Salamanca
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Poblogaeth | 146,110 |
| Pennaeth llywodraeth | Carlos Manuel García Carbayo |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | John of Sahagún |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 39.56 km² |
| Uwch y môr | 798 metr |
| Gerllaw | Tormes |
| Yn ffinio gyda | Santa Marta de Tormes, Carbajosa de la Sagrada, Arapiles, Aldeatejada, Carrascal de Barregas, Doñinos de Salamanca, Villamayor, Villares de la Reina, Cabrerizos |
| Cyfesurynnau | 40.965°N 5.6642°W |
| Cod post | 37001–37009 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Salamanca |
| Pennaeth y Llywodraeth | Carlos Manuel García Carbayo |
![]() | |
Dinas yng nghymuned ymreolaethol Castilla y León yn Sbaen a phrifddinas talaith Salamanca yw Salamanca. Saif ar Afon Tormes, ac roedd y boblogaeth yn 2006 yn 190,025. Mae'n enwog fel safle un o brifygolion hynaf ac enwocaf Sbaen ac am y nifer fawr o adeiladau hanesyddol o ddiddordeb pensaernïol.
Sefydlwyd Salamaca fel Salmantica gan lwyth Celtaidd y Vaceo. Yn ddiweddarach cipiwyd y safle gan y cadfridog Carthaginaidd Hannibal, a chafodd yr enw Helmantica. Yn y cyfnod Rhufeinig daeth yn ddinas bwysig. Yn ddiweddarach daeth yn eiddo i'r Fisigothiaid ac yn 712 cipiwyd hi gan fyddin Islamaidd. Diboblogwyd hi bron yn llwyr yn y canrifoedd nesaf, a dim ond yn y 12g y bu cynnydd eto. Sefydlwyd y brifysgol yn 1218. Ymhlith y myfyrwyr yma bu Hernán Cortés, Miguel de Cervantes, Ignatius Loyola, Sant Ioan y Groes, Miguel de Unamuno, Mateo Aleman a'r Cymro Sant John Roberts. Ysgolheigion prifysgol Salamanca, yng Nghyngor Burgos yn 1512 a ddatganodd hawl trigolion brodorol cyfandir America i fywyd a rhyddid, efallai y datganiad rhyngwladol cynharaf o hawliau dynol.

Yn 1985 cyhoeddwyd hen ddinas Salamanca yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Yn 2002 roedd Salamanca yn Brifddinas Diwylliant Ewrop.
