Robert Cecil, iarll 1af Salisbury
| Robert Cecil, iarll 1af Salisbury | |
|---|---|
| Ganwyd | 1 Mehefin 1563 Westminster |
| Bu farw | 24 Mai 1612 o canser Marlborough |
| Man preswyl | Hatfield House |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Lord High Treasurer, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1586-87 Parliament, Member of the 1589 Parliament, Aelod o Senedd 1593, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601, Argwydd Raglaw Dorset, Lord Lieutenant of Hertfordshire |
| Tad | William Cecil |
| Mam | Mildred Cooke |
| Priod | Elizabeth Brooke, Elisabeth Parr |
| Plant | William Cecil, Catherine Cecil, Frances Cecil |
| Llinach | ceciliaid Allt-yr-ynys |
| Gwobr/au | Urdd y Gardas |
| Y Gwir Anrhydeddus Iarll Salisbury KG PC | |
|---|---|
Iarll Salisbury gan John de Critz yr Hynaf ca. 1602 | |
| Arglwydd Uwch-Drysorydd | |
| Yn ei swydd 4 Mai 1608 – 24 Mai 1612 | |
| Teyrn | Iago I |
| Rhagflaenwyd gan | Iarll Dorset |
| Dilynwyd gan | Comisiynydd y Trysorlys Henry Howard, iarll 1af Northampton, Arglwydd Cynta'r Drysorlys |
| Lord Privy Seal | |
| Yn ei swydd 1598–1612 | |
| Teyrn | Elizabeth I Iago I |
| Rhagflaenwyd gan | Yr Arglwydd Burghley |
| Dilynwyd gan | Henry Howard, iarll 1af Northampton |
| Canghellor dugiaeth Lancaster | |
| Yn ei swydd 8 Hydref 1597 – 1599 | |
| Teyrn | Elizabeth I |
| Ysgrifennydd Gwladol | |
| Yn ei swydd 5 Gorff. 1596 – 24 Mai 1612 | |
| Teyrn | Elizabeth I Iago I |
| Rhagflaenwyd gan | William Davison |
| Dilynwyd gan | John Herbert |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | Robert Cecil 1 Mehefin 1563 Llundain |
| Bu farw | 24 Mai 1612 (48 oed) Marlborough, Wiltshire Lloegr |
| Priod | Elizabeth Brooke |
| Perthnasau | Arlwydd Burghley (Tad) |
| Cartref | "Hatfield House" |
| Alma mater | Coleg Sant Ioan, Caergrawnt |
Roedd Robert Cecil, iarll 1af Salisbury (1 Mehefin 1563? – 24 Mai 1612) yn weinyddwr ac yn wleidydd o Loegr ac yn ail fab i William Cecil, barwn Burghley a'i wraig Mildred Cooke, ac roedd o linach Cymreig. Ei frawd hynaf Thomas Cecil, iarll 1af Exeter, a etifeddodd cartre'r teulu, ond gan Robert oedd y gallu a'r crebwyll gwleidyddol. Roedd yr athronydd Francis Bacon yn gefnder cyntaf iddo.
Gŵr bychan ydoedd o ran corff, ac roedd yn gefngrwm. Derbyniodd wawd drwy ei oes a galwai Elisabeth I, brenhines Lloegr ef yn "my pygmy" a "my little beagle" oedd llysenw Iago, brenin Lloegr a'r Alban arno. Er ei anabledd, ef, y brawd ieuanc, a etifeddodd allu gwleidyddol ei dad. Nododd y tad ar un adeg, y gallai Robert reoli'r wlad, ond na allai Thomas "hyd yn oed rheoli gêm o denis.
Mynychodd Goleg Sant Ioan, Caergrawnt yn yr 1580au, ond ni wnaeth ei radd.[1][2] Eisteddodd yn Nhŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig) am y tro cyntaf yn 1584, gan gynrychioli'r etholaeth lle'i ganed: Bwrdeisdref Westminster.
Yn wahanol i'w frawd Thomas a ymfalchiai yn ei dras Gymreig, pan geisiodd Cymro a ysgrifennodd ato brofi bod ach y Ceciliaid i'w olrhain trwy deulu'r Fychaniaid hyd at [Tywysog Cymru|Dywysogion Cymru, mynegodd ef yn bur drahaus nad oedd ganddo ddiddordeb yn y teganau gweigion hyn (in these vain toys) ac na fynnai glywed y fath ffwlbri (such absurdities).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cecil, Robert (CCL581R)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
- ↑ "Britannica.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-10. Cyrchwyd 2016-08-26.