Uwch Gynghrair Latfia
| Gwlad | Latvia |
|---|---|
| Cydffederasiwn | UEFA (Europe) |
| Sefydlwyd | 1927 |
| Nifer o dimau | 10 |
| Lefel ar byramid | 1 |
| Disgyn i | Latvijas 1. līga]] |
| Cwpanau | Cwpan Latfia Supercup Latfia |
| Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair Pencampwyr UEFA Europa League Europa Conference League |
| Pencampwyr Presennol | Riga FC (2025) |
| Mwyaf o bencampwriaethau | Skonto (15) |
| Gwefan | https://optibetvirsliga.lv |
Y Virslīga yw Uwch Gynghrair Bêl-droed Latfia a dyma'r adran bêl-droed uchaf yn Latfia.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ym mlynyddoedd cynnar pêl-droed Latfia, cynhaliwyd digwyddiadau pêl-droed (fel yn y mwyafrif o wledydd bryd hynny) yn y brifddinas yn bennaf. Gellid ystyried enillwyr 'cynghrair y ddinas' (1910-1915) yn 'bencampwyr cenedlaethol'. O 1922-1926 roedd 'cystadleuaeth genedlaethol' fwy neu lai. Trefnwyd y bencampwriaeth genedlaethol gyntaf ym 1927 wedi i Latfia ennill ei hannibyniaeth wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Rhwng 1945 a 1991 roedd pencampwriaeth Latfia Sofietaidd yn nodwedd o galendr chwaraeon y wlad. Gyda Latfia yn adennill annibyniaeth ym mis Awst 1991, penderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Latfia (Latvijas Futbola Federācija - y LFF) aildrefnu ei chystadlaethau yn y Virslīga o 1992.[1] Yn 2008 daeth Latfia yn aelod o UEFA. Ar ôl tymor 2007 tyfodd y gynghrair o wyth i ddeg tîm.[2] Yn 2008 chwaraeodd pawp ei gilydd bedair gwaith.

Ar ddiwedd y tymor, mae'r tîm sydd yn y safle gwaelod yn disgyn yn awtomatig i 1. liga, ac mae pencampwr 1. liga yn cymryd ei le yn awtomatig. Mae'r tîm sy'n gorffen yn y safle ail isaf yn Virslīga a'r tîm sy'n ail yn 1. liga yn chwarae dwy gêm am le yn y Virslīga y tymor canlynol. Mae enillydd Virslīga, pencampwyr Latfia, yn chwarae yn rownd ragbrofol Cynghrair Pencampwyr UEFA. Mae'r clybiau yn yr ail a'r trydydd safle yn chwarae yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Europa UEFA.[3]
Chwaraewyd cwpan cynghrair y tu allan i'r tymor y gaeaf, Cwpan Gaeaf Virslīga, ym mis Ionawr bob blwyddyn rhwng 2013 a 2017, a ddisodlwyd y flwyddyn nesaf gan Gwpan Virslīga (Latfia: Virslīgas kausa izcīņa).[4]
Rhwng 2015 a 2018 roedd wyth clwb yn cymryd rhan. Cynyddwyd hyn i naw ar gyfer tymor 2019 a deg ar gyfer tymor 2020.[5]
Twrnamaint
[golygu | golygu cod]Mae fformat chwarae'r twrnamaint a nifer y clybiau wedi newid sawl gwaith. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng mis Mawrth a dechrau mis Tachwedd. Ar hyn o bryd, mae 10 clwb yn cymryd rhan yn yr Uwch Gynghrair, sy'n cwrdd â'i gilydd ddwywaith yn ystod y tymor - unwaith gartref, unwaith oddi cartref, sy'n gyfanswm o 16 gêm. Ar ddiwedd y tymor, mae'r tîm yn y lle olaf yn cael ei ail-drosglwyddo i'r gynghrair 1af yn awtomatig ac yn cael ei ddisodli gan y tîm 1af a enillodd y gynghrair. Mae'r tîm sy'n aros yn y lle olaf ond un yn cwrdd mewn dau ail-ddarllediad i aros yn yr Uwch Gynghrair gydag enillydd yr 2il safle yn y gynghrair 1af.
Teitlau hanesyddol
[golygu | golygu cod]Nodir isod pencampwyr cystadlaethau cenedlaethol cyn sefydlu'r Gynghrair ar ei ffurf gyfoes wedi ad-ennill annibyniaeth Latfia yn 1991.[6]
Pencampwriaeth Latfia Annibynnol 1922–1940
[golygu | golygu cod]
|
|

Pencampwyr Cyfansawdd
[golygu | golygu cod]Nodir isod restr o'r clybiau sydd wedi ennill y fwyaf o bencampwriaethau yn Latfia annibynnol sef y cyfnod gyntaf rhwng y ddau Ryfel Byd (1922-1940) ac yna wedi i'r wlad ad-ennill annibyniaeth oddi ar yr hen Undeb Sofietaidd yn 1991 hyd y persennol.[6] Mae'r clybiau mewn print trwm yn rhan o Virslīga 2020.
| Club | Nifer Teitlau | Blynyddoedd |
|---|---|---|
| Skonto Riga † clwb yn fethdalwr bellach | 15 | 1991, 1992, 1993, 1994, 1995, 1996, 1997, 1998, 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2010 |
| RFK Riga | 8 | 1924, 1925, 1926, 1930, 1931, 1934, 1935, 1940 |
| Olimpija Liepāja | 7 | 1927, 1928, 1929, 1933, 1936, 1938, 1939 |
| Ventspils | 6 | 2006, 2007, 2008, 2011, 2013, 2014 |
| Liepājas Metalurgs † | 2 | 2005, 2009 |
| Kaiserwald Riga | 2 | 1922, 1923 |
| JPFS/Spartaks Jūrmala | 2 | 2016, 2017 |
| Riga FC | 2 | 2018, 2019 |
| FK Liepāja | 1 | 2015 |
| Daugava Daugavpils | 1 | 2012 |
| ASK Riga | 1 | 1932 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Latvia". UEFA. All rights reserved. 3 Medi 2018.
- ↑ Mike Dryomin (14 Mawrth 2008). "Latvia 2007". RSSSF. Cyrchwyd 23 July 2012.
- ↑ Hartmanis, Martins (2007-12-01). "LMT Virslīga new season calendar published". Latvian Football Federation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2008-02-20.
- ↑ "Ziemas kauss futbolā vairs nenotiks, to aizstās Virslīgas kausa izcīņa". LA.lv (yn Latfieg). 2017-12-22. Cyrchwyd 2019-08-07.
- ↑ "Sacensību sistēmas modeļa apstiprināšana". lff.lv (yn Latfieg).
- ↑ 6.0 6.1 Almantas Lauzadis and Hans Schöggl (23 Mawrth 2017). "Latvia - List of Champions". RSSSF. Cyrchwyd 9 Mehefin 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan y Virslīga Archifwyd 2013-03-15 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Swyddogol Archifwyd 2020-09-19 yn y Peiriant Wayback Cymdeithas Bêl-droed Latfia (LFF)
- Pêl-droed Latfia an UEFA.com
| |||||