Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Hafan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Ychwanegu pwnc
Oddi ar Wicipedia
Sylw diweddaraf: 2 fis yn ôl gan Rhyswynne ym mhwnc Cwrdeg

Lle i drafod cynnwys yr Hafan ei hun yw hyn. I drafod materion cyffredinol am Wicipedia ymwelwch â'r Caffi os gwelwch yn dda.

Pigion - Ryan Giggs

[golygu cod]

@Llywelyn2000 Gyda'r achos llys yn erbyn Giggs dwi'n credu bod angen cael gwared o'r eitem yma o'r blwch pigion..o leiaf tan canlyniad yr achos. Jason.nlw (sgwrs) 07:59, 10 Hydref 2022 (UTC)Ateb

Cytuno'n llwyr Jason! Os nad oes gwrthwynebiad mi wnai hynny mewn rhyw awr neu ddwy. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:03, 10 Hydref 2022 (UTC)Ateb
 Wedi gwneud
Gweler Nodyn:Pigion/Wythnos 41. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:45, 10 Hydref 2022 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr Llywelyn2000 Jason.nlw (sgwrs) 09:24, 11 Hydref 2022 (UTC)Ateb

Cwrdeg

[golygu cod]

Lle mae'n dweud rhywbeth am y Gymraeg mewn nifer o ieithoedd, mae'r fersiwn Cwrdeg yn sôn am سیمراگ (Simrag) fel tasai'r cyfieithydd yn ansicr am sut i ynganu "Cymraeg". Dwi ddim yn gwybod pa lafariaid sy orau, ond o ran y gytsain gychwynnol (yr un ar y dde, cofiwch) mae angen ک (c) yn lle س (s). ~2026-54755-1 (sgwrs) 22:51, 25 Ionawr 2026 (UTC)Ateb

Dwi ddim cweit yn deall. Sôn am erthygl am y Gymraeg ar wiki iaith Cwrdeg wyt ti? Dwi'n dyfalu o'r sgript mai Cwrdeg Canol rwyt yn cyfeirio ato, ond o edrych ar Wikidata, does dim erthygl am y Gymraeg gyda'r teitl سیمراگ. Mae'r erthygl am y Gymraeg mewn Cwrdeg sy'n defnyddio wyddor Lladin yn ei alw'n Zimanê wêlsî. Naill ffordd, byddai rhaid codi'r peth ar y dudalen a'r wici honno. Rhyswynne (sgwrs) 09:39, 26 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
@Rhyswynne: Dwi'n credu bod y defnyddiwr uchod yn cyfeirio at y testun o dan y pennawd "Cwrdeg Sorani" ar y tudalen Wicipedia:Cymraeg. A dwi'n credu ei fod yn gywir. Dwi wedi ceisio cywiro'r gair, ond er fy mod i wedi cysodi Hebraeg ac Arabeg yn y gorffenol, hyd yn hyn dydw i ddim wedi gallu rhoi'r llythyren gywir yn ei lle! Mae fel ymgodymu â nadroedd! Craigysgafn (sgwrs) 19:08, 26 Ionawr 2026 (UTC)Ateb
Dioch am yr eglurhad, a phob lwc @Craigysgafnǃ Rhyswynne (sgwrs) 09:10, 27 Ionawr 2026 (UTC)Ateb