Nodyn:Pigion Eisteddfod

Oddi ar Wicipedia
Pigion


Gŵyl ddiwylliannol bwysicaf Cymru yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chystadlu mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama yn elfen bwysig. Ymhlith y cystadlaethau pwysicaf mae cystadleuaeth am y Gadair am awdl, y Goron am bryddest a'r Fedal Ryddiaith am waith rhyddiaith. Ceir hefyd y Rhuban Glas i'r canwr unigol gorau.

Er fod traddodiad yr eisteddfod yn ganrifoedd oed, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan 1861, yn Aberdâr. Daeth y gyfres flynyddol honno i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahan i 1914 a 1940.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 rhwng y 1af a’r 8fed o Awst ar gaeau Stad Rhiwlas, ger Y Bala, Gwynedd.

 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis