Neidio i'r cynnwys

Bob Newhart

Oddi ar Wicipedia
Bob Newhart
FfugenwBob Newhart Edit this on Wikidata
GanwydGeorge Robert Newhart Edit this on Wikidata
5 Medi 1929 Edit this on Wikidata
Oak Park, Illinois Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 2024 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Label recordioWarner Bros. Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St. Ignatius College Prep
  • Loyola University Chicago Quinlan School of Business Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, actor Edit this on Wikidata
Arddulldeadpan, dychan, comedi arsylwadol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadIrwin Corey Edit this on Wikidata
PriodGinnie Newhart Edit this on Wikidata
PerthnasauPaul Brittain, Bill Quinn Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Gwobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actor in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Actor a digrifwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd George Robert "Bob" Newhart (5 Medi 192918 Gorffennaf 2024). Roedd yn adnabyddus am ei arddull di-wên a'r ffordd roedd yn siarad gydag atal dweud. Cychwynnodd fel digrifwr stand-up, cyn newid ei yrfa i actio ar deledu. Cafodd sawl gwobr, yn cynnwys tri Gwobr Grammy, Gwobr Emmy a Gwobr Golden Globe. Derbyniodd Wobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd yn 2002.

Fe'i ganwyd yn Oak Park, Illinois, yn fab i George David Newhart (1899–1986) a'i wraig Julia Pauline (née Burns; 1901–1991).

Daeth i amlygrwydd yn 1960 gyda'i record o ymsonau digrif The Button-Down Mind of Bob Newhart, a werthodd yn dda iawn a chyrraedd rhif un ar siart pop Billboard; mae'n parhau i fod yr 20fed albwm gomedi a werthodd fwyaf erioed.[1] Roedd yr albwm dilynol, The Button-Down Mind Strikes Back!, yn llwyddiant hefyd, ac ar un adeg y ddau albwm oedd rhif un a rhif dau yn siart Billboard.[2]

Cyflwynodd Newhart sioe adloniant ar NBC o'r enw The Bob Newhart Show (1961) cyn chwarae rhan y seicolegydd Robert Hartley rhwng 1972 a 1978 ac yna'r tafarnwr Dick Loudon ar gyfres Newhart o 1982 i 1990. Cafodd ddwy gomedi sefyllfa byrhoedlog yn y 1990au, Bob a George and leo. Actiodd Newhart mewn ffilmiau fel Catch-22 (1970), Cold Turkey (1971), In & Out (1997), ac Elf (2003). Lleisiodd Bernard yn y ffilmiau animeddiedig Disney The Rescuers (1977) a The Rescuers Down Under (1990). Chwaraeodd Professor Proton ar gomedi sefyllfa The Big Bang Theory rhwng 2013 a 2018, a derbyniodd ei Wobr Emmy Primetime cyntaf am y rhan.[3]

Bu farw yn 94 mlwydd oed, yn ei gartref yn Los Angeles, wedi sawl salwch byr.[4][5]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Teledu

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Manilla, Ben. "'Button-Down Mind' Changed Modern Comedy", October 23, 2007.
  2. Newhart, Bob (2006). I Shouldn't Even Be Doing This!. New York: Hyperion. ISBN 1-4013-0246-7.
  3. Cidoni Lennox, Michael (16 Medi 2013). "Bob Newhart finally gets his Emmy Award". The Washington Times. Cyrchwyd 16 Medi 2013.
  4. Barnes, Mike (18 Gorffennaf 2024). "Bob Newhart, Dean of the Deadpan Delivery, Dies at 94". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2024.
  5. Dagan, Carmel (18 Gorffennaf 2024). "Bob Newhart, Comedy Icon, Dies at 94". Variety. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2024.
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.