gwahaniaethu'!). Lloffiwr 12:21, 22 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Betawiki: better support for your language in MediaWiki[golygu cod]

Dear community. I am writing to you to promote a special wiki called Betawiki. This wiki facilitates the localisation (l10n) of the MediaWiki interface. You may have changed many messages here on this wiki to use your language, but if you would log in to for example the English language Wiktionary, you would not be able to use the interface as well translated as here. Infact, of the 1793 messages in the core of MediaWiki, 1078 messages have been translated. Betawiki also supports the translation of messages of almost 80 extensions, with 984 messages.

If you wish to contribute to better support of your language in MediaWiki, as well as for many MediaWiki extensions, please visit Betawiki, create an account and request translator priviledges. You can see the current status of localisation of your language on meta and do not forget to get in touch with others that may already be working on your language on Betawiki.

If you have any further questions, please let me know on my talk page on Betawiki. We will try and assist you as much as possible, for example by importing all messages from a local wiki for you to start with, if you so desire.

You can also find us on the Freenode IRC network in the channel #mediawiki-i18n where we would be happy to help you get started.

Thank you very much for your attention and I do hope to see some of you on Betawiki soon! Cheers! Siebrand@Betawiki 09:17, 24 Medi 2007 (UTC)


Gweler hefyd Wicipedia:Cymorth iaith#Cyfieithu'r_rhyngwyneb. Lloffiwr 22:33, 26 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Eginau newydd[golygu cod]

Dwi wedi mentro mynd ati i greu rhai Eginau newydd. Dyma nhw hyd yn hyn:

{{Eginyn Cymru}} ; {{Eginyn Cymry}} ; {{Eginyn Albanwyr}} ; {{Eginyn Americanwyr}} ; {{Eginyn Gwyddelod}} ; {{Eginyn Saeson}}. Gellir eu cyrraedd trwy roi "Nodyn:Eginyn (X)" yn y blwch chwilio.

Dydwi ddim yn bwriadu mynd trwy bob egin-erthygl yn Categori:Egin, a buaswn i ddim yn disgwyl i neb arall wneud chwaith. Mae'r categori Egin yn anobeithiol o fawr a chwbl ddiddefnydd fel y mae ar hyn o bryd. Fy ngobaith yw y bydd pawb ohonom yn ceisio cofio am yr eginau hyn wrth greu erthyglau newydd neu wrth fynd trwy'r wiki. "Aml donc a dyrr y garreg."

ON Mae angen eraill yn ogystal, pe bai 'mond rhai mor elfennol ag 'Eginyn Asia' ac ati. Gobeithio fod hyn yn dderbyniol i bawb. Anatiomaros 22:44, 3 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Yn cefnogi ond yn rhy bwdwr i fynd ati i helpu:-) Lloffiwr 09:03, 6 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi creu {{Eginyn Asia}} ac {{Eginyn Affrica}}. Mi fuaswn i hefyd yn awgrymu cyfyngu ar y defnydd o eginyn - er enghraifft, efallai fod erthygl ar bentref bychan neu ar ryw gymeriad hanesyddol lle nas oes llawer o wybodaeth wedi goroesi yn fyr, ond eto'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Fe ellid cadw'r defnydd o eginyn i erthyglau sy'n amlwg yn rhy fyr i'r pwnc. Rhion
Cytuno ynglŷn â'r defnydd. Mae ambell sant er enghraifft lle nad oes mwy na pharagraff byr yn debyg o gael ei sgwennu. Rywbryd bydd angen creu gwell drefn yn y categori Egin hefyd ; Categori:Categorïau Egin er enghraifft. Buaswn i'n awgrymu osgoi'r categorïo egin manwl a geir ar en.wikipedia am rwan hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r wikis eraill yn defnyddio systemau llawer symlach (gellid dadlau 'run fath am rai o'r is-gategorïau ar en. hefyd). ON I weld y categoriau egin sydd gennym ewch i Categori:Egin (pwysig rhoi "|" ar ôl Egin, e.e. [[Categori:Egin| ]](lle gwag) wrth greu categori egin newydd neu bydden nhw ar goll yn y brif restr). Anatiomaros 18:26, 6 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Yn dilyn ymlaen o'r uchod, oes unrhyw restr ar gael (neu allith rhywyn greu un?) o dermau am bobl o, er engraiff, Seland Newydd, Gogledd Iwerddon. Mae Cymraeg:Cymreig Saesneg:Seisnig De Affrica:De Affricanaidd ayb. reit hawdd. Falle bod pawb arall yma yn glyfrach na fi ond rhaid cyfaddef rydwi wedi gwneud rhai cangymeriadau gyda rhan o'r blaen er egraifft Iseldireg yn lle Iseldiraidd. Digon hawdd chwilio am eiriau anarferol mewn termiadur ond mae'n dod yn anoddach gyda enwau gwledydd sy'n yn cynnwys dwy air... Meddwl oeddwn i, falle buasai rhestr ar dudalen Wicipedia:Canllawiau iaith yn syniad da er mwyn osgoi creu categoriau â enwau anghywir? Dwi'n deallt nad geiriadur ydi'r dudalen fod ond teimlo fod hwn yn eithriad ddylid cael ei gynnwys yn debyg i'r canllaw rhifau: 1af, 2il ayb. Thaf 13:40, 10 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Wedi rhoi paragraff am enwau pobloedd ar y dudalen canllaw iaith. Dyma mae'n ddweud.

Mae dau ffordd o ddisgrifio cenedl yn Gymraeg; e.e. i gyfleu Welsh athletes gellir dweud:

  • Athletwyr o Gymry
  • Athletwyr o Gymru

Mae mantais i'r ail ddewis wrth ddisgrifio pobl sy'n dod o wlad ag enw diarth neu gymhleth megis St Kitts, Ynys Ascension, h.y. athletwyr o St Kitts, athletwyr o Ynys Ascension.

- Dylid defnyddio'r gair 'Cymreig', 'Seisnig', ayb i ddisgrifio cenedligrwydd heblaw am yn achos iaith a phobl. Felly mae 'pobl o dras Cymreig' yn gywir - mae Cymreig yn disgrifio 'tras'. Ond nid 'pobl Cymreig' - 'Cymry' yw'r ymadrodd naturiol Gymraeg. Lloffiwr 23:16, 13 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Hi, AlleborgoBot is an interwiki bot run by Alleborgo starting at the italian wikipedia. The bot uses the pywikipedia framework daily updated to the last SVN version. The Bot runs in autonomous, but sometimes, it will run in manual assisted mode to solve interwiki conflicts. Already has a bot flag in ar, am, an, az, bar, bg, br, bn, bpy, bs, ca, ceb, cs, cv, da, de, el, en, eo, es, eu, fa, fi, fr, frp, gl, he, hr, ht, hu, hy, id, is, it, ja, jv, ka, ksh, ku, lb, li, lmo, ln, lt, mk, mi, ml, ms, nap, nds, nds-nl, nl, nn, no, pl, pt, ro, roa-tara, ru, sco, sh, sk, simple, sl, sq, sr, su, sv, ta, th, tr, tt, uk, ur, vec, vi, vo, zh, zh-yue. On it wiki has done more than 65000 edit. Now I'm requesting the flag here, thanks --AlleborgoBot 14:23, 13 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Enwau Cymraeg di-synnwyr ar erthyglau[golygu cod]

Dwi (fel pawb sy'n cyfrannu at y Wicipedia mae'n siwr) yn credu'n gryf mewn defnyddio'r Gymraeg ym mhob man posib, ond dwi'n sylwi bod llawer o erthyglau gyda teitlau Cymraeg sy'n gwneud dim synnwyr. Y diweddaraf i mi ddarganfod yw Y felan, sy'n sôn am fath o gerddoriaeth (Y Blues!) yn hytrach na chyflwr meddyliol. Hefyd dwi di sylwi ar lawer o erthyglau am orsafoedd radio yn cael eu Cymreigio - sy'n iawn os oes gan y orsaf enwau Cymraeg a Saesneg, ond mae'n ddibwynt yn fy marn i os nad oes fersiwn Cymraeg yn bodoli. Gelli'r dadlau mai dim ond drwy greu enwau Cymraeg i bethau y caiff y Gymraeg ei ddefnyddio mwy, ond ble mae rhywun yn stopio? Fyddai rhywun yn enwi erthygl am Virgin Radio yn 'Radio'r Forwyn' neu Real Radio yn 'Radio Go Iawn'? Sori am y rant ac os dwi'n pechu rhywun, ond dw'n meddwl ei fod yn arferiad gwrion ond yn bwysicach fyth mae'n gamarweiniol.--Ben Bore 14:22, 23 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Pan o'n i yn yr ysgol "y felan" oedd y gair a gafodd ei ddefnyddio yn y gwersi cerddoriaeth (ond dwi'n credu bod "y felan-gân" yn cael ei ffafrio gan nifer). Ond dwi'n cytuno am y gorsafoedd radio – ni ddylid cael eu cyfieithu os nad oes enwau Cymraeg. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 18:16, 23 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn bwynt pwysig. Rydym ni yma i gofnodi a disgrifio, nid i fathu enwau newydd. Os nad oes enw Cymraeg yn bod dylid defnyddio'r enw gwreiddiol (yn achos teitlau ffilmiau a llyfrau lle na cheir cyfieithiad Cymraeg yn barod, enwau sianeli radio a theledu etc.). Mae 'na eithriadau, e.e. adrannau llywodraeth tramor, lle gellir dilyn confensiwn, ond yn bendant ni ddylid cyfieithu brandiau a theitlau yn gyffredinol. Anatiomaros 18:29, 23 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Yn cytuno gyda'r sylwadau uchod. Ynglŷn ag enwau mathau o gerddoriaeth fyddwn i'n gweld Cymreigio canu fado o Bortiwgal yn chwith tu hwnt - ei roi mewn italig heb hyd yn oed dyblu'r f yw'n ngreddf i yn y mater. Os hynny, pam Cymreigio canu'r Blues o America? Dwi'n siarad o safbwynt rhywun na chlywodd y term y felan-gân cyn hyn, cofiwch. Gan fod y felan-gân yn gyfarwydd i rai mae modd dadlau drosto. Ond dwi'n cytuno'n llwyr na allwn ni ei adael yn Y Felan gan mai cyflwr meddwl yw hwnnw ac yn llawn haeddu erthygl ei hunan. A oes digon o gytundeb i fathu canllaw rhywbeth yn debyg i beth mae Anatiamaros wedi ei ysgrifennu, i'w roi ar y dudalen Wicipedia:Arddull? Lloffiwr 20:11, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Cystrawen[golygu cod]

Dw i ddim wedi cyfrannu llawer at wikipedia mewn gwirionedd, ond yn cofio amdano pan fydd gen i hamdden. Ar y cyfan darllen yr erthyglau sy'n bodoli fydda i, a chywiro mân wallau neu addasu arddull yn ôl fy ffansi (ac mae croeso i unrhyw un newid fy nghyfraniadau yn ôl, wrth gwrs).

Un peth dw i'n ei newid yn barhaus yw dechrau erthyglau, gan fod llawer ohonynt wedi eu sgwennu gyda chystrawen Saesneg yn y marn i - mae'r drefn yn fy nharo i'n od. Wrth esbonio beth yw gwrthrych yn Gymraeg fe roddwn i'r esboniad cyn y gwrthrych. Er enghraifft petai erthygl am Sali Mali (ac fe ddylai fod!), be fyddwn i (fel stickler gramadegol) hanner-ofn ei weld wrth glicio ar yr erthygl fyddai rhywbeth fel:

Mae Sali Mali yn gymeriad dychmygol mewn llyfrau a rhaglenni teledu Cymraeg i blant...

ond fe ddadleuwn i mai'r hyn ddylai fod yn yr erthygl yw:

Cymeriad dychmygol mewn llyfrau a rhaglenni teledu Cymraeg i blant yw Sali Mali...

Gan mor fynych dw i'n dod ar draws hyn roeddwn i'n meddwl y dylwn i sôn am y peth a holi barn pawb arall, yn rhannol rhag ofn fy mod yn anghywir gan fy mod yn dechrau amau fy hun a'r holl newidiadau dw i wedi eu gwneud i'r perwyl hwn, ac yn rhannol rhag ofn fy mod yn gywir er mwyn i gyfranwyr eraill ystyried hyn wrth baratoi erthyglau... Jac y jwc 10:39, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Dwi o'r farn mai ti sy'n iawn, yn sicr yn ramadegol, ond bod pobl (hyd yn oed Cymry Cymraeg iaith cyntaf fel fi) dyddiau hyn yn debygol o ysgrifennu'n Gymraeg yn dilyn cystrawen Saeseng - dwi'n gweld dim o'i le ar hyn yn cael ei gywiro. Un rheswm dwi'n mewddwl bod hyn yn digwydd hefyd ydi, bod pobl eisiau gweld enw'r erthygl yn ymddangos fel y 2-3 air cyntaf yn y frawddeg (fel y cewch ar y Wikipedia Saeseng), ond o ysgrifennu' ramadegol gywir, mae'n mynd mynd i ymddangos reit ar ddiwedd y frawddeg. Dal ati ydi fy neges i ac efallai y dysgwn ni rhywbryd!--Ben Bore 10:59, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Diolch Ben Jac y jwc 12:03, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn bwynt teg (Pwynt teg yw hyn!). Dwi'n euog fy hun o ddefnyddio'r gystrawen gwmpasog yn rhy aml, ond fel mae Ben yn pwyntio allan, y rheswm am hynny yw er mwyn ceisio cael enw'r erthygl ar y dechrau (dyna'r delfryd ar bob un o'r wikis gyda llaw, nid yr un Saesneg yn unig). Ar y llaw arall mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio brawddegau sy'n dechrau gyda 'Mae...' ar lafar. Dwi'n meddwl fod arddull erthygl yn dibynnu ar y pwnc; mae erthygl ar Feirdd y Tywysogion yn gofyn am safonau gwahanol i'r hyn sy'n derbyniol mewn erthygl ar grŵp roc, er enghraifft. Gan fod y wicipedia yn agored i bawb efallai nad oes gennym ddewis ond bod yn hyblyg gan geisio cadw at safonau derbyniol ar yr un pryd. Cael yr erthyglau yn y lle cyntaf sy'n bwysig am rwan. Fel arall dwi'n cytuno â'r hyn sy'n cael ei ddweud gennych, wrth gwrs. Anatiomaros 16:22, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Mae gen i ryw feddwl clywed sôn bod rhai ieithegwyr yn cynnig bod y gystrawen gwmpasog yn enghraifft prin o ddylanwad Cymraeg ar y Saesneg, eraill yn cynnig mai o'r Saesneg i'r Gymraeg y symudodd y gystrawen hon, ac nad oes digon o dystiolaeth i brofi naill ffordd na'r llall, ochodyn (beth bynnag i'r rhai na sy'n hanu o'r De-orllewin!). Beth bynnag am hynny - dwi'n cytuno gyda sylwadau Anatiamaros ar y pwnc hwn. Pan yw hi'n fater o arddull yn hytrach na chywirdeb iaith, dwi'n tueddi i beidio â newid pethau. Ond os oes angen cywiro iaith yna dw'i weithiau'n bachu'r cyfle i newid arddull ar yr un pryd, fel bod cysondeb arddull yn yr erthygl. Mae Jac y jwc yn cynnig newid yr intro i Wicipedia ar yr Hafan (gweler Sgwrs:Hafan). Oes rhywun yn eilio'r cynnig? Lloffiwr 20:43, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Eicon (Saesneg)[golygu cod]

Roeddwn i'n sylwi bod pobl wedi dechrau rhoi'r nodyn (Saesneg) o flaen dolenni i wefannau uniaith Saesneg mewn adrannau Dolenni allanol. Fe ychwanegais i'r eicon o flaen enwau llyfrau Saesneg yn Llyfryddiaeth yr erthygl Antony Carr, ond dim ond wedyn nes i feddwl, a oeddwn i'n iawn i neud hynny? Neu ai dim ond o flaen dolenni i wefannau y dylid gwneud hynny? Diolch, Jac y jwc 12:26, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

  • Fe fuaswm i'n meddwl nad oes angen hyn mewn llyfryddiaeth gan ei bod yn amlwg o deitl y llyfr ym mha iaith y mae. Fe allai cyfeiriad at wefan ddweud "Gwefan Bechingalw.org", ond bod y wefan ei hun mewn iaith arall, felly fe fyddai'r eicon yn briodol. Rhion 13:57, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Helo Rhion, diolch am y cyngor - mae hynna'n gneud synnwyr Jac y jwc 16:20, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych yn daclusach rhoi'r eicon a'r ôl y ddolen yn fy marn i.--Ben Bore 12:14, 31 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Botiau[golygu cod]

Unrhyw siawns o roi statws bot i BotMultichill & VolkovBot gweddol fuan? Dim ond wedi sylwi eu bod wedi bod yn llenwi'r dudalen Newidiadau diweddar dros y pythefnos diwethaf ac yn gwneud hi'n anoddach i chwilio a cael golwg ar newidiadau 'go iawn' a ffiltro allan y fandaleiddio, cangymeriadau ayyb. Thaf 10:30, 29 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

I dont really understand what you are saying, but you are probably suggesting i should get a bot flag. I request one a while ago but never got any response. Lets try it again:

I request a bot bit for BotMultichill.

  • Botmaster : Multichill
  • Bot's name : BotMultichill
  • List of botflags on others wikipedias: almost all so about 230 atm (see meta:User:Multichill for the current list)
  • Purpose: Interwiki (pywikipedia)
  • Technical details : BotMultichill is an interwiki bot starting at the Dutch wikipedia. The bot uses the pywikipedia framework and runs day and night in autonomous mode. Sometimes the bot will run in manual assisted mode to solve interwiki conflicts.

Thank you. Multichill 16:38, 31 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Gwybodlen Eisteddfod[golygu cod]

Dwi'n sylwi bod erthyglau'n cael eu creu rwan ar gyfer Eisteddfodau Cenedalethol unigol, sy'n wych. Dwi fawr o Eisteddfodwr (mond mynd am y gigs a'r cwrw ydw i) - ac yn gwneud cawlach pob tro dwi'n creu/addasu Gwybodlenni, ond dwi'n meddlw byddai Gwybodlen yn ddefnyddiol . Oes galw am un? Pa fath o fanylion ddylai fod arno?

  • Lleoliad
  • Safle'r orsedd
  • Archdderwydd
  • (oes llywydd/cadeirydd i bob un?)
  • Cost cynnal
  • Faint o arain godwyd yn lleol
  • Faint fynychodd
  • Enillwyr coron/gadair ayyb

Sgin rhywun farn/awgrymiadau?--Ben Bore 12:10, 31 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Mae'n swnio'n syniad da. O ran cost cynnal, faint o arian a godwyd yn lleol ac ati, byddai'n weddol hawdd cael y wybodaeth am eisteddfodau y blynyddoedd diwethaf, ond a oes modd eu gael am nifer go lew o'r gweddill? Rhion 20:25, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth[golygu cod]

Mae defnyddiwr anhysbys 121.44.105.216 wedi creu nifer sylweddol o "erthyglau" gyda theitlau Saesneg a'r cynnwys wedi ei bastio o rannau eraill o'r Wici. Rwyf wedi ei flocio, ond alla i ddim cael y rhan fwyaf o'i erthyglau i lwytho er mwyn medru eu dileu. Oes modd dileu erthygl heb ei llwytho gyntaf? Rhion 07:03, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Rhowch "http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=TEITL_ERTHYGL&action=delete" yn eich bar URL, gydag enw'r dudalen berthnasol. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 14:04, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Dwi wedi gwastraffu awr neu ragor o fy amser, ond mae'r cyfan bron wedi mynd. Ond mae 'na broblem. Am ryw reswm mae'n amhosibl dileu Nodyn:•‎ ac Islam., efallai am fod atalnodau ar ddiwedd y teitlau neu am eu bod yn debyg i "Nodyn:" (categori) ac "Islam" ac felly'n drysu'r system. Fedra'i ddim agor y tudalennau hynny i agor o gwbl chwaith. Gobeithio medrith rhywun datrys hyn, achos fedra'i ddim gwneud rhagor. Anatiomaros 17:03, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Diolch am dy waith ac i Adam am y cyfarwyddyd - roeddwn i wedi bwriadu gwneud heno. Rhion 18:22, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Dwi 'di llwyddo dileu "Nodyn:•" ac "Islam.". Does dim syniad gen i pam nad oeddech chi'n medru ei wneud. Roedd y tudalennau yna'n od iawn – roedd rhai yn methu llwytho ar fy mhorwr i, ond eraill yn llwytho, er ei fod yn edrych fel bod ganddynt i gyd yr un cynnwys. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 00:09, 2 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]


Mwy o fandaliaeth bore heddiw gan ddau ddefnyddiwr

  • [Arbennig:Contributions/194.82.229.252 194.82.229.252] Wedi bod yn brysur yn creu sawl erthygl ar gyfer ei ffrinidau
  • [Arbennig:Contributions/211.27.126.190 211.27.126.190] Wedi gwacau'r dudalen yma, Cymraeg a Patagonia o'i holl gynnwys--Ben Bore 10:48, 5 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

My son has come home from school with a sticker saying "Cymraeg wych!" Please could you tell me what it translates to in English

many thanks

Elaine Phillips

It means "Excellent Welsh!" Rhion 17:49, 6 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Erthyglau Llydaw[golygu cod]

Wedi sylwi fod nifer o erthyglau, yn bennaf am afonydd Llydaw wedi cael eu creu, mae'r rhanfwyaf yn defnyddio'r enwau Llydaweg am y rhanbarthau a'r termau. Gan yn ôl ein erthygl am Lydaw, Ffrangeg yw prif iaith y rhanbarth, a'r iaith y buasen i yng Nghymru yn adnabod yr enwau ynddi rydwi wedi newid rhain i'r rhai Ffrangeg gan roi'r enw Llydaweg mewn cronfachau pan fo'n briodol. Roeddwn i ond eisiau cadarnhau fod pawb yn cytuno mai hyn yw'r drefn cywir. Dwi'n deallt pam fod yr erthyglau wedi cael eu enwi fel hyn gan rhywyn o Lydaw - ond yn fy marn i, mae hyn yn cyfateb i ni'n gofyn i'r Wikipedia Saesneg restru enwau lleoedd yng Nghymru odan yr enw Cymraeg pan fo'r enwau Saesneg yn fwy adnabyddadwy i'r Saeson. Thaf 11:00, 9 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Dwi ddim gyda teimladau cryf am y peth, ond bydden i'n dweud:
- Tra dwi'n derbyn yr esiampl am ofyn i'r Wicipedia Seaseng ddefnyddio enw Cymraeg yn gyntaf, tydi'r berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a'r Llydawr ddim yr un fath a'r iaith Saeseng a'r Gymraeg. Er nad oes ffigyrau gyda fi i gefnogi'r ddadl, dwi'n meddwl ei fod yn deg dweud bod ymwybyddiaeth Cymru Cymraeg o enwau Llydaweg yn mynd i fod yn gryn uwch na dweder ymwybyddiaeth Cymro di-Gymraeg neu unrhyw siaradwr Saeseng
- A ddylai'r Wicipedi Gymraeg fod yn atgyfnerthu goruchyddiaeth [sll?] statws yr iaith Ffrangeg uchben yr iaith Llydaweg, yn enwedig o ystyried sefyllfa'r Gymraeg? Dwi'n deall mai bod yn wyddoniadur yw prif bwrpas Wicipedia, ond petai'r Wicipedia datblygu yn y dyfodol i fod yn un o brif adnoddau addysg i ddisgyblion Cymraeg eu hiaith, pam rhoi'r argraff iddynt mae'r iaith Ffrangeg ddylai ddod gyntaf. Cyn belled bod y ddau fersiwn i'w cael ar erthygl, dwi'n gweld dim o'i le ar y Llydaweg yn dod yn gyntaf.
Ond fel dwi'n dweud, does dim teimladau cryf am y peth, ac os oes cysyndeb, yna dylid defnyddio'r enw yn yr iaith a siaredir gan y mwyafrif. - Er i fynd ymalen am y peth ychydig ymhellach (sori!), tra mae mwyafrif poblogaeth Cymru'n siarad Saeseng yn unig, fyddai'n iawn galw Conwy a'r Felinheli yn Conway a Port Dinorwic, er nad ydynt yn enwau syddogol bellach, dyna mae'r di-Gymraeg yn dal i'w galw?--Ben Bore 12:07, 9 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Deallt be ti'n ddweud, ac er mod i'n cyd-ymdeimlo gyda'r Llydawyr, dydwi ddim yn teimlo ei fod yn briodol creu erthyglau o safbwynt Llydaweg ar y Wici Cymraeg. Nid gwefan wleidyddol ydi hon! Wedi'r cyfan, mae'r wici Llydaweg yn bodoli er mwyn rhestru yn Llydaweg... Dwi'n sylwi hefyd mai'r un defnyddiwr sydd wedi creu erthyglau am drefi Cymru ar y wici Llydaweg odan yr enwau Cymraeg, megis Llanfair-ym-Muallt. (Er mod hyn yn gwneud i mi wenu ... mae dal yn wleidyddol, ac nid pwrpas gwyddoniadur yw bod yn wleidyddol!) Thaf 12:22, 9 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Dydw i ddim mor siwr fod yr enwau Ffrangeg yn fwy cyfarwydd i Gymry bob tro. Mae'n siwr fod Nantes yn fwy adnabyddus na Naoned, ond rhwng Kemper a Quimper, er enghraifft, mae'n debyg ei bod yn eithaf cyfartal, a "Kemper" sy'n cael ei ddefnyddio mewn llyfrau Cymraeg ar Lydaw fel rheol.Rhion 18:16, 9 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Pigion[golygu cod]

Sorry for putting this in English (see below), but I'd like to make a suggestion and offer. I'm sure Vespasian is very interesting, but it's been on the main page for nearly a year. I see that the relevant template ({{pigion}}) is unprotected, so I volunteer to select a new article and edit this, perhaps on a weekly basis, if people are willing for me to do this. My Welsh isn't good enough to write in, but I should be able to select what appears to be a good article, and make sure that the opening paragraph is suitable for the main page. What do other people think? – Tivedshambo (talk) 12:29, 13 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

I don't see why not, it would be nice to have a variety and no one else seems to remember to change (or know how to in my case - until now, thanks to you!)--Ben Bore 15:36, 13 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Syniad da! Rhion 18:08, 13 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Haleliwla! (with all due respect to Vespasian, he's hogged the limelight long enough). Diolch am y cynnig, Tivedshambo / Thanks for the offer. It's also probably better for you to do so than one of the "regulars" as then nobody can be accused of choosing their own contributions! Anatiomaros 19:37, 13 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Ok - Thanks for your support. I've added a bit of local interest to start with... – Tivedshambo (talk) 09:08, 14 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Admin[golygu cod]

Wedi sylwi mai fi ydi'r unig un fel rheol sy'n gallu pori'r Wici yn ystod y dydd, dwi'n cael llond bol o weld fandaleiddio ond methu helpu wrth ddileu tudalenau gan na fod gen i'r hawliau a phan nad oedd rhywyn gyda statws adim ar-lein i mi allu tynnu eu sylw ato. Tybed a fuasai rhywyn yn cysidro rhoi'r hawliau i mi allu gwneud fwy o wahniaeth yma!? Diolch am ddarllen, hyd yn oed os mai na fydd yr ateb, mae'n werth gofyn! Thaf 13:37, 21 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Mi fuaswn i'n cefnogi hynny. Rhion 13:45, 21 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Dwi'n eilio (os oes angen eilio!)--Ben Bore 15:37, 21 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Dwi'n eilio (trydeiddio?!) hynny hefyd. Anatiomaros 16:18, 21 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Dwi'n cefnogi hyn hefyd. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:50, 23 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Sorri. 'Rwyf wedi mynd i'r Iseldiroedd. I will go and make him one now! Deb 17
45, 24 Tachwedd 2007 (UTC)

Categori 'Cymry'r Byd'?[golygu cod]

Newydd sylwi ar erthygl am Eglwys Gymraeg yn Toronto, a meddyliais byddai'n addas cael categori i gynnwys holl sefydlaidau Cymraeg a Chymreig tramor? Dwi'n meddwl byddai'n berthnasol i wyddoniadur. Ar y wici Basgeg, mae erthygl am y Dispora Basgeg, gyda dolenni at wefannau (nid erthygl) nifer o gymdeithasau mewn sawl gwlad. --Ben Bore 09:55, 27 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Syniad da. Wnes i greu'r categori Categori:Cymry Llundain a buasai'n ffitio'n iawn fel is-gategori (mae 'Cymry Lerpwl' yn bosibilrwydd arall). Yn ogystal mae gennym ni gychwyn ar leoedd yn UDA sydd â chysylltiad â Chymru (e.e. Enwau lleoedd o darddiad Cymreig yn yr Unol Daleithiau). Wedyn mae gennym ni'r erthyglau am y Wladfa. Dyna gychwyn go dda i'r categori newydd felly. Oes rhywun arall yn meddwl fod hyn yn syniad da? Pa enw sydd addas? Rhywbeth sy'n cynnwys lleoedd hefyd yn hytrach na phobl yn unig? 'Cymru a'r byd' efallai? Anatiomaros 14:18, 4 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn siwr o'r teitl 'Cymru a'r byd' (er allai'm cynnig dim gwell!). Byddwn i'n cynnig rhyw strwythyr tebyg i:
Cymru a'r Byd
>Enwau lleoedd o darddiad Cymreig
>>Enwau lleoedd o darddiad Cymreig yn yr Unol Daleithiau
>Cymdeithasau a Sefydliadau Cymreig tramor
>>Cymdeithasau a Sefydliadau Cymreig yn yr Unol Daleithiau
>>Cymdeithasau a Sefydliadau Cymreig yn Canada
>>Cymdeithasau a Sefydliadau Cymreig yn Lloegr
Gan bod lleoedd sydd âg enwau Cymraeg/Cymreig yn deillio o fewnlifiad sylweddol o Gymry yn y gorffennol, oes angen 3ydd is-gategori o dan 'Cymru a'r byd' ar gyfer cymunedau Cymreig tu allan i Gymru chi'n meddwl (fel Y Wladfa, Pennsylvania ac Ohio), neu fyddia'n ddigonol creu erthygl am y Dispora Cymreig?--Ben Bore 16:23, 4 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Erthygl dethol?[golygu cod]

Mae'r ffeithiau yn yr erthygl Diwydiant llechi Cymru wedi eu gwirio i'r ffynonellau ac mae'r copi wedi ei olygu. Oes na rywrai yn fodlon bwrw golwg dros yr erthygl a chefnogi'r cynnig (neu ei wrthwynebu) y dylai'r erthygl gael statws erthygl dethol? Lloffiwr 13:35, 4 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Dwi wedi bod yn dilyn twf yr erthygl â diddordeb. Dwi ddim wedi cael yr amser i fwrw golwg drosti ar ei wedd ddiweddar, ond dwi'n cefnogi'r cynnig. Syniad da oedd yr erthygl sy'n rhestru'r chwareli hefyd. Mae 'na rhai pethau ar en. medrem addasu hefyd. Mi gewch chi nhw yn y category 'Slate industry', os cofiaf yn iawn (dolen o Categori:Diwydiant llechi). Anatiomaros 14:25, 4 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]


Ffeiliau sain[golygu cod]

Wedi creu dau nodyn i hwyluso gosod ffeiliau sain ar Wicipedia sef Nodyn:Sain a Nodyn:Gwrando. Hefyd wedi creu tudalen gymorth ar y pwnc ar Wicipedia:Gosod ffeiliau sain. Enghraifft i'w weld ar yr erthygl Yr Ariannin. Os cwyd problemau gadewch nodyn fan hyn. Lloffiwr 18:59, 8 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Bryn Cader Faner[golygu cod]

What does the words - Bryn Cader Faner - mean? I know it is the name of a megalithic monument but am looking for a literal translation for my school report if possible. ````

Bryn = hill. Cader could be an anglicisation of cadair, chair (c.f. Cader Idris = seat of Idris). Faner = soft mutation of Baner, meaning banner or flag. So my guess is Chair flag hill, unless someone can come up with a better translation (my Welsh is very basic I'm afraid). – Tivedshambo (talk) 20:26, 13 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Mutation query[golygu cod]

Amgueddfa Llechi Cymru: the referenced website[7] gives the title as Amgueddfa Lechi Cymru, i.e. ll mutated to l. Which is correct? – Tivedshambo (talk) 20:16, 13 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

It's a matter of emphasis (grammatically both are correct). I've found both versions on sites like Gwynedd County Council and other "official sites", for instance, including the Amgueddfa Cymru site. But Amgueddfa Lechi Cymru is more common and seems to be the official name. I guess we should rename the article accordingly. Anatiomaros 21:13, 13 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Translation[golygu cod]

Can someone give me a translation of the word sentar, in the Bow Street article please. The context is Evan Richardson, athro John Elias a Hugh Owen, oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street, which is something to do with preaching, but I can't find the word in any dictionary. Thanks. – Tivedshambo (talk) 14:56, 20 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

It's a Welsh version of "dissenter" I think. Rhion 15:10, 20 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]