Sgwrs Wicipedia:Gweinyddwyr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Drafft i'w drafod ar Wicipedia:Y Caffi


Mae'r gweinyddwyr yn ddefnyddwyr sydd a galluoedd arbennig ganddynt yn eu galluogi i wneud rhai tasgau cynnal a chadw ar Wicipedia. Nid y gweinyddwyr sydd yn penderfynu ar y tasgau heblaw ei fod yn dasg amlwg neu angen ei wneud yn ddiymdroi (e.e. dileu lluniau sydd wedi eu huwchlwytho heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint). Yn hytrach gweithredu penderfyniadau'r gymuned yw eu swyddogaeth. Maent yn ddefnyddwyr eu hunain, sydd yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol ychwanegol yn ddi-dâl. Eu prif dyletswyddau yw diogelu a dileu tudalennau, golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu, rhwystro defnyddwyr, a dad-wneud y gweithredoedd hyn i gyd hefyd.


Biwrocratiaid yw'r rhai sydd â phwerau uwch fyth ganddynt (gweler Wikipedia), a'r rhain sydd yn arfogi gweinyddwr. Os ydych am gynnig chi eich hunan neu ddefnyddiwr arall i fod yn weinyddwr gallwch wneud hynny ar y caffi. Mae'n arferol disgwyl i gael eilydd neu ddau o blith y defnyddwyr cyn i fiwrocrat greu gweinyddwr. Mae'n rhaid i ddefnyddiwr gydsynio i fod yn weinyddwr cyn cael ei wneud yn weinyddwr. Nid oes terfyn ar gyfnod penodiad fel gweinyddwr ond fe all pwerau gweinyddwr gael eu tynnu oddi arno. Gall hyn ddigwydd ar gais y gweinyddwr ei hunan. Mewn achosion lle y camddefnyddiwyd pwerau gweinyddwr gall stiward ddileu ei statws gweinyddwr yn unol â phenderfyniad gan Jimbo Wales neu'r pwyllgor cyflafareddu (gweler Wikipedia am eglurhad pellach).


Rhain yw'r prif dasgau y gall gweinyddwyr eu gwneud:

  • Golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu. Ymhlith y rhain mae'r:
    • Hafan
    • Wicipedia:GNU FDL
    • Negeseuon - rhain sy'n rhoi testun y rhyngwyneb (y tabiau, y botymau, testun y tudalennau arbennig ag ati. Fe'u cedwir yn y parth Mediawiki.

Os ydych am newid rhywbeth ar dudalen sydd wedi ei ddiogelu eglurwch y newid ar y dudalen sgwrs a rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar y dudalen sgwrs. Os ydych am newid rhywbeth yn y rhyngwyneb heb wybod teitl y neges i'w newid gallwch godi'r mater ar y Caffi neu Wicipedia:Cymorth iaith, gan nodi'r neges gwreiddiol a'r dudalen y daethoch ar draws y neges arni. Oherwydd bod newid y ffeiliau pwysicaf megis Monobook.css yn gallu gwneud niwed i'r rhyngwyneb neu i'r wefan gyfan digon posib y bydd yn rhaid galw am gymorth datblygwyr y meddalwedd ar Mediawiki er mwyn diwygio rhai ffeiliau.

  • Diogelu a dad-ddiogelu tudalennau. Diben hwn yw diogelu rhag fandaliaeth neu niwed damweiniol i dudalennau hanfodol, e.e. yr Hafan. Anaml iawn y bydd erthyglau yn cael eu diogelu. Gwneir hynny er mwyn atal fandaliaeth rhemp neu er mwyn creu ysbaid o lonydd os oes anghydfod wedi codi a hynny'n arwain at newidiadau di-ddiwedd ar ryw dudalen. Os ydych am i dudalen gael ei ddiogelu neu ei ddad-ddiogelu codwch y mater ar Wicipedia:Y Caffi.
  • Dileu ac adfer tudalennau. Os ydych am gynnig y dylai tudalen gael ei dileu rhowch y nodyn {{Tudalen amheus}} ar y dudalen ac egluro'r rheswm dros eich cynnig ar y dudalen Wicipedia:Tudalennau amheus. Fe gaiff y cynnig ei drafod yno ac os ymddengys cydsynied y dylid ei dileu yna fe wnaiff gweinyddwr hynny.


Gan fod criw y wicipedwyr Cymraeg yn fach o'i gymharu â Wikipedia Saesneg mae'r ymateb i geisiadau yn gallu bod yn arafach o lawer nag yw hi ar Wikipedia. Y mae weithiau'n gallu bod yn anodd dirnad ystyr diffyg ymateb i gynnig – ai diffyg cefnogaeth sydd wrth ei wraidd ynteu dim gwrthwynebiad i'r cynnig, neu diffyg amser i ystyried pob trafodaeth ac ymateb iddynt. Mae tuedd wedi datblygu i gymryd bod cynnig yn dderbyniol os na fynegir unrhyw wrthwynebiad iddo. Os na chewch ymateb i gais am help gweinyddwr peidiwch â digalonni – rhowch nodyn i'w hatgoffa ar y Caffi ar ôl rhai wythnosau.


Ceir rhagor o fanylion am weinyddwyr ar Wikipedia Saesneg.

Dyma restr y gweinyddwyr ar Wicipedia ar hyn o bryd:

Cymorth plis![golygu cod]

Bydd 50 o ddisgyblion ysgol yng Ngwynedd yn golygu / creu 50 o erthyglau newydd fory (9:15 tan 12:50). Plis croesawch nhw, a golygu ychydig os cewch amser, ar ol (dyweder) 30 munud yn hytrach na'r 45 arferol. Diolch! Bydd angen rhoi'r Nodyn 'Gwella' hefyd, os nad yw'n ateb ein gofynion. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:28, 11 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

@Llywelyn2000: Mae yna rwtsh yn cael ei ychwanegu yn aml o gyfeiriad IP 193.39.172.73 - a dwi'n ymwybodol fod hwn yn dod o fy hen ysgol (Tryfan). Dwi wedi ei flocio am fis ond mae dal yn bosib iddyn nhw greu cyfrif, fel y mae rhai disgyblion wedi gwneud yn ddiweddar. Felly gobeithio fod hyn yn iawn. --Dafyddt (sgwrs) 11:33, 21 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Pan fo disgyblion, yn y gorffennol wedi gadael gwybodaeth a all fod yn enllibus ee enwi disgybl a'i gyhuddo (cyffuriau, rhyw ayb fel arfer), dwi yn y gorffennol wedi cuddio'r testun a ffonio'r ysgol gan gael gair naill ai efo'r pennaeth neu'r dirprwy (nodais pob digwyddiad). Dyw hyn heb ddigwydd yn yr achos yma, ond cafwyd criw mawr yn dysgu sgiliau wici fel rhan o Brosiect Wici Mon yr wythnos diwetha. Byddai'n wych pe bai ysgolion yn monitro eu hunain ac yn addysgu eu disgyblion ynghylch ymarweddiad a phethau fel hyn. Byddaf yn cyfarfod Aaron (Wici Mon) yr wythnos nesa, a bwriadaf drafod creu rol-model / gwobr i'r rhai hynny sydd wedi mesitroli sgiliau wici ee "Llysgennad Wici Ysgol Llanbidyn Nodyn". Efallai y bydd hyn yn help, ond yn y diwedd, mae rhai o fewn cymdeithas yn chwilio am ffordd o brotestio, o ysgwyd y drefn sydd ohoni. A gwyn eu byd nhw! Dw i'n meddwl mai drwy eu haddysgu y mae newid hyn, ond fedrwn ni ddim newid cymdeithas. Sgin ti syniadau eraill be fedrwn ni wneud? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:34, 21 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Dim ond cadw golwg agos i olygiadau gan ddefnyddwyr anhysbys dwi'n meddwl. Ac annog disgyblion i greu cyfrif er mwyn iddyn nhw allu cyfrannu gyda fwy o gyfle i gael adborth ar unrhyw newidiadau! --Dafyddt (sgwrs) 15:09, 21 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]
Cyfrifon - hanfodol! Mi drafodais hyn ddechrau'r wythnos efo WiciMon, ac mae angen trefn ar y system blychau tywod hefyd! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:20, 21 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]