Pedwar cynghrair pêl-droed yng Nghymru yw'r Cynghreiriau Ardal[1]. Mae Cymru wedi'i rhannu'n bedwar ardal/rhanbarth ar y lefel hon sy'n eistedd ar drydedd lefel system cynghrair pêl-droed Cymru. Mae ganddynt glybiau gyda statws amatur/lled-broffesiynol. Blwyddyn gyntaf eu gweithrediad fyddai 2020–21 ond cawsant i gyd eu canslo.[2] Symudwyd y tymor cyntaf i 2021-22. Mae creu’r cynghreiriau yn nodi’r tro cyntaf i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod yn berchen ar haen 3 system cynghreiriau Cymru ac yn ei gweinyddu. Mae'r newidiadau hyn yn dilyn adolygiad o byramid pêl-droed Cymru.[3] I fod yn gymwys mae angen i glybiau fodloni'r meini prawf ar gyfer ardystiad haen 3 CBDC.
Rhennir y gynghrair yn ddwy gynghrair, gan gwmpasu gogledd a de Cymru. Mae gan gynghreiriau'r gogledd a'r de ddwy adran ranbarthol o un ar bymtheg yr un:
Ardal y Gogledd
Ardal y Gogledd-ddwyrain
Ardal y Gogledd-orllewin
Ardal y De
Ardal y De-dddwyrain
Ardal y De-orllewin
Mae enillwyr pob cynghrair yn cael eu dyrchafu i naill ai Cymru North neu Cymru South cyn belled â'u bod yn bodloni meini prawf ardystio haen 2 CBDC. Yn amodol ar fodloni’r meini prawf hyn hefyd, mae’r pedwar clwb sydd yn ail yn mynd i mewn i gemau ail gyfle gyda dau o’r clybiau hefyd yn cael dyrchafiad [4] (un o’r gogledd ac un o’r de).