Sgwrs Categori:Cymry yn ôl sir

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi'n meddwl dylem ni newid hyn i "Pobl yn ôl sir yng Nghymru" a'i roi yn Categori:Demograffeg Cymru. Dylem ddilyn trefn gyffelyb am wledydd eraill yn ogystal am y rheswm nad yw'r ffaith fod rhywun yn cael ei eni mewn tref neu ddinas yng Nghymru yn eu gwneud yn Gymry (cf. Dafydd Wigley, a aned ym Manceinion etc....). Rwan di'r amser i wneud o - gwaith deg munud efallai - cyn i'r categoriau dyfu. Anatiomaros 20:06, 29 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Pwynt arall. Gan fod siroedd / awdurdodau unedol presennol Cymru yn aml wedi newid ffiniau neu'n greadigaethau newydd, dwi'n teimlo efallai ei fod yn syniad da categoreiddio pobl yn ôl bro neu ardal. Dwi ddim isio i ni gael "Pobl o Sir Feirionnydd/Sir Gaernarfon", fel sy gynnon nhw ar y wiki Saesneg yn lle "Pobl o Wynedd", ond mae "Pobl o Feirionnydd/Arfon/Eifionydd/Llŷn" yn gwneud synnwyr yn nhermau hanes, diwylliant a daearyddiaeth (gellid rhoi'r categoriau hyn yng nghategoriau'r siroedd presennol wedyn, yn ogystal). Buasai hynny'n osgoi llawer o bethau chwithig fel disgrifio rhywun a aned yn Nyffryn Conwy yn yr Oesoedd Canol fel "Pobl o fwrdeisdref sirol Conwy". Unrhyw sylwadau? Anatiomaros 20:20, 29 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Awgrymiadau synhwyrol iawn. Dwi 'di newid y categorïau o fewn gweddill y categorïau "yn ôl dinas" i, er enghraifft, "Demograffeg Awstralia" yn lle "Awstraliaid". Mae'n bwysig cadw cysondeb o fewn y system gategoreiddio, a byddai'n fodlon helpu newid enw'r categori hwn. —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:48, 29 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Diolch am yr ymateb a'r gwaith categoreiddio, Adam; anghofiais ychwanegu fod hyn yn egwyddor gyffredinol hefyd. Ond yn ôl at Gymru. Yr unig rhanbarth sy'n creu anhawsterau yw siroedd Dinbych, Fflint, Wrecsam, a dwy ran Conwy - yr hen Glwyd, fwy neu lai. Dwi'n awgrymu hyn am y gweddill (nodaf enw'r siroedd presennol hefyd):
Pobl o Ynys Môn (dim problem fan 'na!)
Pobl o Arfon / Eifionydd / Lŷn / Feirionnydd (Gwynedd)
Pobl o Geredigion (=y sir hefyd, wrth gwrs)
Pobl o (Sir) Benfro (? "o Benfro" yn hytrach nag "o Sir Benfro"?)
Pobl o Sir Gaerfyrddin (does modd osgoi hynny ac mae'n gyfleus)
Pobl o Forgannwg (=yr hen Forgannwg fwy neu lai =awdurdodau presennol yr ardal)
Pobl o Went (de-ddwyrain = Sir Fynwy, Casnewydd etc)
Pobl o Frycheiniog / Faesyfed / Faldwyn (yr hen siroedd, fwy neu lai, ond heb y "sir" = Powys)
Conwy a'r hen Glwyd sy'n creu'r broblem felly. Efallai mai defnyddio'r hen sir Clwyd di'r peth gorau. Mae'r Clwyd newydd, diolch i ryw was sifil anwybodus yn Llundain - yn dadwneud 1500 mlynedd o hanes trwy ymestyn Clwyd i gynnwys Dyffryn Conwy a thraean da o Eryri (Tryfan yn rhan o Glwyd!?). Efallai taw Pobl o Ddyffryn Conwy ac o'r Creuddyn di'r gorau; mae hynny'n gadael gogledd Arllechwedd Uchaf ond fel brodor dwi ddim yn meindio os cawn ein cynnwys gydag Arfon. Ond manion di hynny, cawn ni gyfle i feddwl amdano eto.
Wrth gwrs mae'r categoriau "yn ôl dinas neu dref" yn iawn - mond i neu beidio creu gormod o rai bychain - a bydd yn hawdd eu ffitio i mewn i'r drefn gyffredinol. Dwi ddim yn bwriadu gwneud hyn i gyd dros nos, dim ond wrth fynd ymlaen, ond dwi'n meddwl eu bod yn bwysig ein bod yn sefydlu canllaw (copï a phastio hyn yn Sgwrs y categori newydd, yn un peth, cyn dileu'r categori yma). O ie, enw'r categori? Beth am "Pobl yn ôl ardal a bro..."? Hoffwn glywed os oes gen ti neu unrhyw un arall sylwadau am hyn. Anatiomaros 20:01, 30 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
ON Mae hyn yn gategori digon hyblyg i gynnwys pethau mwy lleol. E.e. os di rhywun yn gweld angen "Pobl o Benllyn" (sy'n fro naturiol gyda digon o enwogion) mae lle i wneud hynny hefyd. Anatiomaros 20:05, 30 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]