Newton (uned)
Jump to navigation
Jump to search
Mae newton (symbol: N) yn uned SI rhyngwladol a ddefnyddir i fesur grym; gellir dweud mai grym ydy pwysau a fesurir mewn niwtonau. Mae màs yn wahanol i grym ac yn cael ei fesur gan kilogramau. Achosir pwysau fodd bynnag gan dyniant disgyrchiant ac fe'i mesurir mewn niwtonau. Cafodd y mesur hwn ei enwi ar ôl Isaac Newton mewn parch at ei waith ar fecaneg clasurol.
Diffiniad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r newton yn uned sy'n gyfartal a swm y grym sydd ei angen i gyflymu gwrthrych sydd a mas o un kilogram ar raddfa o un metr yr eiliad yr eiliad.
Mae gwasgedd yn cael ei fesur mewn N/cm2 neu N/m2; enw arall ar yr olaf ydy pascal (Pa).
Gellir rhoi hyn mewn fformiwla: