System Ryngwladol o Unedau
| Enghraifft o: | international standard, safon technegol, coherent system of units, System fetrig |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0c13h |
| Thesawrws y BNCF | 11102 |
| Quora | International-system-of-units |
Ffurf fodern y system fetrig o fesur ydy'r System Rhyngwladol o Unedau (Ffrangeg: Le Système international d'unités; Saesneg: International System of Units)[1] sydd wedi eu seilio ar saith uned sylfaenol o fesur ac ar hwylustod y rhif deg (10).
Dyma system fesur mwyaf poblogaidd o'i fath yn y byd, boed mewn diwydiant, addysg, neu wyddoniaeth.[2] Ceir, hefyd, unedau ychwanegol at yr Unedau SI a dderbynir ar y cyd â rhestr yr SI.
Cedwir cyflwyniad swyddogol o'r System ar wefan NIST, gan gynnwys diagram o gydberthynas yr unedau â'i gilydd. Nodir isod rhai o'r unedau sylfaenol a cheir rhestr lawn mewn adroddiad (CODATA) am eraill gan restru rhai sefydlog, megis cyflymder golau.
Y Saith Uned Sylfaenol
[golygu | golygu cod]Mae'r system unedau yma'n dosbarthu'r holl feusiadau i saith prif ddosbarth ac yn rhestru set o ragddodiaid i'w rhoi o flaen yr enwau. Mae pob un o'r unedau sylfaenol sy'n dilyn yn fathau gwahanol o fesurynnau; allan o'r saith yma y daw pob uned dilynol.
| Enw | Symbol yr Uned | Yr hyn a fesurir | Symbol |
|---|---|---|---|
| metr | m | hyd | l (llythyren fach) |
| cilogram | kg | màs | m |
| eiliad | s | amser | t |
| amper | A | cerrynt trydanol | I (i: llythyren fawr) |
| kelvin | K | tymheredd | T |
| candela | cd | cryfder golau | Iv (i fawr gyda thanysgrifiad v) |
| môl | mole | maint o ddefnydd | n |
Rhagddodiaid
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd yr erthygl lawn ar ragddodiad SI.
| Lluoswm | Enw | deca- | hecto- | kilo- | mega- | giga- | tera- | peta- | exa- | zetta- | yotta- | |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Symbol | da | h | k | M | G | T | P | E | Z | Y | ||
| Ffactor | 100 | 101 | 102 | 103 | 106 | 109 | 1012 | 1015 | 1018 | 1021 | 1024 | |
| Isddosbarthiad | Enw | deci- | centi- | milli- | micro- | nano- | pico- | femto- | atto- | zepto- | yocto- | |
| Symbol | d | c | m | μ | n | p | f | a | z | y | ||
| Ffactor | 100 | 10−1 | 10−2 | 10−3 | 10−6 | 10−9 | 10−12 | 10−15 | 10−18 | 10−21 | 10−24 | |
Rhai Unedau SI ar gyfer Ffiseg
[golygu | golygu cod]| Yr hyn a gaiff ei fesur | Y gair Saesneg | Symbol | Uned Safonol | Fformiwla |
|---|---|---|---|---|
| Gwahaniaeth potensial | Potential difference | V | folt, V | V = I.R |
| Cerrynt | Current | I | amper, A | I = V/R |
| Gwrthiant trydanol | electric resistance | R | ohm, Ω | R = V/I |
| Anwythiant trydanol | electric inductance | L | henry, H | H = Ώ.s |
| Cynhwysiant trydanol | electric capacitance | C | ffarad, F | F = s/Ώ |
| Gwefr | Charge | Q | coulomb, C | Q = I.t |
| Ymbelydredd a Dadfeilio ymbelydrol | Radioactivity a Radioactive decay | Bq | becquerel | 1/s neu A= -λN |
| Pwer | Power | P | wat, W | P = V.I neu P = I2.R |
| Egni | Energy | E | joule, J | E = Q.V neu V = E/Q |
| Amser | Time | t | Eiliad, s | E = F.l neu P.t |
| Grym | Force | F | newton, N | F = m.a |
| Màs | Mass | m | cilogram, kg | F = m.a |
| Pwysau (grym) | Weight neu force | W | newton, N | W = m.g |
| Dwysedd | Density | D | kg/m3, kg/m3 | D = m/V |
| Moment | Moment of force neu torque | M | newton-metr, Nm | IM = F.l |
| Cyflymder a Buanedd | Speed neu velocity | v | metr/eiliad, m/s | v = p/t |
| Cyflymiad | Acceleration | a | metr/eiliad2, m/s2 | a = Δv/t neu a = F/m |
| Gwasgedd | Pressure | P | pascal, Pa (N/m2) | P = F/A |
| Arwynebedd | Area | A | metr2, m2 | A=s2 (s = hyd yr ochr) |
| Cyfaint | Volume | V | metr3, m3 | A=s3 (s = hyd yr ochr) |
| Amledd | Frequency | f neu ν (ν = nu Groeg) | hertz, Hz | f = 1/t (t = cyfnod o amser) |
| Tonfedd | Wavelength | λ | metr, m | v = ν.λ (fformiwla ton) |
| Gwaith a wneir | Work neu heat | Wd | joule, J | Wd = F.d |
| Egni potensial | Potential energy | EP | joule, J | EP = m.g.Δh (h = uchder) |
| Egni cinetig | Kinetic energy | EC | joule, J | EC= ½ m.v2 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bureau International des Poids et Mesures
- ↑ Official BIPM definitions
- ↑ Barry N. Taylor & Ambler Thompson Ed. The International System of Units (SI) [1][dolen farw] Adalwyd: Mehefin 2008; cyhoeddwr: National Institute of Standards and Technology, Gaithersburg, 2008
- ↑ Quantities Units and Symbols in Physical Chemistry, IUPAC