Y Diafol yng Nghymru
Mae gan y Diafol Cristnogol, a elwir hefyd yn Andras neu Y Fall yng Nghymru, le pwysig o fewn llên gwerin Cymru. Hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg credai nifer o'r bobl wledig i'r Diafol fyw ym mynyddoedd Canolbarth Cymru, a'i fod yn gallu cymryd amryw o ffurfiau.[2]
Golwg a phresenoldeb
[golygu | golygu cod]Dywed bod y Diafol yn ddu neu'n dywyll iawn ac yn cymryd ffurf dyn gyda chyrn a charnau hollt neu anifail du, megis gafr, cigfran, ci, ceiliog, ceffyl, mochyn, neu ddafad. Dywed weithiau ei fod yn gallu cymryd unrhyw ffurf, ar wahân i ddafad wen. Weithiau, ymddangosodd fel pysgodyn, pêl o dân, neu garreg fawr yn rholio i lawr bryn, neu hyd yn oed fel rhywbeth dychrynllyd ond di-lun. Dywed hefyd i'r Diafol gymryd ffurf gof wrth ei waith, wrth yr eingion neu'n gofalu am dân, ac yn gwneud pedolau, bolltau, a sychau erydr.[2]
Dywedir iddo ymweld yn aml â ffyrnau'r gof, gweundiroedd, corsydd, llethrau anghyfannedd mynyddoedd, croesffyrdd, bylchau cul, a dyfnentydd.[3]
Ofergoelion
[golygu | golygu cod]Ceir llawer o ofergoelion am y Diafol yng Nghymru: gwas y neidr yw ei negesydd, y lindysyn yw ei gath, y gellysgen yw ei bwysi, barf yr hen ŵr yw ei edau, y cnwpfwsogl yw ei grafanc, y fflamgoed yw ei laeth, y palmatum yw ei law, y Scabiosa Succisa yw ei fustl, a'r tegeirian gwyllt yw ei fasged. Os yw'n bwrw glaw tra bo'r haul yn tywynnu, dywed bod y Diafol yn curo'i wraig. Os oes tarannau tra bo'r lleuad yn tywynnu, dywed bod y Diafol yn curo'i fam.[2]
I atal y Diafol rhag dod i mewn i'w cartrefi, arferai pobl wyngalchu stepiau eu drysau. Ar un adeg, bu'r gynulleidfa yn poeri pan dywedwyd enw'r Diafol yn yr eglwys.[2] Gwrthoda pobl i gladdu'r meirw ar ochr ogleddol y fynwent, gan gredu yr oedd y Diafol yn hawlio'r holl tir ar ochr ogleddol adeiladau. Dywed bydd adeiladau yn syrthio tua'r gogledd ar Ddydd y Farn, a bydd y Diafol yna'n eu cymryd.[3]
Credir taw dulliau'r Diafol o feddu eneidiau oedd hunllefau a deliriwm.[3]
Straeon
[golygu | golygu cod]Yn aml mewn straeon am y Diafol, caiff ei dwyllo neu ei frifo gan bobl. Yn ôl un stori o'r Canolbarth, cafodd y Diafol ei gau mewn tŵr, gyda chaniatâd i adael o ben y tŵr ond dim ond os oedd yn esgyn un gris y diwrnod. Roedd 365 o risiau ac felly cymerodd holl flwyddyn iddo ddianc. Yn Sir Forgannwg, dywed i Sant Quinton gloffio'r Diafol ar fryn ger Llanfleiddan a'i roi mewn poen am dri niwrnod. Hyd heddiw gelwir dau farc ar lethrau'r bryn yn Badell Pen-glin Dde'r Diafol a Troed Chwith y Diafol.[3]
Yn ôl stori o Geredigion, dieithryn golygus oedd y Diafol a ymwelodd â thafarn gan gynnig gêm o gardiau. Wedi i rywun ddweud enw Iesu Grist, diflannodd lan y simne megis pelen dân.[3]
Prentisiaid
[golygu | golygu cod]Dywed i'r Diafol gadw ei brentisiaid, yn aml pump, saith, neu naw ohonynt, mewn ardaloedd amddifad ar draws Cymru. Yn ôl amodau eu cyflogaeth, bu'r olaf ohonynt i orffen ddysgu ei grefft yn cael ei ddal gan y Diafol cyn iddo allu dianc. Un tro roedd tri phrentis ar fin gadael, pan dywedodd y Diafol i un ohonynt aros. Pwyntiodd y prentis at ei gysgod gan ddatgan, "Dyna'r un olaf!" Roedd rhaid i'r Diafol dderbyn hyn a bu'r prentis heb gysgod am weddill ei fywyd.[3]
Gofaint
[golygu | golygu cod]Honodd gof o'r Gogledd iddo ddenu'r Diafol i'w ffwrn a morthwylio'i droed dde ar yr eingion a'i gloffio am byth. Ym Mhowys a Sir Forgannwg ceir straeon tebyg am ofaint yn taflu magl haearn am ben y Diafol, ei dynnu i'r eingion, a'i gloffio.[3]
Lleoedd â chysylltiad â'r Diafol
[golygu | golygu cod]Dywed bod gan Eglwys Llangyfelach dŵr ar wahân wedi i'r Diafol geisio'i ddwyn, gan ei fod yn genfigennus o Sant Cyfelach. Gorfododd Cyfelach y Diafol i ollwng y tŵr cyn iddo ddianc.[4]
Pont ap Hywel oedd enw gwreiddiol Pont-y-pŵl. Dywed i Dafydd ap Hywel gwrdd âr Diafol ger yr afon a thynnwyd rhaf ar draws y dŵr i bennu pwy fyddai'n gorfod codi pont drosti. Enillodd Dafydd yr ornest a bu'n rhaid i'r Diafol adeiladu pont garreg.[4]
Yn ôl chwedl am Bontarfynach, adeiladwyd y bont wreiddiol gan y Diafol ar yr amod bydd yn derbyn enaid y creadur cyntaf i groesi'r bont, a hynny oedd ci yn siaso torth grwn o fara.[5]
Saif Coeten y Diafol, carreg 7 troedfedd o uchder a 5 troedfedd o led, yng nghanol cae i orllewin Eglwys Llanfihangel Rogiet, Sir Fynwy. Yn ôl chwedl cafodd ei thaflu o Portishead, Gwlad yr Haf, neu le arall ar ochr draw Môr Hafren gan y Diafol mewn dig.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- Barber, C. Mysterious Wales (Newton Abbot, David & Charles, 1982).