Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Crogi
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
BBC Bitesize | |
Newidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Crogi yw atal person trwy raff o amgylch y gwddf.[1] Roedd lladd pobol trwy grogi yn gosb gyffredin am y troseddau mwyaf difrifol, megis dynladdiad, llofruddiaeth, dwyn a lladrata hyd nes dechrau’r 19eg ganrif. Yn ystod y 19eg ganrif
gostyngodd llawer o wledydd y defnydd o grogi fel math o gosb cyfalaf. Fodd bynnag, mewn rhai gwledydd mae marwolaeth trwy hongian yn dal i fod yn fath gyfreithiol o gosbi troseddwyr.
Mae crogi hefyd yn ddull cyffredin o hunanladdiad lle mae person yn rhoi clymiad i'r gwddf sydd yn arwain at anymwybyddiaeth ac yna marwolaeth trwy ataliad neu ataliad rhannol.
Hanes crogi yn y Deyrnas Unedig
[golygu cod]Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd y Côd Gwaedlyd yn rhestru dros 200 o droseddau a ellid cael eu cosbi gan crogi, oedd yn amrywio o lofruddiaeth, gwneud arian ffug, i ddwyn defaid, dwyn o bocedi, neu dwyn bysgodyn o lyn. Roedd llawer o feiriniaid y cod gosb yma yn ei gweld yn annynol a llawer o reithgorau yn osgoi dedfrydu’r gosb eithaf am rhai o’r mân-droseddau. Byddai llawer yn defnyddio alltudiaeth fel opsiwn arall i gosbi.[2]
Yn 1823, dileodd Robert Peel, yr Ysgrifennydd Cartref, y gosb eithaf am dros 180 o droseddau a olygai mai dim ond pump trosedd oedd bellach yn medru cael eu cosbi gyda’r gosb eithaf. Yn eu plith roedd môr-ladrata, ysbïo, teyrnfadwriaeth, llofruddiaeth neu dinistrio iard ddociau neu storfa arfau y Llynges.[3]
Roedd gan y mwyafrif o drefi a dinasoedd fan dienyddio neu lwyfan ar gyfer dienyddio cyhoeddus. Hyd nes 1868 roedd dienyddiadau yn cael eu cynnal yn gyhoeddus a byddai tyrfaoedd mawr yn ymgunnull i weld y digwyddiad. Yn Llundain, un o’r prif fannau crogi oedd Tyburn, ger Marble Arch heddiw a dyma lle dienyddiwyd rhai o arweinyddion y Pererindod Grâs yn 1537. Roedd hon yn orymdaith gan y rheini oedd yn gwrthwynebu Harri VIII yn cau’r mynachlogydd. Roedd Rowland Lee yn brolio ei fod wedi crogi tua 5,000 o ddrwgweithredwyr yng Nghymru wedi iddo cael ei benodi gan Harri’r VIII i geisio sefydlu cyfraith a threfn yng Nghymru cyn pasio’r Deddfau Uno.[2] Arweiniwyd y troseddwr ar gefn trol fel arfer i’r crocbren ac roedd disgwyl iddynt ar fin eu dienyddio cyfaddef eu bod yn euog ac edifarhau.[4]
Defnyddiwyd y gosb gyfalaf lai a llai yn y Deyrnas Unedig yn yr 20fed ganrif. Digwyddodd yr hongian olaf yn y Deyrnas Unedig ym 1964, cyn i gosb gyfalaf gael ei hatal am lofruddiaeth ym 1965 a'i diddymu am byth ym 1969.
Crogi yng Nghymru
[golygu cod]Roedd crogi yn cosb cyffredin yng Ngymru fel gweddill y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru defnyddiwyd yr hongian hefyd gan yr awdurdodau i orfodi cyfraith Lloegr ac i tawelu gwrthryfel.
Roedd Rowland Lee yn brolio ei fod wedi crogi tua 5,000 o ddrwgweithredwyr yng Nghymru wedi iddo cael ei benodi gan Harri’r VIII i geisio sefydlu cyfraith a threfn yng Nghymru cyn pasio’r Deddfau Uno.[2]
Ni ellid dibynnu ar y dienyddwyr i wneud eu gwaith yn lan a chyflym. Weithiau byddai’r rhaff yn torri neu’r trawst yn dod yn rhydd. Dyma ddigwyddodd wrth grogi David Evans yng Nghaerfyrddin yn 1829. Syrthiodd i’r llawr fel ‘pelen canon allan o fagnel’ yn ôl disgrifiad un o bapurau newydd y cyfnod. Hawliodd ei ryddid oherwydd y gred gyffredinol na ellir crogi neb ddwywaith. Ond, cydiwyd ynddo ef a’i roi nôl yn yr un safle chafodd ei grogi i sŵn bobl yn bloeddio y dylai gael ei adael yn rhydd.[5] Roedd crogwyr yn feddw yn aml iawn. Cafodd Lewis Francis, crogwr rhan-amser Sir Forgannwg, ei ddisgrifio ar ddiwedd y 18fed ganrif fel ‘meddwyn, lleidr a chardotyn’.[5]
Crogwyd Dic Penderyn, neu Richard Lewis, un o arweinyddion Gwrthrhyfel y Gweithwyr, Merthyr ym Mehefin 1831, tu allan i furiau Carchar Caerdydd yn Awst 1831 am iddo drywanu milwr o’r enw Donald Black adeg y Derfysg. Cyfaddefodd Ieuan Parker, flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd ar ei wely angau draw yn America, mai fe oedd wedi trywanu’r milwr. Plediodd ei fod yn ddi-euog cyn iddo cael ei grogi ac oherwydd hynny daeth yn ferthyr cyntaf y dosbarth gweithiol yng Nghymru.[6]
Roedd crocbren parhaol neu un dros dro gan y mwyafrif o drefi Cymru ar gyfer dienyddio cyhoeddus. Yng Nghaerdydd dyma’r rheswm tu ôl i enw ardal sy’n cael ei adnabod heddiwi fel Cyffordd Marwolaeth. Byddai troseddwyr yn cael eu cerdded o Garchar Castell draw at y crocbren yn y man yma. Roedd enghraifft o droseddwr ifanc yn cael ei grogi ar y twyni tywod tu allan i Garchar Abertawe yn 1866 a chrogwyd troseddwyr yn gyhoeddus yng Nghaernarfon yn y tŵr crogi oedd yn rhan o furiau’r dref.[7]
Cyn 1870 roedd y rheini a chwiliwyd yn euog o deyrnfradwriaeth naill ai’n cael eu crogi, torri pen ac wedyn byddent yn cael eu diberfeddu a phedrannu. Byddai pennau pobl aristocrataidd yn cael eu torri ffwrdd gyda bwyell, fel y digwyddodd yn nienyddiad cyfnither Elisabeth I, sef Mari, brenhines yr Alban yn 1587. Roedd y fwyell i fod sicrhau toriad fwy sydyn a glân i’r pen ac felly llai o ddioddefaint i’r unigolyn.[7]
Cosbi ar ôl crogi
[golygu cod]Nid crogi oedd diwedd y gosb i ddynion a chwiliwyd yn euog o deyrnfradwriaeth. Byddent yn cael eu crogi, torrwyd y rhaff tra roedd y dyn dal yn fyw, rhwygwyd ei berfedd ymaith tra roedd yn parhau yn fyw, ei ysbaddu, torri ei ben i ffwrdd a chwarteru’r corff trwy ei glymu i bedwar ceffyl a fyddai wedyn yn cael eu gyrru i bedwar cyfeiriad gwahanol.[5]
Ni chai cyrff merched eu darnio fel hyn, onibai am deyrnfradwriaeth fach, sef llofruddio gŵr neu ei meistr/meistres, lle mae’r gosb oedd llosgi i farwolaeth. Mae enghraifft o gosb fel hyn ar ddechrau’r 1770au yn achos morwyn a gyhuddwyd o ladd ei meistr.
Gyda phasio Deddf Llofruddio 1753 roedd cyrff dynion neu gwragedd yn gallu cael eu trosglwyddo i ddwylo meddygon ar gyfer cael eu hagor a’u harbrofi arnynt. Roedd teulu’r troseddwr yn aml yn ceisio osgoi bod y corff yn cael ei drosglwyddo at y meddygon oherwydd roedd hyn yn ychwanegu at y cywilydd a’r sarhad i’r teulu.[5]
Cyfeiriadau
[golygu cod]- ↑ Oxford English Dictionary, 2nd ed. Hanging as method of execution is unknown, as method of suicide from 1325.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Ad-daledigaeth ac ataliaeth yn y 18fed ganrif - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ "Ad-daledigaeth ac ataliaeth o'r 19eg ganrif i'r 21ain ganrif - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ "Defnyddio'r gosb eithaf yn gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 Parry, Glyn. (2001). Naid i dragwyddoldeb : trosedd a chosb 1700-1900. National Library of Wales. Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 1-86225-029-4. OCLC 47726591.
- ↑ "Sut oedd crwydriaid yn cael eu trin yn oes y Tuduriaid - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.
- ↑ 7.0 7.1 "Defnyddio'r gosb eithaf yn gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.