Neidio i'r cynnwys

Josh Tarling

Oddi ar Wicipedia
Josh Tarling
Ganwyd15 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata
Aberaeron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Taldra194 centimetr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTeam Sky, FlandersColor Galloo Team Edit this on Wikidata

Seiclwr trac a ffordd o Gymru yw Joshua Michael Tarling[1] (ganwyd 15 Chwefror 2004). Ar hyn o bryd mae e'n seiclo ar gyfer y tîm Ineos Grenadiers.[2] Yn bencampwr Iau y Byd ddwywaith yn y treial amser, enillodd y treial amser elitaidd ym Mhencampwriaethau Beicio Ffordd Ewrop 2023.

Cafodd Tarling ei eni yn Aberaeron.[3] Daeth yn bencampwr Prydeinig dwbl wrth ennill y pwyntiau a’r gemau ymlid tîm ym Mhencampwriaethau Trac Cenedlaethol Prydain 2022. [4]

Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 ym Mharis, Ffrainc.[5] Roedd yn bedwerydd yn y ras 30 milltir yn erbyn y cloc.[6]

Enillodd ail gymal ras y Giro d'Italia ar 10 Mai 2025, y tro cyntaf iddo ennill cymal mewn un o rasys mawr y gamp.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Michael Joshua TARLING". UCI.org.
  2. "INEOS GRENADIERS" (yn Saesneg). UCI. Cyrchwyd 2 Ionawr 2023.
  3. "Josh Tarling - Beicio". Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.
  4. "2022 National Track Championships". British Cycling (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2022.
  5. "Aberaeron cyclist Josh Tarling in Team GB squad for Olympics". Tivyside Advertiser (yn Saesneg). 27 Mehefin 2024. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.
  6. "Siom i'r Cymro Josh Tarling yn y Gemau Olympaidd". Newyddion S4C. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2024.
  7. "Josh Tarling wedi ennill ail gymal y Giro d'Italia". newyddion.s4c.cymru. 2025-05-10. Cyrchwyd 2025-05-10.