Neidio i'r cynnwys

Craig Williams

Oddi ar Wicipedia
Craig Williams
Aelod Seneddol
dros Ogledd Caerdydd
Yn ei swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Jonathan Evans
Olynydd Anna McMorrin
Aelod Seneddol
dros Sir Drefaldwyn
Yn ei swydd
12 Rhagfyr 2019 – 30 Mai 2024
Rhagflaenydd Glyn Davies
Olynydd etholaeth dyddymwyd
Manylion personol
Ganwyd (1985-06-07) 7 Mehefin 1985 (39 oed)
Y Trallwng, Cymru
Plaid wleidyddol Ceidwadol

Gwleidydd Ceidwadol a chyn aelod seneddol yw Craig Williams (ganed 7 Mehefin 1985 yn Y Trallwng). Roedd yn Aelod Seneddol (AS) Gogledd Caerdydd wedyn AS dros yr etholaeth Sir Drefaldwyn tan 2024.

Cafodd ei eni yn Y Trallwng, lle aeth ef i Ysgol Uwchradd Y Trallwng, wedyn symudodd i fynd i Brifysgol Birmingham.[1]

Gwleidyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Roedd Cynghorydd Caerdydd rhwng 2008 a 2015, wedyn enillodd sedd fel AS dros Ogledd Caerdydd rhwng 2015 a 2017.[1]

Dychwelodd i San Steffan fel AS dros etholaeth Sir Drefaldwyn yn yr Etholiad cyffredinol 2019, gyda fwyafrif o fwy na 12,000.[2]

Yn 2020 daeth Williams yn Ysgrifenydd Preifat Seneddol i'r Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Steve Barclay,[3] wedyn yn 2022, Ysgrifenydd Preifat Seneddol i'r prif weinidog, Rishi Sunak.[4]

Ym Mai 2024, tri diwrnod cyn cyhoeddodd Sunak yr etholiad cyffredinol Gorffennaf 2024, betiodd Williams £100 y basai yr etholiad yn cymryd lle yng Nghorffennaf. Daeth y bet i'r sylw'r cwmni betio, a lansiodd ymchwiliad. Ar 25 Mehefin, tynodd y Blaid Ceidwadol eu cefnogaeth i Williams, ag oedd yn sefyll am ymgeisydd Ceidwadol dros yr etholaeth newydd Maldwyn a Glyndŵr.[4] Yn yr etholiad ar 4 Gorffennaf, daeth Williams yn drydydd, y tu ôl i Lafur a Reform UK.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Craig Williams named as the man to replace Glyn Davies". mynewtown (yn Saesneg). 20 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2024.
  2. "General election 2019: Tories re-take Brecon and Radnorshire". Newyddion BBC (yn Saesneg). 13 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2024.
  3. "PARLIAMENTARY PRIVATE SECRETARIES – APRIL 2020" (PDF). gov.uk. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.
  4. 4.0 4.1 "Y Ceidwadwyr yn tynnu eu cefnogaeth i Craig Williams yn ôl". Golwg 360. 25 Mehefin 2024. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.
  5. "Canlyniadau Maldwyn a Glyndŵr - Etholiad cyffredinol 2024". BBC Cymru Fyw. 5 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2024.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]