Rhyfel Cartref Sbaen, 1936
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiadau mewn blwyddyn neu gyfnod amser penodol |
---|---|
Dyddiad | 1936 |
Rhan o | Rhyfel Cartref Sbaen, Timeline of the Spanish Civil War |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936 wedi i'r Cenedlaetholwyr Radical, a gefnogai'r Cadfridog Franco, godi yn erbyn y Weriniaeth a oedd wedi ei sefydlu yn Sbaen yn 1931. Cydymdeimlai llawer o Gymry â'r Weriniaeth yn Sbaen a theithiodd llawer o Gymry yno i ymladd ar ochr y Gweriniaethwyr ac yn erbyn Ffasgiaeth a Franco.[1]
Dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen (1936–1939) gyda gwrthryfel ym Morocco ar Orffennaf 17fed, a sbardunwyd gan ddigwyddiadau ym Madrid. O fewn dyddiau, rhannwyd Sbaen yn ddwyː y Sbaen "Weriniaethol" (neu "Deyrngarol") a gynhwysai'r Ail Weriniaeth Sbaeneg, a Sbaen "Cenedlaetholgar" dan gadfridogion gwrthryfelgar, ac yn y diwedd dan arweinyddiaeth Cadfridog Francisco Franco.
Erbyn yr haf roedd dau beth yn gwbwl amlwg: creulondeb erchyllterau'r Rhyfel a theyrngarwch gwledydd eraill: cymorth ysbeidiol yr Undeb Sofietaidd i'r lywodraeth Weriniaethol ar y naill law ac ymroddiad llwyr Eidal Ffasgaidd a'r Almaen Natsïaidd tuag at y Cenedlaetholwyr ar y llaw arall.
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Yn nyddiau cynnar y rhyfel, llofruddiwyd neu ddienyddwyd yn ddiamod tros 50,000 o bobl a oedd ar yr ochr "anghywir". Galwyd y dienyddiadau hyn yn paseos ("promenadau"): tynnwyd y bobl hyn o'u llochesau neu garchardai gan bobl arfog a'u saethu y tu allan i'w trefi. Efallai mai'r enwocaf o'r bobl hyn a gafodd eu herlid yn y modd yma oedd y bardd a'r dramodydd Federico García Lorca. Darparodd cychwyniad y rhyfel esgus da i dalu'n ôl hen bwythau. Felly, daeth hyn yn gyffredin yn ystod y Rhyfel yn yr ardaloedd a orchfygwyd. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, hyd yn oed yn y pentrefi lleiaf, roedd y ddwy ochr yn cymeryd rhan yn y llofruddio.
Daeth pob gobaith o ddod a'r Rhyfel i ben ar Orffennaf 21, y pumed diwrnod o'r gwrthryfel, pan gipiwyd prif orsaf llynges Sbaen yn Ferrol, Galisia yng ngogledd orllewin Sbaen. Calonogodd hyn wledydd Ffasgaidd Ewrop i helpu Franco, a oedd yn barɒd wedi cysylltu â llywodraethau'r Almaen ac Eidal diwrnod ynghynt. Ar Orffennaf 26, ymunodd Bwerau'r Echel â'r Cenedlaetholwyr. Sianelodd yr Almaenwyr eu cymorth drwy Franco'n uniongyrchol yn hytrach na thrwy'r Cenedlaetholwyr ac atgyfnerthodd hyn ei arweiniad yn y gwrthryfel.
Yn y gogledd, gwthiodd lluoedd y gwrthryfelwyr dan arolygaeth Cyrnol Beorlegui, gyrrwyd hwy yno gan Gadfridog General Emilio Mola, ar Gipuzkoa. Ar Fedi'r 5ed, yn dilyn brwydro ffyrnig, cymerwyd Irún, gan felly gau'r ffin Ffrengig i'r Gweriniaethwyr. Ar Fedi'r 13fed, ildiodd y Basgwyr Donostia/San Sebastián i'r Cenedlaetholwyr. Aeth y Cenedlaetholwyr ymlaen wedyn tuag at brif ddinas y Basgwyr, Bilbo/Bilbao, and fe'u ataliwyd wrth ffin y wlad. Wedi i'r Cenedlaetholwyr gipio Gipuzkoa, ynyswyd gweddill y taleithiau Gweriniaethol yn y gogledd.
Enillodd lluoedd Cenedlaetholgar Franco fuddugoliaeth symbolaidd bwysig ar Fedi'r 27ed pan lwyddasant i godi gwarchae ar dref Alcazar, Toledo. Deuddydd ar ôl ennill y warchae, datganodd Franco ei hun yn Generalísimo a'r Caudillo ("pennaeth"); byddai'n gorfodi'r gwahanol elfennau Ffalanchaidd a Brenhingar o fewn yr achos Genedlaetholgar i uno.
Yn Hydref, dechreuodd y Cenedlaetholwyr ymgyrch ymosodol enfawr tuag at Madrid, gan ei chyrraedd yn gynnar yn Nhachwedd a chychwyn ymosodiad ffyrnig ar y ddinas ar Dachwedd yr 8fed. Ar Dachwedd y 6ed, rhaid oedd i lywodraeth y Gweriniaethwyr ffoi o Fadrid i Valencia, tu allan i'r parth rhyfela. Beth bynnag, cafodd ymosodiad y Cenedlaetholwyr ar y brif ddinas ei hyrddio gan frwydro ffyrnig rhwng Tachwedd yr 8fed a'r 23fed. Ffactor gyfrannol i lwyddiant amdiffynol y Gweriniaethwyr oedd cyrhaeddiad y Frigadau Rhyngwladol, er coelir mai dim ond tua 3,000 ohonynt oedd wedi cymryd rhan yn y frwydr honno. Wedi methu a gorchfygu'r brif ddinas, fe'i bomiwyd o'r awyr gan luoedd Franco, ac yn y ddwy flwyddyn ddilynol, ceisiodd sawl tro i amgylchynu Madrid.
Ar Dachwedd 18 cydnabuwyd cyfundrefn Franco'n swyddogol gan yr Almaen a'r Eidal ac ar 23 Rhagfyr gyrrodd yr Eidal "wirfoddolwyr" i ymladd gyda'r Cenedlaetholwyr.
Hanes y Cymry yn y Rhyfel
[golygu | golygu cod]Un o brif drefnwyr y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru oedd dyn o'r enw Lewis Jones a oedd yn gynghorydd yn y Rhondda ac fe'i hetholwyd yn aelod o bwyllgor Cymreig y Blaid Gomiwnyddol yn 1931. Trefnodd brotestiadau a gwrthdystiadau yn Llundain er mwyn dangos cefnogaeth i Weriniaeth Sbaen.
Sefydlwyd cangen Brydeinig o'r Frigâd Ryngwladol ym mis Rhagfyr 1936. Erbyn diwedd y Rhyfel Cartref yn Sbaen roedd 177 o Gymry wedi ymladd dros y Weriniaeth a lladdwyd 33 ohonynt.
Daliwyd nifer o Gymry yn wystlon yn Sbaen ac un ohonynt oedd Tom Jones o Rosllanerchrugog. Bu'n ysgrifennydd Cyngor Heddwch Rhos tan iddo ymuno â'r Frigad Rhyngwladol. Cymerwyd ef yn garcharor yn Sbaen ym mis Medi 1938 ac ni ryddhawyd ef tan fis Mawrth 1940, wedi i lywodraeth Prydain gytuno i arwyddo cytundeb masnach a oedd, yn ôl rhai, yn werth £2,000,000.
Cafwyd sawl ymgais gan Gymry i dorri drwy'r blocâd (neu 'warchae') a osodwyd gan Franco o amgylch Sbaen i rwystro cymorth rhag cyrraedd ei wrthwynebwyr. Ceisiodd Capten David John Jones o Abertawe basio drwy'r gwarchae â llond llong o datws a daethpwyd i'w adnabod fel 'Potato Jones'.
Ar 26 Ebrill 1937 dinistriwyd tref Guernica yng Ngwlad y Basg gan awyrennau bomio Almaenig a oedd wedi eu gyrru yno gan Hitler. Roedd hi'n ddiwrnod marchnad yn y dref a lladdwyd miloedd o drigolion. Sefydlwyd cronfa yng Nghymru i godi arian ar gyfer plant y Basgiaid yng Nghaerllion, Abertawe, Brechfa a Hen Golwyn, a mabwysiadwyd rhai o'r plant gan deuluoedd lleol.
Cronoleg Manwl o'r digwyddiadau, 1936
[golygu | golygu cod]- Chwefror 16
Llwyddiant etholaethol cynnar y Popular Front.
Gorffennaf
[golygu | golygu cod]- Gorffennaf 12
Llofruddiwyd is-gapten yr heddlu, José Catillo, gan bedwar o Ffalanchwyr (ar ochr y Falange Española de las JONS Ffasgaidd) a oedd yn disgwyl yr is-gapten o flaen ei dŷ. Roedd yn aelod o Unión Militar Antifascista, cyfundrefn gwrth-Ffasgaidd i aelodau filitaraidd, ac a oedd hefyd yn gweithio i'r urdd sosialaidd.
- Gorffennaf 13
Mewn ad-daledigaeth, am tua 3yb, fe lofruddwyd José Calvo Sotelo, arweinydd plaid adain-dde'r blaid y breniniaethwyr gan heddweision. Dim ond oriau wedi llofruddiaeth Castillo, mae ei ffrind agos Prif Swyddog yr Heddlu Fernando Condés ynghŷd â heddweision eraill yn arestio Calvo Soltan yn ei dŷ. Mae Paul Preston wedi damcaniaethu fod yr heddweision wedi actio ar eu gwirfodd. Roedd hyn yn ffactor yn y gwrthsefyll ar Orffennaf 18fed, er fod y gwrthryfel ffasgiaidd wedi ei gynllunio ers rhai misoedd. Wrth yrru gydag ef mewn car heddlu o'r Guardia de Asalto, fe'i saethwyd yn ei wddf mewn dienyddiad ddiseremoni gan Swyddog Luis Cuenca.
- Gorffennaf 14
Mewn brwydr yn y strydoedd o amgylch mynwent Madrid, bu Guardia Asalto a milisia ffasgaidd yn brwydro tra bod angladdau José Castillo a Calvo Sotelo yn cymeryd lle. Lladdwyd pedwar o bobl.
- Gorffennaf 17
Gwrthryfel byddin ym Morocco. Gwrthryfel milwrol o'r Lleng Sbaeneg ym Morocco. Mae Cadfridog Manuel Romerales yn cael ei lofruddio, caiff prif swyddog o Fyddin y Dwyrain ei lofruddio gan y gwrthryfelwyr, ac maent hefyd yn carcharu Cadfridog Aruchel Gomez yn hwyr yn y prynhawn. Mae heddweision teyrngar o'r Guardia Civil a'r Guardia de Asalto'n dal eu gafael ar ddinasoedd Tetouan a Larache, ond yn dod o dan ymosodiad trwm gan y gwrthryfelwyr. Mae Cadfridog Franco yn gorchymyn lladd ei nai ei hun sydd yn uwchgapten yn Tétouan, am aros yn daer i'r llywodraeth. Erbyn y noswyl, mae'r holl o Morocco'n nwylo'r y gwrthryfelwyr. O'r Ynysoedd Dedwydd, mae Cadfridog Franco yn datgan "stad o ryfel" ar yr holl o Sbaen. Mae'r Prif Weinidog Santiago Caseares Quiroga yn treulio'r holl ddiwrnod yn ffonio gwahanol gweinyddiaethau militaraidd rhanbarthol i loywi'r sefyllfa. Mae Pamplona, Zaragoza, Oviedo, Salamanca, Ávila, Segovia a Cádiz yn barod yn nwylo'r y gwrthryfelwyr.
- Gorffennaf 18
Mae'r y gwrthryfelwyr yn ennill rheolaeth ar tua traean o Sbaen.
- Gorffennaf 19
Mae Franco yn hedfan o'r Ynysoedd Dedwydd i Tétouan ac yn cymeryd rheolaeth o'r fyddin yn Affrica. Ymddiswyddai Casares Quiroga fel arweinnydd llywodraeth y Gwerinieithwyr. Ceisiai Diego Martinez Barrio greu llywodraeth newydd, ond ni all ennill digon o gefnogaeth ar draws y senedd. Caiff llywodraeth ei ffurfio gan José Giral, ac mae arfau iw cael eu rhyddhau i'r boblogaeth gyffredinol. Mae Seville, un o'r dinasoedd pwysicaf yn y de'n methu cael ei hamddiffyn gan heddweision lleol a milisia gweithwyr lleol sydd heb yr arfau safonol. Tra mai gynnau peiriant yw'r arfau trymaf sydd ym meddiant yr heddlu mae Cadfridog Gonzalo Quiepo de Llano o'r y gwrthryfelwyr yn gyrru fewn magnaelau a milwyr arfog iawn. Syrthiai Seville i'r y gwrthryfelwyr. Hwn yw diwrnod Olympiad y Bobl, a oedd i ddechrau ym Marcelona, fel protest yn erbyn y Gemau Olympaidd Swyddogol, 1936 ym Merlin, prifddinas yr Almaen Natsïaidd. Caiff y gemau nawr eu dileu oherwydd y rhyfel. Ym Marcelona, mae ymladd trwm ar y strydoedd rhwng yr heddlu, milisia'r gweithwyr a milwyr teyrngarol ar yr un ochr, ac oddeutu 12, 000 o filwyr y y gwrthryfelwyr ar yr ochr arall. Ar ôl iddi ddod yn amlwg na allai'r Gwarchodwyr Sifil, Guardia de Asalto â'r Heddlu dinesig gadw rheolaeth ar y ddinas ar eu pen eu hunain, mae'r Generalitat (llywodraeth ranbarthol Catalonia) yn hwyrol iawn benderfynu arfogi'r dinasyddion teyrngarol.
- Gorffennaf 20
Caiff y gwrthryfelwyr eu trechu ym Madrid a Barcelona, ond maent yn cymeryd Maiorca. Ym Madrid, mae oddeutu 10,000 o ddinasyddion, yn eu mysg heddweision a milwyr yn ymosod ar Barics Montana, sydd o dan reolaeth Cadfridog Fanjul ac oddeutu 2500 o filwyr. Mae rhai o'r milwyr tu fewn i'r Barics am ildio, gan chwifio'r faner wen. Mae'r dorf yn symud tuag at y barics, tra bo'r milwyr a oedd eisiau ildio'n cael eu gorchfygu gan y y gwrthryfelwyr. Mae'r y gwrthryfelwyr wedyn yn tanio gynnau peiriant trwm ac y taflu taflegrau i'r dorf gan adael llawer yn glwyfus neu'n farw. Mae'r dorf yn gorchfygu'r barics ac yn lladd yr amddiffynwyr. Mae Cadfridog Fanjul ymysg y rhai a ddalwyd yn fyw. Barcelona: Mae'r heddlu lleol, milisia'r gweithwyr a'r dinesyddion wrth gyd-dynnu'n ad-ennill y ddinas mewn deuddydd o ymladd baricadau. Maiorca: Yn dilyn gwrthryfela ffyrnig, yn enwedig yn y maes awyr, mae'r y gwrthryfelwyr yn ennill rheolaeth tros Majorca. Mae arweinydd swyddogol yr gwrthryfela, Cadfridog José Sanjuro'n marw mewn damwain awyr ar ei ffordd yn ôl i Sbaen o'i alltudedd ym Mhortiwgal. Roedd wedi mynnu, yn groes i gyngor y peilot, ar fynd a'i holl feddiant gydag ef, ac oherwydd hyn roedd gor-bwys ar yr awyren, ac fe'i dinistrwyd wrth geisio esgyn.
- Gorffennaf 21
Dechreuad Gwarchae o'r Alcazar de Toledo. Mae ar y gwrthryfelwyr Cenedlaetholgar reolaeth ar ranbarthau Sbaeneg Morocco, yr Ynysoedd Dedwydd, yr Ynysoedd Balearaidd heblaw Minorca, rhan o Sbaen i'r gogledd o'r Sierra de Guadarrama â'r Ebro (heblaw Asturias, Cantabrica, gogledd Gwlad y Basg, a Chatalonia). Ymysg y pirf ddinasoedd, mae'r gwrthryfelwyr yn dal eu gafael ar Seville, ond mae'r Gwerinieithwyr yn cadw eu gafael ar Madrid a Barcelona. Toledo: Yn dilyn tri diwrnod o ymladd ar y strydoedd yn erbyn grymoedd yn daer i'r llywodraeth, mae tua 1,000 o Filwyr Sifil ac Ymosodol, ffalanchwyr a llond llaw o gadetiaid troedfilwyr o dan arweiniaeth Cyrnol José Moscardó Ituarte yn encilio i'r Alcázar de Toledo, caer greigiog ar dir uchel yn edrych dros y Tagus a'r ddinas. maent yn cymeryd gyda hwy eu teuluoedd eu hunain ynghŷd â merched a phlant fel gwystlon, y rhan fwyaf ohonynt yn deuluoedd adnabyddus chwithol.
- Gorffennaf 22
Vallehermoso, Santa Cruz de Tenerife yn la Gomera, pentref o 4,000, yw'r lle olaf ar yr Ynysoedd Dedwydd i ildio i'r y gwrthryfelwyr. Trefnodd Swyddog yr Heddlu, Francisco Mas García wrthryfel anobeithiol. Parhaodd yr ymladd yn y dref am rai oriau. Fe gondemnwyd y cynghorydd, yr heddweision â chyngor y gweithwyr lleol i farwolaeth. Yn yr air cyn ei ddienyddiaeth, ysgrifennodd prif swyddog yr heddlu Don Antonio i'e wraig: "Marwaf yn dawel, oherwydd rwyf yn coelio yng nghyfiawnder Duw." Arhosai'r llynges â'r awyrlu'n daer i'r llywodraeth. Diolch i flaengarwch swyddog di-ddirpwyedig o'r new Benjamin Balboa, arhosodd y rhan helaeth o'r llynges yn daer i'r Weriniaeth. Roedd ar ddyletswydd yn yr orsaf radio militaraidd ganolog. Cyn gynted a cafodd wybod am y gwrthryfel fe adawodd wybod i'r Wenidogaeth Llyngesol ac fe arestwyd ei uwch swyddog, Capten Castor Ibánez, ac yna treuliodd y nos yn hysbysu llongau'r llynges am y gwrthryfel. Crëodd y morwyr ar y llongau gynghorau ac enillwyd rheolaeth o'r llongau hynny, er gwaethaf gwrthrym cryf y swyddogion. Collodd Sbaen dri-chwarter o'i swyddogion llyngesol y noson honno, ond fe achubwyd y Llynges i'r Weriniaeth. Mae Awyrlu Sbaen yn draddodiadol weriniaethol dros ben, ond does gan yr awyrlu ond ychydig o awyrennau darfodedig.
- Gorffennaf 23
Mae'r Cenedlaetholwyr yn datgan llywodraeth mewn ffurf Cyngor Amddiffyn Cenedlaethol, sy'n cyfarfod yn Burgos am y tro cyntaf.
- Gorffennaf 24
Cychwyn cymorth Ffrenging o plaid y Weriniaeth. Ar y cychwyn, golygir hyn yrru ychydig o awyrennau darfodedig i Awyrlu Weriniaethol Sbaen yn unig, ond mae'r ffaith fod Ffrainc yn barod i helpu yn hynod bwysig i ysbryd calon cefnogwyr y Weriniaeth. Mae Colofn Durruti, oddeutu tair mil o ddynion, gan fwyaf yn weithwyr, sy'n cael eu arwain gan Buenaventura Durruti, yw'r milisia wirfoddolaidd gyntaf i adael Barcelona, yn anelu at ffrynt Aragon.
- Gorffennaf 28
Cyrrhaeddiad cyntaf awyrennau Almaenaidd ac Eidalaidd i gynorthwyo'r Cenedlaetholwyr. Yn awyrgludiad miltaraidd mawr cyntaf y byd, mae awyrennau Alamenaidd ac Eidalaidd yn cludo milwyr o Forocco i Sbaen, gan osgoi blocâd llyngesol.
- Gorffennaf 31
Prydain yn gwahardd gwerthiant arfau i Weriniaeth Sbaen.
Awst
[golygu | golygu cod]Chwyldro cymdeithasol a ffermio cydweithredol.
- Awst 1
Dan bwysau Prydeinig, mae Ffrainc yn gwrthdroi eu polisi o helpu Gweriniaeth Sbaen, ac ynghŷd â Phrydain maent yn creu'r Pwyllgor Di-Ymyrraethol/ Non-Intervention Committee.
Oherwydd pledio'r Marqués de Viana â'r cyn -frenin alltud Sbaenaidd Alfonso XIII, mae Benito Mussolini yn gyrru awyrennau i gymorthwyo'r y gwrthryfelwyr. Gan ei fod yn ymofyn am dalied, mae'r biliwnnydd Juan March Ordinas yn talu Mussolini am yr awyrennau Eidaliadd. Am nad oes gan Franco weithwyr awyr na pheilotiaid, mae Mussolini'n gyrru awyrennau gyda pheilotiaid Eidalaidd. Yn dilyn damwain i ddwy awyren ar eu ffordd i'r ddiffynwriaeth Ffrengig ym Morocco (French protectorate in Morocco), daw'r byd i wybod am dor-amod clir y di-ymyrraeth.
- Awst 2
- Mae milwyr gwrthryfelgar y Lleng Sbaeneg, dan arweiniad Cyrnol Carlos Asensio Cabanillas ac uwchgapten Antonio Castejón Espinosa, yn dechrau nesau tuag at Madrid o Seville.
- Awst 6
- Josep Sunyol, dirprwy o Weriniaethwyr y Chwith, Catalonoia/Republican Left of Catalonia ac arlywydd o FC Barcelona, yn cael ei ddal mewn cudd-ymosodiad yng Guadarrama ac fe gaiff ei ladd gan filwyr pro-Franco.
Mae Cadfridog Franco'n cyrraedd Seville.
- Awst 8
- Mae Ffrainc yn cau ei ffin â Sbaen.
Tra bod Maiorca yn dal yn nwylo'r cenedlaetholwyr, mae Ibiza a Fomentera yn ôl yn nwylo Gweriniaethol.
- Awst 10
- Mae'r Cenedlaetholwyr yn cymeryd Mérida ar eu ffordd i Fadrid, gan wahanu'r Gweriniaethwyr yn Badajoz. Caiff y weithredwraig adnabyddus Gweriniaethol Leiva ei dienyddio gan y Cenedlaetholwyr. Mae Uwchgapten Heli Rolando de Tella y Cantos yn gorchfygu gwrthymosodiad Gweriniaethol ar y ddinas.
- Awst 14
Mae grymoedd Cenedlaethol dan arolygaeth Cyrnol Juan Yagüe yn ymosod ar a choncro Badajoz, gan uno dwy ran o diriogaeth Cenedlaetholaidd. Mae'r uwch swyddog Gweriniaethol, y Cyrnol Ildefonso Puigdendolas, yn ffoi i Portugal. Mae tua 4000 o bobl yn marw yn ystod ac yn dilyn yr ymosodiad ar Badajoz.Yn y maes ymladd teirw mae miloedd o bobl yn cael eu saethu gan ynnau peiriant y Cenedlaetholwyr. Gweler Massacre of Badajoz.
- Awst 16
- Dechreuad Brwydr Maiorca/Battle of Majorca : Mae'r Fyddin Weriniaethol Sbaenaidd/ The Spanish Republican Army yn glanio ar arfordir Maiorca o dan fagneliad trwm gan awyrenau Eidaliadd. Sefydlir gorsaf bychain ar yr arfordir gan Gapten Alberto Bayo.
- August 19
Viznar, Granada: caiff Federico García Lorca, ymysg eraill, ei ladd gan ymaelodau o'r Escuadra Negra ffasgaidd. Cyn cael eu llad caent eu gorfodi i dyllu eu beddau eu hunain. Yn ddiweddrarch, yr esgus swyddogol tros yr llofruddio ciaidd oedd am y ffaith fod García Lorca yn hoyw.
- Awst 24
- Daw'r Eidal a'r Almaen i ymuno â'r Cytundeb Di-Ymyrraeth yn swyddogol. Mae hyn yn rhoi'r posibilrwydd iddynt gymeryd rhan yn y flocâd rhyngwladol o Sbaen: mae llongau rhyfel Eidalaidd ac Almaenig yn cael aros ym moroedd tiriogaethol Sbaenaidd i wahardd llongau eraill rhag cyrraedd glannau Sbaen.
Medi
[golygu | golygu cod]- Medi 3
Mae'r lluoedd Gweriniaethol, dan Gapten Alberto Bayo yn tynnu'n ôl o Maiorca. Ar ôl sefydlu maes bychain ar arfordir Maiorca pythefnos ynghynt, ni allai'r milwyr Gweriniaethol wthio ymlaen i berfedd yr ynys. O dan ymosodiad parhaol gan lluoedd y gelyn o'r awyr a thir, roedd y tynnu'n ôl yn frysiog iawn, gan adael ar ôl nifer o filwyr, arfau a deunyddiau gwerthfawr.
- Medi 4
Mae'r Prif Weinidog Francisco Largo Caballero yn cyflwyno llywodraeth newydd: chwech Sosialydd, pedwar Gweriniaethwr, dau Gomiwnydd, un Gweriniaethwr Catalanaidd, ac un Cenedlaetholwr Basgaidd.
- Medi 5
Yn dilyn brwydro ffyrnig, caiff y ddinas Basgaidd Irún ei chymeryd gan y Cenedlaetholwyr. I wahardd y Cenedlaetholwyr rhag gwneud unrhyw ddefnydd o'r adeiladau llywodraethol, mae milisia Anarchaidd sydd yn amddiffyn y ddinas, yn eu dinistrio gyda ffrwydradau. Mae'r Cenedlaetholwyr nawr yn rheoli rhan mawr a chydgyffyrddol o Sbaen. Mae Gwlad y Basg wedi ei wahanu o weddill y Weriniaeth, mae'r arfordir Basgaidd wedi ei gau gan longau rhyfel gan wladwriaethau "Di-Ymyrraethol", ac yn y diwedd caiff ei ffyrdd cyflenwi tros y ffin Ffrengig eu gwahardd.
- Medi 8
Ym Mhortiwgal mae morwyr ar ddwy long lyngesol yn troi at fiwtini, ac yn ôl pob golwg yn bwriadu cymeryd y llongau i ymuno â'r gweriniaethwyr yn Sbaen. Caiff yr ymdrech wrthryfelgar ei chwalu gan luoedd sy'n driw i unben Portiwgal, António de Oliveira Salazar, ac mae gormes gwrth-gomiwnyddol yn dwysháu.
- Medi 9
Mae 23 gwlad yn bresennol yng nghyfarfod swyddogol cyntaf y pwyllgor Di-Ymyrraeth yn Llundain. Mae'r effaith seicolegol ar yr ochr Wladwriaethol yn ddifrifol. Dim ond Mecsico sy'n datgan "cefnogaeth lawn a chyhoeddus hawliau llywodraeth Madrid.[...] rhoddodd agwedd Mecsico gysur moesol aruthrol i'r Weriniaeth, yn enwedig pan fu i lywodraethau pwysig eraill De America - sef o'r Ariannin, Brasil, Chile a Pheriw - fwy neu lai gydymdeimlo â'r Gwrthryfelwyr." Ond golygai cymorth Mecsico ychydig iawn yn nhermau cymharol os yw'r ffin Ffrengig ar gau ac os yw'r unbennau'n rhydd i gyflenwi'r Cenedlaetholwyr gydag arfau gwell nag arfau Mecsico.
Mae'r Cenedlaetholwyr wedi bod dan warchae'n yr Alcázar de Toledo ers Gorffennaf 21. Heddiw, mae Isgapten Cyrnol Vicente Rojo Lluch yn mynd i fewn i'r Alcazar gyda baner cymodi i ildio, ond yn methu rhyddhau'r gwystlon. Mae'r Cyrnol Moscardo'n gwrthod y ddau gynnig.
- Medi 13
Mae'r Basgwyr yn ildio Donostia (Sbaeneg: San Sebastian) i'r Cednedlaetholwyr yn hytrach na'i dinistrio. Caiff milisiaid anarchaidd sydd am losgi'r ddinas eu saethu. Mae'r Cenedlaetholwyr nawr yn symud ymlaen tuag at ddinas fwayf y Basgiaid, Bilbo (Sbaeneg: Bilbao).
Cytuna'r llywodraeth i yrru rhan o'u cronfa aur cenedlaethol i'r Undeb Sofietaidd. Mae'r aur yn cael ei yrru yno fel sicrwydd i fedru prynu deunyddiau rhyfel yn y dyfodol o'r Undeb Sofietaidd.
- Medi 14
Mae Pius XI yn condemnio'r Llywodraeth Weriniaethol am eu "casineb satanaidd yn erbyn Duw", mewn ymateb i'r newydd am y Tad Josep Samsó PP o Santa María de Mataró ger Barcelona, a garcharwyd am fod yn offeiriad a gafodd ei ddienyddio yn y fynwent leol ar Fedi'r 1af.
- Medi 19
- Mae'r Cenedlaetholwyr yn llwyddo i gyneryd ynys Ibiza tra llwydda'r gwrthryfelwyr ar ynys Fernando Poo (Spanish Guinea).
- Medi 24
Yn erbyn argymhelliad cynghorwyr Almaenaidd, mae Franco'n gohirio'r ymosodiaid ar Fadrid er mwyn cynorthwyo'r gwrthryfelwyr yn yr Alcázar of Toledo. Mae'r gwarchae bellach o bwysigrwydd symbolaidd anferthol ar y ddwy ochr.
Mae'r Junta Cenedlaetholgar yn dileu'r diwygiad amaethyddol, cydweithredol a ddigwyddodd yn dilyn yr etholiad yn Chwefror 1936.
- Medi 26
Mae'r llywodraeth newydd Gatalanaidd (Generalitat de Catalunya) rwan yn cynnwys y grwpiau a enillodd bŵer drwy ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr. Mae'r POUM Trotscïaidd Tac Anarchwyr y CNT/FAI yn gyrru gweinidogion.
- Medi 27
Mae Toledo yn syrthio i'r Cenedlaetholwyr. Mae oddeutu cant o ddynion milisia'n ceisio gwahardd y Cenedlaetholwyr rhag symud ymlaen i'r ddinas ond fe caent eu gyd eu lladd gan lengfilwyr a hurfilwyr, y "Moros". Caiff tua 40 o Anarchwyr sydd yn rhedeg allan o arfau a ffrwydron, yn hytrach na chael, eu carcharu eu lladd wrth iddynt rhoi'r adeilad maent yn ei amddiffyn ar dân. Mae'r Cenedlaetholwyr yn lladd y doctoriaid a'r nyrsus yn yr ysbyty yn Nholedo; caiff dynion milisia clwyfedig, di-arfog eu lladd yn eu gwelyau. Daeth yn hysbys y cafodd y gwystlon a cymerwyd gan y Cenedlaetholwr Cyrnol Moscardo eu lladd ar ddechrau'r gwarchae, sydd yn egluro pam y gwrthododd Moscardo i'w gollwng yn rhydd ar Fedi'r 9fed.
Mae'r Pwyllgor Di-Ymyrraeth yn gwrthod clywed cyhuddiadau yn erbyn Portiwgal am ei chefnogaeth agored at y gwrthryfelwyr ac am y ddiffuantrwydd tuag at y blocâd.
- Medi 29
Mae'r junta Cenedlaetholgar ym Murgos yn datgan Franco yn Generalísimo. Mae sgwadron forol o Genedlaetholwyr yn torri gafael y Weriniaeth tros Gulfor Gibraltar ym mrwydyr Cape Espartel; ac mae distrywlong Gweriniaethol yn cael ei suddo ac un arall yn cael ei difrodi. Mae Comintern yn cymeradwyo creu y Brigadau Rhyngwladol.
Hydref
[golygu | golygu cod]- Hydref 1
Mae Franco yn datgan ei hun yn bennaeth y wladwriaeth ac yn Generalísimo.
Mae llywodraeth y Weriniaeth yn ildio hunan lywodraeth i Wlad y Basg (yn weithredol, Biscay a Gipuzkoa) fel Euzkadi, gydag José Antonio Aguirre yn arlywydd.
- Hydref 3
Er mwyn cyfreithloni'r gwrthryfel o fewn a thu allan i Sbaen, mae Franco'n sefydlu llywodraeth sifil i'r 'Parth Cenedlaethol". Does i'r Junta Sifil yma fwy neu lai ddim hawl ar unryw fater, oherwydd ar ddechrau eu gwrthryfel, datgannodd y cadfridogau gwrthryfelgar Stâd o Ryfel tros yr holl o Sbaen.
- Hydref 6
Datganir yr Undeb Sofietaidd na fyddai'n fwy rhwym i Ddi-Ymyrraeth nag y mae Portugal, yr Eidal, na'r Almaen. Nawr gall Sbaen, dair mis i fewn i'r gwrthryfel ddechrau prynu arfau ag offer rhyfel. Yn wahanol i'r "Parth Cenedlaethol" sydd â chyflenwad tros y ffin ym Mhortiwgal, mae'r Weriniaeth yn dioddef diolch ffin argaëdig â Ffrainc a'r blocâd "Di-Ymyrraethol" ar y môr.
- Hydref 7
Mae'r Brigadau Rhyngwladol/International Brigades yn cael eu creu'n Albacete. Mae'r penaeth Gomiwnyddol Eidalaidd Palmiro Togliatti a'r Comiwnydd Ffrengig André Marty yn benaeithiaid trefniadol effeithiol.
- Hydref 9
Sefydlaid y "Fyddin Boblogaidd" yn y Weriniaeth Sbaenaidd.Y cynllun yw i greu rhan deyrngarol o'r gyn-fyddin, ynghŷd â'r milisiaid, dan orchymyn ganolig corfflu swyddogion modern ac effeithiol.
Hydref 12 Yn ystod dathlaid ym Mhrifysgol Salamanca/ University of Salamanca (Parth Genedalethol), gyda gwestai'n cynnwys gwraig Franco, mae'r athronydd byd-enwog a chadeirydd y brifysgol Miguel de Unamuno, yn siarad yn erbyn Cadfridog Millán Astray, prif gadlywydd y Lleng Sbaeneg.Tan nawr, bu yn gefnogwr o'r gwrthryfel Genedlatholgar, dywed fod gwrando ar araith swyddogol Millán Astray, y mae wedi dod i sylweddoli natur annynol ac annheilwng y gwrthryfel. Yn hwyrach fe gaiff Unamuno ei ddisodli fel rheithor yn y brifysgol ac ei gadw'n gaeth i'w gartref. Mi fydd i farw o ofid yn Rhagfyr.
- Hydref 14
Mae milwyr Cenedlaetholgar o'r Ynysoedd Dedwydd yn glanio yn Bata ac yn cymeryd rheolaeth ar ran cyfandirol Guinea Sbaen/ Spanish Guinea.
- Hydref 24
- Llonglwyth cyntaf o Gronfa Aur Sbaenaidd i'r Undeb Sofietaidd. Erbyn y diwedd fydd i Sbaen alltudio tros hanner ei chronfa aur i'r Undeb Sofietaidd; am $35 yr owns roedd y llonglwyth gyntaf yn werth UDA$578,000,000.
- Hydref 24
Mae'r tanciau Rwsiaidd cyntaf yn cyrraedd Madrid. Mae'rtanciau arfog trwm T-26, sydd yn pwyso mwy na 10 tunnel yr un yn gyro o'r brif orsaf drenau yn syth i'r frwydr. Mae amddiffynwyr Madrid sydd tan nawr wedi defnyddio coctels MolotovMolotov cocktails (poteli gwydr wedi eu llenwi â phetrol a defnydd llosgiedig) yn erbyn tanciau Almaenig ac Eidalaidd ar ochr y Cnedlaetholwyr, yn cael eu galluogi i arafu'r Cenedlaetholwyr.
- Hydref 27
Lladdwyd 16 o bobl ac anafwyd 60 ym Madrid gan ymosodiad awyr gan y Cenedaletholwyr. Mae chwech bom yn ffrwydro ym Plaza de Colón, yng nghanol y ddinas. Mae un yn syrthio ar linnell o ferched yn disgwyl am lefrith yw plant. Hwn yw'r bomio cyntaf mewn hanes fodern heb bwrpas filitaraidd, heblaw i leadenu ofn ymysg y boblogaeth sifil. Gwnaed yr ymosodiad awyr gan beilotiaid Alameneg mewn Junkers Ju-52s. Does gan Madrid ddim amddiffynniad awyr i wahardd awyrennau'r gelyn rhag hedfan tros y ddinas.
Tachwedd-Rhagfyr
[golygu | golygu cod]- Tachwedd 1
Mae byddin y Cenedlaetholwyr yn cyrraedd Madrid. Mae byddin oddeutu 25,000 o ddynion yn cyrraedd maestrefi Madrid. Mae awyrenau Eidalaidd yn gollwng taflenni'n mynnu fod dinasyddion yn eu helpu i ennill y ddinas, "neu mi fydd awyrlu'r Genedl yn dileu Madrid oddiar wyneb y Ddaear."
- Tachwedd 2
Brawychir bombwyr y Cenedlaetholwyr gan awyrennau Rwsiad tros Madrid.Tan yn ddiweddar doedd gan awyrlu'r Rwsiaid ond llond llaw o beiriannau darfodedig, ond heddiw gall ddinasyddion Madrid weld y "Chatos" Rwsiad cyntaf yn eu hamddiffyn. Mae dinasyddion yn sefyll yn y strydoedd ac yn gwylio'r awyr, gan anwybyddu'r larwm a'r galw i'r cysgodion diogelwch. Mae nifer o'r awyrennau ymosodol yn cael eu saethu i lawr; caiff rhai awyrennau Rwsiad hefyd eu saethu i lawr gan awyrennau Fiat Eidalaidd sy'n amddiffyn y bomwyr. Mae un peilot Rwsiad yn dioddef marw hyll iawn: Ar ôl i'w beiriant gal ei ddinistrio gan Fiat Eidalaidd, mae'n achub ei hun drwy neidio allan o'i awyren tanllyd, a daw ei barasiwt ag ef yn ddiogel i'r ddinas, ond fe gaiff ei gamgymeryd gan ddinasyddion cynddeiriog am Ffasgwr Almaeneg o Leng y Condor.
- Tachwedd 4
Daw pedwar gweinidog Anarchaidd i ymuno â'r llywodraeth Weriniaethol: Federica Montseny - portffolio tros addysg, Juan Garcia Oliver - cyfraith, Juan López Sánchez, a Joan Peiró. Wrth wneud hyn mae Largo Caballero yn bwriadu dod ac aelodau o beth yw o bell ffordd, mudiad mwyaf Sbaen i'r llywodraeth.
Mae'r Cenedlaetholwyr yn ennill maestref Gefete, Madrid. Yn dilyn ymsodiad trwm gan galfari Mwraidd, tanciau, ac awyrennau, mae'r amddiffynwyr wedi eu gorchfygu'n llwyr. Mae'r clwyfedig yn cerdded yn ddryslyd tros faes y gad, mae trefn yr amddiffyn yma'n torri lawr yn llwyr. Dywed Cadfridog Ffasgaidd Varela mewn dataganiad i newyddiadurwyr rhyngwladol mewn cynhadledd i'r wasg: "Medrwch ddweud wrth y byd, mi fydd Madrid yn syrthio ymhen wythnos." Cynllunia Cadfridog Mola ei ffordd ymosodol: tros y Casa de Campo ac, i bob diben, di-boblgedig Dinas y Brifddinasand (Ciudad Universitaria), i osgoi colledion trymion mewn ymladd stryd fel y tybia os fu i ddechrau'r ymosodiad drwy faestrefi'r de, yn draddiodiadol ardaloedd cryf, dosbarth gweithio. Mae'r niferoedd o glwyfedig ymysg y Cenedlaetholwyr yn tyfu ond yn ddioddefol:115 o ddynion heddiw.
- Tachwedd 5
Am y tro cyntaf, mae'r Awyrlu Weriniaethol yn gorfodi bomwyr ac eu gosgorddlu i dorri fyny'r ymosodiad ar Fadrid cyn iddynt hyd yn oed gyrraedd y ddinas.
- Tachwedd 6
Yn dilyn brwydro trwm sy'n achosi 426 o gleifion i'w luoedd, mae Yague yn meddiannu maestref Carabanchel a bryn strategol-bwysig Cerro de los Angeles. Gyda hynny, mae'r Cenedlaetholwyr yn sefyll wrth ddrws Madrid, gyda'i hamddiffyniad yn cael ei drefnu gan y Junta de Defensa de Madrid sydd newydd gael ei greu ac sydd dan gyfeiriad Cadfridog Jose Miaja.
Symudai'r llywodraeth Weriniaethol i Valencia.
- Tachwedd 7
Yr ymosodiad ar Fadrid. Mae'r Cenedlaetholwyr yn ennill pontydd pwysig ar eu ffordd i mewn i ganol y ddinas. Mae milwyr Cadfridog Varela'n cyrraedd Casa de Campo a Ciudad Universitaria mewn brwydr ffyrnig dyn-i-ddyn a thŷ-i-thŷ. Mae'r ddwy ochr yn dioddef yn enfawr. Mae Yague yn colli 313 o ddynion heddiw, y rhan fwyaf yn llengfilwyr a Mwrwyr; mae o'n poeni'n arw am y cynifer o'i gleifion o'i gyn-filwyr Affricanaidd. Datganai Franco y bydd yn gwrando'r diwrnod nesaf ar fesurau sanctaidd o gadeirlan Madrid.
- Tachwedd 8–9
Ymosodiad nerthol ar Fadrid. Cyrrhaeddir y Frigadau Rhyngwladol. Mae'r amddiffynwyr yn rhedeg alan o arfau; ar armyw o fannau ar hyd llinell maes y gad mae'r ffrynt yn agos i dorri; yn y Ciudad Univesitaria mae'r gelyn yn gwthio drwy linnellau'r Gweriniaethwyr. Hon yw'r foment pan mae'r "Rhyngwladwyr" yn cyrraedd Madrid. Ar y dechrau mae'r dinasyddion yn meddwl fod y Cenedlatholwyr wedi cyrraedd canol y ddinas pan welent 3,000 o filwyr disgybliedig mewn gwisg filwrol yn gorymdeithio fewn. Mae'r aelodau, gan fwyaf yn gyn-filwyr Almaenig, Pwyleg ac Eidaleg a chyn-garcharorion o wersyll-garchardai o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn dechrau canu caneuon chwyldroadol â'r "Internationale". Rhuthrai'r dinasyddion allan o'u tai a chaneuant mewn llawennydd. Gorymdeithiai'r "Brigadistas" allan ar flaen yr orymdaith, a thaflent eu hunain yn ddiysgog i'r frwydr. Mae 2,000 ohonynt yn mars neu'n cael eu clwyfo o fewn 48 awr. Yn y Weinidogaeth Rhyfel, mae telegramau'n cyrraedd yn llongyfarch cadfridog Franco ar ei lwyddiant ysgubol ar gyrraedd Madrid, ond dim ond swyddogion Gweriniaethol sydd yno yw darllen. Pan mae hurfilwyr Farnco'n torri drwy llinell y Gweriniaethwyr yng nghyfeiriad Carchar Model, mae Cadfridog Miaja ei hun yn gyrru i'r ardal sydd dan fygythiad, a chan gymeryd ei lawddryll mewn un llaw ac yn gweiddi tuag at y milwyr ar drai: "Cachgwn! Marwch yn eich ffosydd. Marwch gyda'ch Cadfridog!" Mae hyn yn annog ei filwyr, ac mae'r bwlch yn cau. Ar draws y ddinas, mae dinasyddion, merched a dynion yn atgyfnerthu eu ffosydd, gan gymeryd drylliau gan filwyr clôff neu farw. Collai'r Ejército de Africa Cendlaetholgar 282 o gyn-filwyr eto yn y deuddydd hyn. Mae 1,000 o garcharwyr, - rhan helaeth yn garcharorion gwleidyddol yn cael eu lladd gan eu warchodwyr Milisiaidd Gweriniaethol heddiw'n Paracuellos del Jarama. Roedd y carcharorion, y rhan fwyaf ohonynt yn Genedlaetholwyr, yw cael eu trosglwyddo i Valencia o Fadrid i wahardd eu rhyddhad gan filwyr y Cenedlaetholwyr. Mae eu gwarchodwyr yn penderfynu ymuno a'r amddiffinniad o Fadrid, lladd y carcharorion a dychwelyd i Fadrid.
- Tachwedd 10
Llinell y gad yn cael ei sefydlu ym Madrid, y Ciudad Universitaria nol dan reolaeth y Gweriniaethwyr. Nifer y cleifion Cenedaletholgar yn 155. Mae'r Anarchydd enwog Buenaventura Durruti yn cyrraedd heddiw gyda "Cholofn Durruti" sydd yn cynnwys 3,000 o ddynion.Gadawsant Ffrynt Saragossa i helpu amddiffyn Madrid.
- Tachwedd 18
Adnabyddir llywodraeth Franco gan yr Eidal â'r Almaen. Mae pawb yn disgwyl i Fadrid ildio o fewn oriau. Mae Franco'n taflu popeth sydd ganddo i'r frwydr, mae awyrennau Alamenaidd yn brwydro tros Madrid, ac mae'r ddwy wlad yn disgwyl i'r cam ddiplomatig yma i atgyfnerthu sefylliad Franco a gwanháu sefyllaid ac ysbryd y Weriniaeth. Mae Colofn Durruti wedi bod yn ymladd yn y Ciudad Universitria ers y 15ed, gyda dim and 400 o'r 3,000 yn goresi, a'r rheiny'n hollol flinedig. Byrd Durruti'n dechrau ymosodiad ar ysbyty'r Brifysgol yfory. Rhwng yr 11ed â'r 18fed, mae'r ymosodwyr Cenedlaetholgar wedi dioddef 1,290 clâf; maent wedi gorfodi hollt o fewn y Ciudad Universitaria ond maent wedi methu ei orchfygu nac i fynd ymhellach i fewn i'r brif ddinas.
- Tachwedd 19
Mae'r arweinydd Anarchaidd Buenaventura Durruti wedi ei anafu'n ddrwg yn ystod yr ymladd ym Madrid. Cychwynnai Colofn Durruti ei ymosodiaid ar ysbyty'r Brifysgol, sydd yn nwylo'r Cenedlaetholwyr. Am tua 2y.p. mae Durruti'n cael ei darro gan fwled sydd yn pasio trwy ei frest a'i ysgyfaint. Mae amheuaeth ei fod wedi cael ei saethu o'r cefn gan un o'i ddynion ei hun, un a'i mewn damwain neu o fwriad mewn ymdrech i osgoi ymosodiad hunan-laddiadol. Mae beth ddigwyddodd o ddifrif yn aros yn ddadleuol. Mae 262 o gleifion Cenedlaetholgar heddiw gyda dim tiriogaeth wedi ei ennill; mae'r ymosod wedi pallu ac wedi troi i beth oedd Mola ac Yague'n ofni fwyaf, brwydro agos mewn amgylchedd trefol.
- Tachwedd 20
- Buenaventura Durruti yn marw am 6 y.b. Mae'r Cenedaletholwyr yn dioddef 294 rhagor o gleifion tra'n ceisio gyrru'n ôl gwrth-ymosodiad gwyllt gan Carabanchel a Vertice Basurero. José Antonio Primo de Rivera, mab yr unben Miguel Primo de Rivera a sefydlwr y Ffalanchwyr, yn sefyll barn gan lys sifil ac yn cael ei ddienyddio'n Alicante, lle yr oedd wedi bod yn garcharor ers cychwyn y gwrthryfel. Gwnaed y dienyddiad yma gan y llywodraethwr sifil Comiwnyddol newydd Alicante heb ddisgwyl am ddedfryd cadarnhaol gan y llywodraeth.Fe cynddeirwyd y tor cyfraith a'r anufudd-dod hyn Largo Caballero, ond mae'r Weriniaeth yn barod yn ddibynnol ar gyflenwadau Sofietaidd a'r Blaid Gomiwnyddol Sbaeneg. Mae'r Blaid hon yn dechrau ymddwyn fel gwladwriaieth o fewn gwladwriaieth.
- Tachwedd 23
Darfodir Brwydr Madrid: gyda'r naill ochr wedi ymlâdd, mae blaen y gad yn sadio. Ar ôl pythefnos mae Franco yn rhoi i fynny ei gynllun i gymeryd y ddinas. Mae o nawr yn paratoi ei hun â'i gynghreirwyr am frwydr hir a drud.
- Rhagfyr 11
Heddiw, mae cwyn gan Julio Álvarez del Vayo ger bron Cyngrhair y Cenhedloedd yng Ngeneva am gefnogaeth Portiwgal, yr Eidal a'r Almaen tuag at y y gwrthryfelwyr ac ynysiad gwleidyddol ag economig y Weriniaeth Sbaenaidd gan Wledydd Democrataidd y Pwyllgor Di-Ymyrraeth.
- Rhagfyr 17
Cyfasoddwyd llwyodraeth newydd yn Aragon. Mae gan y Consejo de Aragon fwyafrif clir o Anarchwyr. Mae'r blaen y gad yn Aragon fwy neu lai'n filisia Anarchaidd a Sosialaidd. Mae chai ardaloedd a phentrefi'n Aragon yn dechrau'r 'chwyldro'n syth bin, golygai hyn ail-drefnu bywyd cyhoeddus dan ddelfrydau Anarchaidd, sefydlaid cymundodau a ffactorïau a ffarmiau hunan-gyfundrefol. Mae chai o'r pentrefi'n cyfnewid arian gyda cwponau a gaiff eu didoli allan gan awdurdodoau lleol. Yn Aragon, medr y byd weld yr ad-drefniad mwyaf radicalaidd ym mywyd cyhoeddus a gwir chwydlro'r bobl.
- Rhagfyr 22
Mae milloedd o wirfoddolwyr Cenedlaetholgar Eidalaidd yn glanio'n Cádiz, y porthladd Cenedlaetholgar.
- Rhagfyr 24
Miloedd yn gorfod treulio'r Nadolig yn y ffosydd ar flaen y gad. Mae llawer o ffoaduriaid yn ddigartref ac yn aros mewn gorsafoedd trennau tanddaearol a meysydd ffoaduriaid.
- Rhagfyr 30
George Orwell yn ymuno gyda'r milisia Weriniaethol y POUM i ymladd yn erbyn Ffasgïaith.
- Rhagfyr 31
Miguel de Unamuno yn marw'n ei dŷ'n Salamanca. Cyn gynted a chlywsant am farwolaeth eu tad, fe fu yw ddau fab restru eu hunain yn y Milisia Gwrthffasgaidd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd 2005-03-02 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 21 Tachwedd 2016.