William Cecil, barwn Burghley

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth William Cecil, Arglwydd Burghley)
Jump to navigation Jump to search
Y Gwir Anrhydeddus

Yr Arglwydd Burghley
KG PC
William Cecil, 1st Baron Burghley from NPG (2).jpg
Arglwydd Uwch-Ganghellor
Yn ei swydd
Gorffennaf 1572 – 4 Awst 1598
Teyrn Elisabeth I
Rhagflaenwyd gan William Paulet, 1st ardalydd Winchester
Dilynwyd gan Thomas Sackville, iarll 1af Dorset
Lord Privy Seal
Yn ei swydd
1590–1598
Teyrn Elisabeth I
Rhagflaenwyd gan Sir Francis Walsingham
Dilynwyd gan Robert Cecil, iarll 1af Salisbury
Yn ei swydd
1571–1572
Teyrn Elisabeth I
Rhagflaenwyd gan Syr Nicholas Bacon
Dilynwyd gan Arglwydd Howard o Effingham
Ysgrifennydd Gwladol
Yn ei swydd
22 Tachwedd 1558 – 13 Gorffennaf 1572
Teyrn Elisabeth I
Rhagflaenwyd gan John Boxall
Dilynwyd gan Thomas Smith
Yn ei swydd
5 Medi 1550 – 19 Gorff. 1553
Teyrn Edward VI
Jane
Rhagflaenwyd gan Nicholas Wotton
Dilynwyd gan John Cheke
Personal details
Ganwyd William Cecil
13 Medi 1520
Bourne, Swydd Lincoln
Lloegr
Bu farw 4 Awst 1598(1598-08-04) (77 oed)
"Cecil House"
Westminster, Llundain
Man gorffwys Eglwys St Martin, Stamford
Stamford, Swydd Lincoln, Swydd Lincoln
52°38′56″N 0°28′39″W / 52.6490°N 0.4774°W / 52.6490; -0.4774 (St Martin's Church, Stamford)
Priod Mary Cheke (m. 1543)
Mildred Cooke
Plant Thomas
Francisca
Anne
William (b-d.1559)
William (g-m.1561)
Robert
Elizabeth
Rhieni Richard Cecil
Jane Heckington
Cartref "Burghley House"
"Cecil House"
"Theobalds House"

Uchelwr Saesnig oedd William Cecil, barwn 1af Burghley KG PC (13 Medi 15204 Awst 1598), a phrif gynghorydd Elisabeth I, brenhines Lloegr, am y rhan fwyaf o'i theyrnasiad. Bu'n Ysgrifennydd Gwladol Lloegr ddwywaith: 1550–53 a 1558–72 ac yn Arglwydd Uwch-Ganghellor o 1572 ymlaen. Derbyniodd nifer o'r deitlau a'r swyddi hyn gan Harri VIII. Yn ôl yr hanesydd Saesnig Albert Pollard: "O 1558 ymlaen am ddeugain mlynedd, mae bywgarffiad Cecil yn debyg iawn i fywgraffiad y Frenhines Elizabeth, ac felly hanes Lloegr".

Ceir digon o brofion o ddiddordeb parhaol yr arglwydd Burghley yn ei gysylltiadau Cymreig. Er enghraifft, bu'n ddiwyd gyda'r gwaith o sefydlu ei ach Gymreig; trefnodd i'w gâr Thomas Parry, gŵr o Frycheiniog, gael bod yn un o swyddogion tŷ'r dywysoges Elisabeth yn 1560 — daeth Parry yn brif swyddog (‘Comptroller’) y dywysoges; rhoes arian i helpu'r ymchwil am gopr yn ynys Môn; cofir hefyd am ei gysylltiad â Morys Clynnog a ysgrifennodd lythyr Cymraeg ato o Rufain (Mai 1567) yn ei hysbysu fod y frenhines Elisabeth ar fin cael ei hesgymuno o'r eglwys.

Cafodd ddau fab: Thomas a Robert, ac er mai Thomas oedd yr hynaf, nid oedd ganddo ddigon o grebwyll gwleidyddol (yn ôl William) "i reoli cwrt tenis heb sôn am wlad!" Rhoddwyd cartre'r teulu i Thomas, a phwer gwleidyddol i'r mab ieuengaf - Robert. Bu farw ar 4 Awst 1598, a'i gladdu yn Eglwys St Martin, Stamford.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]