Bioco
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Bioko)
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 334,463 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bioko Norte, Talaith Bioko Sur |
| Gwlad | Gini Gyhydeddol |
| Arwynebedd | 1,935 km² |
| Uwch y môr | 3,011 metr |
| Gerllaw | Gwlff Gini |
| Cyfesurynnau | 3.5°N 8.7°E |
| Hyd | 70 cilometr |
![]() | |

Ynys yng Ngwlff Gini oddi ar arfordir gorllewinol Affrica yw Bioco,[1] hefyd Bioko. Mae'n rhan o Gini Gyhydeddol. Yr hen enw ar yr ynys oedd Fernando Pó neu Fernando Poo, ac mae brodorion yr ynys yn ei galw yn Otcho.

Mae Bioco yn 70 km o hyd a 32 km o led, gydag arwynebedd o 2017 km². Ceir prifddinas Gini Gyhydeddol, Malabo (gynt Santa Isabel), ar yr ynys. Cyrhaeddodd y fforiwr Portiwgeaidd Fernão do Pó yma yn 1472, a rhoddodd yr enw Formosa Flora ("blodau gwych") arni, ond newidiwyd yr enw i Fernando Pó yn 1494. Trigolion brodorol yr ynys yw'r Bubi, sy'n siarad un o'r ieithoedd Bantu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)
