The Big Bang Theory
The Big Bang Theory | |
---|---|
![]() | |
Crëwyd gan | Chuck Lorre Bill Prady |
Serennu | Johnny Galecki Jim Parsons Kaley Cuoco Simon Helberg Kunal Nayyar Sara Gilbert Melissa Rauch Mayim Bialik Kevin Sussman Laura Spencer |
Cyfansoddwr y thema | Barenaked Ladies |
Thema'r dechrau | "Big Bang Theory Theme" |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 12 |
Nifer penodau | 279 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd gweithredol |
Chuck Lorre Bill Prady Steven Molaro |
Amser rhedeg | 18–24 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | CBS |
Rhediad cyntaf yn | 24 Medi 2007 – presennol |
Cysylltiadau allanol | |
Gwefan swyddogol |
Comedi sefyllfa o'r Unol Daleithiau a greuwyd gan Chuck Lorre a Bill Prady yw The Big Bang Theory. Darlledwyd y bennod gyntaf ar 24 Medi 2007 a'r bennod olaf un ar 16 Mai 2019, wedi darlledu 279 pennod dros 12 cyfres.[1] Mae'r gyfres yn dilyn dau ffisegwr sy'n rhannu fflat, Leonard Hofstadter a Sheldon Cooper; eu ffrindiau Howard Wolowitz a Rajesh Koothrappali; a'u cymydog hardd Penny.[2]
Dros amser, mae cymeriadau cefnogol wedi derbyn rolau serennu: Bernadette Rotenkowski, cariad Howard (ei wraig yn hwyrach), microbiolegydd a chyn-weinyddes gyda Penny; niwro-wyddonydd Amy Farrah Fowler, sy'n ymuno â'r grŵp ar ôl cwrdd â Sheldon ar wefan ddetio (yn dod yn gariad iddo yn hwyrach); Stuart Bloom, perchennog y siop lyfrau comig sy'n symud i mewn gyda mam Howard yng nghyfres 8; ac Emily Sweeney, dermatolegydd sy'n canlyn Raj.
Cast a chymeriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Johnny Galecki fel Leonard Hofstadter
- Jim Parsons fel Sheldon Cooper
- Kaley Cuoco fel Penny
- Simon Helberg fel Howard Wolowitz
- Kunal Nayyar fel Rajesh Koothrappali
- Sara Gilbert fel Leslie Winkle
- Melissa Rauch fel Bernadette Rostenkowski
- Mayim Bialik fel Amy Farrah Fowler
- Kevin Sussman fel Stuart Bloom
- Laura Spencer fel Emily Sweeney
- Christine Baranski fel Beverley Hofstadter, mam Leonard
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ TV Guide: The Big Bang Theory. Adalwyd 27 Gorffennaf 2012.
- ↑ TV.com: The Big Bang Theory Archifwyd 2012-07-14 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 27 Gorffennaf 2012.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) The Big Bang Theory. Internet Movie Database.