Ceciliaid Allt-yr-ynys

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Enw bedydd Cymraeg ac a Seisnigiwyd a'i droi'n gyfenw yw Cecil, a gysylltir gydag enw teulu o wleidyddion Oes y Tuduriaid. Cysylltir yr enw gyda chartrefi Alltyrynys, Swydd Henffordd, Burghley, Swydd Northampton a Hatfield, Swydd Hertford ac mae'n yn deillio'n wreiddiol o gysylltiadau Cymreig.

Y ffurf cynharaf a geir o'r enw yw 'Sitsyllt', sy'n dod o'r enw Cymraeg 'Seisyll': Seisyll ap Ednywain (g.940), sef tad Llywelyn ap Seisyll (g.980) a deyrnasodd dros rannau helaeth o Gymru cyn trosglwyddo'r awenau i'w fab Gruffydd ap Llywelyn yn 1023. Collodd hwnnw ei ben yn 1063 wrth ymladd y Saeson.

Yn ystod 15c ac 16c, gwelir fod ffurf yr enw yn araf ddatblygu i fod yn 'Sissild', 'Cyssel', 'Cecild' a 'Cecil'. Drwy briodas ag aelod o deulu Cymreig y cafodd Robert Sitsyllt hen gartref y teulu, sef Alltyrynys (yn Swydd Henffordd heddiw), ac roedd ystadau'r teulu'n ymestyn i Sir Fynwy. O hyn ymlaen ceir hanes y Sitsylltiaid yn priodi ag aelodau teuluoedd Normanaidd ac yn aml yn ymladd yn erbyn y Cymry. Tua diwedd 15c, fodd bynnag, priododd Richard Cecil y cyntaf i ddefnyddio'r ffurf hwn ar y cyfenw, aelod o deulu Cymreig y Fychaniaid (Vaughan yn ddiweddarach) Tyleglas, Brycheiniog.

Rhai aelodau nodedig o deulu'r Cesiliaid[golygu | golygu cod y dudalen]

David Cecil AS[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: David Cecil (AS)

David Cecil (c. 1460 – Medi 1540) oedd 3ydd mab Richard Cecil ap Philip Seisyll o Allt-yr-Ynys. Mae'n bur debyg iddo farw ym Medi 1540 a'i gladdu yn Eglwys St George, Stamford. Priododd ddwywaith: i Alice, merch John Dicons o Stamford, Swydd Lincoln, (dau fab) ac yn ail gyda Jane, merch Thomas Roos o Dowsby, Swydd Lincoln (gweddw Edward Villers o Flore, Swydd Northampton, a chawsant un ferch. Bu'n Aelod Seneddol yn 1504, 1510, 1512, 1515 ac ym 1523.

Symudodd David Cecil (bu f. 1541 ), un o feibion Richard Cecil, gyda rhai o'i garennydd yn Swydd Frycheiniog i Swydd Northampton. Yno bu'n gwasnaethu'r brenin Harri VII, a daeth yn un o weision siamber y brenin (yeoman of the chamber). Cafodd stiwardiaeth amryw o faenorau'r goron, a bu'n siryf Swydd Northampton yn 1529-1530.

Richard Cecil (m. 1552)[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Richard Cecil (m. 1552)

Priododd Jane Heckington, merch ag aer William Heckington o Bourne, Swydd Lincoln a chawsant un mab: William Cecil, barwn Burghley.

Bu Richard yn facwy (page) yn y Field of the Cloth of Gold enwog yn 1520, ac ychwanegodd at gyfoeth y teulu trwy gael tiroedd ac eiddo pan oeddid yn diddymu'r mynachtai. Pan y bu Richard farw gadawodd lawer o ystadau yn siroedd Rutland, Swydd Northampton a mannau eraill. Fe'i claddwyd yn Eglwys Sant Marged, Westminster.

William Cecil (1520-1598), barwn Burghley[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: William Cecil, barwn Burghley

Derbyniodd nifer o deitlau a swyddi gan Harri VIII, gan gynnwys y teitl 'Barwn Burghley' (1571), Ysgrifennydd y Wladwriaeth (1550-3 a 1558-1572), ac Arglwydd Uwch-Ganghellor (1572-98).

Ceir digon o brofion o ddiddordeb parhaol yr arglwydd Burghley yn ei gysylltiadau Cymreig . Er enghraifft, bu'n ddiwyd gyda'r gwaith o sefydlu ei ach Gymreig; trefnodd i'w gâr Thomas Parry, gŵr o Frycheiniog, gael bod yn un o swyddogion tŷ'r dywysoges Elisabeth yn 1560 — daeth Parry yn brif swyddog (‘Comptroller’) y dywysoges; rhoes arian i helpu'r ymchwil am gopr yn ynys Môn; cofir hefyd am ei gysylltiad â Morris Clynnog, a ysgrifennodd lythyr Cymraeg ato o Rufain (Mai 1567) yn ei hysbysu fod y frenhines Elisabeth ar fin cael ei hesgymuno.

Cafodd ddau fab, Thomas a Robert, ac er mai Thomas oedd yr hynaf, nid oedd ganddo ddigon o grebwyll gwleidyddol (yn ôl William) "i reoli cwrt tenis heb sôn am wlad!" Rhoddwyd cartre'r teulu i Thomas, a phwer gwleidyddol i'r mab ieuengaf - Robert. Bu farw ar 4 Awst 1598, a'i gladdu yn Eglwys St Martin, Stamford.

Thomas Cecil, iarll 1af Exeter[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Thomas Cecil, iarll 1af Exeter

Thomas (5 Mai 1542 – 8 Chwefror 1623) oedd mab hynaf William Cecil, barwn Burghley a Mary Cheke (m. Chwefror 1543) a galwyd ef rhwng 1598 a 1605 yn Arglwydd Burghley. Er na roddwyd iddo lawer o grebwyll gwleiddol, bu'n dal nifer o fân swyddi ac roedd hefyd yn filwr. Roedd yn haner brawd i Robert Cecil, iarll 1af Salisbury. Mynychodd Goleg y Drindod, Caergrawnt.[1]

Roedd Thomas, iarll Exeter, yr un mor awyddus a'i dad i sefydlu ei ach Gymreig ac yr oedd yn flin ganddo ddarfod newid y dull o sillafu cyfenw'r teulu a thrwy hynny beri dryswch.

Robert Cecil (1563? - 1612), iarll 1af Salisbury[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Robert Cecil, iarll 1af Salisbury

Eithr fel arall y teimlai Robert Cecil (1563? - 1612), iarll Salisbury, ac Ysgrifennydd y Wladwriaeth yn nheyrnasiad Iago I; pan geisiodd Cymro a ysgrifennodd ato brofi bod ach y Ceciliaid i'w olrhain trwy'r Fychaniaid hyd at dywysogion Cymru, mynegodd ef yn bur drahaus nad oedd ganddo ddiddordeb yn y teganau gweigion hyn (in these vain toys) ac na fynnai glywed y fath ffwlbri (such absurdities).

Diwedd y llinach wrywaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd aelodau o'r prif deulu yn Alltyrynys yn dal yn amlwg mewn llywodraeth leol yn Sir Fynwy yn 1592 ac yn gohebu â'r is-deulu enwocach hyd at 1598, pan ddaeth y llinach i ben ar yr ochr wrywaidd. Ofer fu cais William Cecil, yr olaf o'r enw yn Alltyrynys, i ddiogelu'r enw trwy greu Syr Robert Cecil (wedi hynny iarll Salisbury) yn aer y stad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Cecil, Thomas (CCL558T)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.