Rhagfynegiad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhagweld)
Cwmwl Cirrocumulus, neu 'Awyr dywod'), sy'n arwydd pendant, yn ôl yr hen bobl, y daw glaw ymhen diwrnod neu ddau.

Yn gyffredinol, ar lafar gwlad, gall rhagfynegi olygu rhagweld digwyddiad arbennig megis diffyg ar yr haul; mewn mathemateg, fodd bynnag, mae'n ymwneud â thebygolrwydd, a'i ddiffiniad yn fwy gwyddonol e.e. rhagfynegi'r tebygolrwydd ei bod am lawio ar ddiwrnod y Cadeirio yn yr Eisteddfod.

Mewn barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Corff o gerddi Cymraeg traddodiadol sy'n darogan dyfodol y Brythoniaid/Cymry ac yn eu hatgoffa o'u gorffennol yw'r 'Canu Darogan', a elwir hefyd yn Ganu Brud neu'r Brudiau. Gorwedd gwreiddiau'r canu arbennig hwn yn ôl ym myd y Celtiaid. Blodeuodd y traddodiad yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, yn enwedig gyda dyfodiad y Normaniaid ac yn y cyfnod ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru hyd at gyfnod Owain Glyndŵr ac ymgyrch Harri Tudur. Y ffigwr canolog yn y traddodiad oedd y Mab Darogan, a fyddai'n dychwelyd i waredu'r Cymry a gyrru'r Saeson allan o Ynys Brydain. Yr enw arferol ar y beirdd darogan yw 'daroganwyr' neu 'frudwyr'. Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi darogan yn waith beirdd di-enw a ddadogir ar Myrddin a Taliesin ac eraill, ond ceir nifer o gerddi gan feirdd wrth eu crefft hefyd, o gyfnod Beirdd yr Uchelwyr.

Ceir yr enghraifft fwyaf adnabyddus, efallai, yn y gân darogan a adweinir fel 'Yr Awdl Fraith'. Roedd y gerdd honno, a dadogir ar y bardd Taliesin, ymhlith y mwyaf poblogaidd o'r brudiau yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Yn ail ran y gerdd sonnir am y Saeson yn meddianu'r tir a'r Brythoniaid yn ffoi i'r gorllewin:

Sarffes gadwynog, falch anhrugarog, a'i hesgyll yn eurog, o Sermania.
Honno a oresgyn Lloegr a Ffrydyn o lan môr Llychlyn hyd Sabrina.
Yna y bydd Brython fal carcharorion mewn braint alldudion i'r Sacsonia.
Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant, a'u tir a gollant onid gwyllt Walia.[1]

Y tywydd[golygu | golygu cod]

Math o ragfynegi yw rhagweld y tywydd, fel a geir heddiw ar y teledu. Mae'r grefft o wneud hyn yn llawer hŷn na'r oes dechnolegol hon, fodd bynnag, fel y gwelir mewn dyddiaduron amgylcheddol Cymreig, a oedd yn gymorth i'r ffermwr gofio digwyddiadau megis pa ddiwrnod y cafwyd rhew neu eira cynta'r flwyddyn. Er mwyn helpu'r cof, trowyd llawer o'r rhain yn ddywediadau bachog e.e. "Awyr draeth, glaw drannoeth" (a gofnodwyd gyntaf yn Llanfair Mathafarn Eithaf) sy'n golygu: os yw'r cymylau'n edrych fel tywod ar draeth (ar ffurf sgwigl tonnog) yna fe ddaw glaw y diwrnod wedyn.

Mewn mathemateg[golygu | golygu cod]

Er fod rhagweld digwyddiadau yn y dyfodol yn ansicr, fe'i defnyddir oddi fewn i ystadegaeth i gynorthwyo'r broses o gynllunio, a hynny mewn modd ymarferol. Mewn mathemateg, defnyddir y term rhagfynegi yn hyrach na'r termau uchod. Mae'n rhan o ystadegaeth gasgliadol, ac un o'r adrannau oddi fewn i'r maes hwnnw yw "rhagfynegi casgliadol" (predictive inference), ond defnyddir rhagfynegi yn ehangach na hyn odi fewn i ystadegaeth gasgliadol. Pan fo amser yn chwarae rhan yn y broses ystadegol o ddod i gasgliad, yna fe'i gelwir yn forcasting (dim term Cymraeg).

Mewn gwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Mae rhagfynegi, i'r gwyddonydd, fel arfer, yn ymwneud â maint, a "beth ddigwyddith os newidir yr amodau...?"

Mae'n anodd iawn rhagfynegi'n gywir ar adegau e.e. twf poblogaeth, trychinebau naturiol fel daeargrynfeydd, pandemics neu swnamis. Mae eraill yn haws: cylchoedd solar, ymweliad comed, machlud y lloer ayb.

Mae gwyddoniaeth yn hwyluso'r gwaith o ragfynegi'n gywir. Wrth i ddamcaniaethau newydd cant yn aml eu gwrthbrofi gan realaeth e.e. mae rhagfynegi strwythur grisial ar lefel atomig yn sialens enfawr (2019).[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 'Yr Awdl Fraith', testun Elis Gruffydd, Ystoria Taliesin gol. P.K. Ford (Caerdydd, 1992), tud. 86.
  2. Woodley, S.M.; Catlow, R. (2008), "Crystal structure prediction from first principles", Nat Mater 7 (12): 937–946, https://dx.doi.org/10.1038/nmat2321