Dic Penderyn
Jump to navigation
Jump to search
Dic Penderyn | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
1808 ![]() Aberafan ![]() |
Bu farw |
13 Awst 1831 ![]() Achos: crogi ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
gweithiwr bôn braich, glöwr ![]() |
Gwrthryfelwr Cymreig oedd Dic Penderyn (enw bedydd: Richard Lewis) (1808 – 13 Awst 1831), glowr a llafuriwr yn ôl ei alwedigaeth.
Ganwyd yn Aberafan a daeth yn enwog wedi iddo gael ei grogi ar gam. Trigai ym Merthyr Tydfil a chymerodd ran yng Ngwrthryfel Merthyr ar 3 Mehefin 1831.[1] Fe'i arestiwyd ar 3 Mehefin, gyda'i gyfaill Lewis Lewis, un o'r arweinwyr.
Fe'i cyhuddwyd o drywanu milwr yn ei goes gyda bidog, er y teimlai nifer ar y pryd, ei fod yn ddieuog. Dywedir fod y llywodraeth Brydeinig am ladd o leiaf un o'r gwrthrhyfelwyr fel esiampl. Wedi ei farwolaeth, cafodd ei ddyrchafu i statws merthyr Cymreig.
Claddwyd Dic Penderyn ym mynwent eglwys y Santes Fair, Aberafan.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Dic Penderyn (Richard Lewis)". 100 Welsh Heroes. Cyrchwyd 21 Awst 2006.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]