C.P.D. Bow Street

Oddi ar Wicipedia
Bow Street
Enw llawnClwb Pêl-droed Bow Street
Bow Street Football Club
LlysenwauY Piod
MaesCae Piod, Rhydypennau
CadeiryddWyn Lewis
RheolwrBarry Williams
CynghrairAdran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru
2016-2017Adran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru, 10fed (o 15)
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Lleolir CP Bow Street ym mhentref Rhydypennau ger Bow Street, Ceredigion. (Noder mai enw pentref yw Bow Street, nid stryd). Mae Rhydypennau a Bow Street bellach i bob pwrpas yn un pentref, tua 4 12 mile (7.2 km) i'r gogledd o Aberystwyth ar briffordd A487 i Machynlleth.

Mae gan y clwb ddau dîm sy'n chwarae mewn adrannau pêl-droed lleol; y tîm cyntaf yn adran gyntaf Cynghrair Canolbarth Cymru, a'r eilyddion yn chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Cambrian Tyres Aberystwyth.

Mae gan y clwb nifer o dimau ieuenctid, gyda'u hoedrannau yn amrywio o 6 i 16 mlwydd oed, ac y mae gan y clwb hefyd ddau dîm merched sy'n cystadlu mewn cynghreiriau lleol.

Daw'r mwyafrif helaeth o aelodau'r timau o bentref Bow Street a'r ardaloedd cyfagos sy'n cynnwys Rhydypennau, Llandre a Dole

Llysenw[golygu | golygu cod]

Llysenw'r tîm yw Y Piod neu Magpies yn Saesneg, gan fod lliwiau swyddogol crys y clwb yn streipiau du a gwyn, yn debyg i grysau chwaraewyr Newcastle United.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Adran Gyntaf Cynghrair Pêl-droed Aberystwyth a'r Cylch (Aberystwyth Football League Division One)
    • 1992–93, 1994–95, 1995–96, 2001–02, 2002–03, 2003–04, 2006–07
  • Cwpan y Gynghrair
    • 1985–86, 1988–89, 1991–92, 1992–93, 1994–95
  • Cwpan J.Emrys Morgan
    • 1982–83, 1999–00, 2005–06

Carfan 2017[golygu | golygu cod]

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

Rhif Safle Chwaraewr
Cymru Toby Spain
Cymru Andrew Carree
Cymru Gwyn Jones
Cymru Peter James
Cymru Mikey Gornall
Cymru Clint Middleton
Cymru Darren Middleton
Cymru Dean Evans
Cymru Josh Shaw
Cymru Philip Evans
Cymru Nicky Smith
Cymru Stephen Harrison
Cymru Dafydd Davies
Rhif Safle Chwaraewr
Cymru Mark Evans
Cymru Owain James
Cymru Justin Hinge
Cymru Jason Rees
Cymru Ian Evans
Cymru Deian Thomas
Cymru Dean Davies
Cymru Danny Evans
Cymru Paul Douglas Jones
Cymru Gerwyn Evans
Cymru Huw Bates
Cymru Andrew Curley

Pwyllgor[golygu | golygu cod]

  • Ysgrifennydd: Cymru Peter James
  • Trysorydd: Cymru Stephen Harrison

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]