Rhisiart Clwch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Copi gan Moses Griffith (tua 1775) o bortread coll o Rhisiart Clwch

Marsiandwr o Sir Ddinbych oedd Syr Rhisiart Clwch, neu Syr Richard Clough yn Saesneg (tua 15301570). Roedd yn asiant i Elisabeth I, brenhines Lloegr ac yn gynrychiolydd Syr Thomas Gresham (am ychydig) yn Ewrop. Bu farw yn Hamburg yn 1570. Ei ail wraig oedd Catrin o Ferain, aeres Berain, Dyffryn Clwyd, ac o'r briodas honno roedd Hester Thrale yn disgyn.

Ymsefydlodd yn Antwerp ym 1552 fel cynrychiolydd tramor i Gresham. Awgrymodd i Gresham sefydlu cyfnewidfa farsiandïol yn Llundain ar batrwm y Bourse yn Antwerp. Tua 1563–4 fe geisiodd trwy William Cecil, Arglwydd Burghley les ar diroedd y Goron yn siroedd Caernarfon, Fflint, Nottingham, a Buckingham, a chaniatâwyd ei gais.[1] Dychwelodd i Gymru ym mis Ebrill 1567. Yn sgil ei lwyddiant ariannol, daeth ei enw yn gyfystyr â "dyn cefnog" ar lafar gwlad Dyffryn Clwyd. Trodd yn ymadrodd "fe aeth yn glwch", hynny yw "fe aeth yn gyfoethog mewn byr amser" ac ymhlyg ynddo yr awgrym bod peth ansicrwydd neu gyfrinach ynghylch hanes y cyfoeth newydd.[2][3]

Priododd Rhisiart Clwch ferch yn Antwerp o'r enw Catherine Muldert, a chafodd fab. Priododd Catrin o Ferain ym 1567, yn ail ŵr iddi hi. O'r briodas honno bu dwy ferch.[1] Yn ôl y stori boblogaidd, ond anwir, yn angladd ei gŵr cyntaf aeth Catrin i mewn i'r eglwys ym mraich Syr Rhisiart, ac yn dod allan wedi'r gwasanaeth ym mraich yr uchelwr Morris Wynn o Wydir. Sibrydodd yn ei chlust gan ofyn a fyddai'n ystyried briodi ef, ac hithau'n ateb ei bod wedi addo priodi Rhisiart Clwch ar y ffordd i mewn i'r eglwys.[3]

Adeiladodd Clwch blasdy Bachegraig, Tremeirchion, Sir y Fflint (yn Sir Ddinbych heddiw) yn 1567, ar gyfer ei waith a Phlas Clough yn brif gartref i'r teulu. Roedd Bachegraig yn adeilad arloesol yng Nghymru a'i arddull yn seiliedig ar bensaernïaeth newydd cyfnod y Dadeni ar gyfandir Ewrop. Cysylltir traddodiadau llên gwerin â Bachellgraig a'i berchennog. Cafodd y tŷ ei godi yn hynod o gyflym a sibrydid mai gwaith y Diafol ydoedd. Roedd cyflenwad newydd o ddeunydd adeiladu i'w cael bob bore mewn nant a elwir o hyd yn Nant y Cythraul. Roedd rhai yn credu fod Clwch yn astudio'r sêr mewn stafell ym mhen y tŷ gyda chymorth y Diafol ei hun. Torrodd ei wraig Catrin i mewn i'r stafell un noson, yn ôl y chwedl, a dihangodd y Diafol trwy'r mur yn dal Clwch yn ei freichiau.[4]

Ceir peth o hanes Rhisiart Clwch a'i ail wraig yn y nofel hanesyddol Dinas Ddihenydd, yr ail o'r triawd am Gatrin o Ferain gan R. Cyril Hughes.

Bachegraig 
Y Myddelton Arms, Rhuthun, a godwyd mewn arddull Iseldireg 
Beddrod Richard Clwch a'i ddisgynyddion yn Ninbych 

Cartrefi a fu yn nheulu'r Clychiaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  2.  clwch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  3. 3.0 3.1 Tegwyn Jones. Ambell Air ac Ati (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2013), t. 28.
  4. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. Bachegraig.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]