Neidio i'r cynnwys

Henry Stanley, 3ydd Barwn Stanley o Alderley

Oddi ar Wicipedia

Uchelwr a hanesydd Prydeinig oedd Henry Edward John Stanley, 3ydd Barwn Stanley o Alderley ac 2il Farwn Eddisbury (11 Gorffennaf 1827 - 11 Rhagfyr 1903), a adnabyddir hefyd fel Abdul Rahman Stanley, a gyfieithodd The first voyage round the world by Magellan a gweithiau eraill o Oes y Darganfod. Wedi troi i Islam, ym 1869 daeth yr Arglwydd Stanley yn aelod Mwslemaidd cyntaf Tŷ'r Arglwyddi. [1] [2]

Henrietta Stanley, y Farwnes Stanley o Alderley, 1860

Addysgwyd Stanley yng Ngholeg Eton, ac aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt yn 1846.

Ymunodd â'r Gwasanaeth Diplomyddol yn 1847, a phenodwyd ef yn Attaché yn Constantinople yn 1851. Yn lonawr, 1854, trosglwyddwyd ef o Constantinople i Athen.

Yn, neu cyn, 1859, trosodd Stanley at Islam a rhoddodd y gorau i'w swydd fel diplomydd Prydeinig yn yr Ymerodraeth Otomanaidd . Efallai ei fod wedi mabwysiadu'r enw Abdul Rahman. [3] [4][5] Yr Arglwydd Stanley oedd yr aelod Mwslemaidd cyntaf Tŷ'r Arglwyddi, [6] [7] [8] gan etifeddu ei deitlau yn 1869 ar farwolaeth ei dad. Pan oedd ymosodiad yr Iseldirwyr ar Aceh yn y newyddion ym 1873-74, roedd Stanley yn feirniad o bolisi’r Iseldiroedd a Phrydain tuag at Aceh, gan gyhuddo Prydain o fradychu Aceh, ei chynghreiriad hynafol trwy gytundebau 1601 a 1819, er iddo ymrwymo i amddiffyn ei annibyniaeth. [9]

Gan fod alcohol wedi'i wahardd yn Islam, mae'n debyg iddo orchymyn cau pob tafarn ar ei dîr yn Nether Alderley. [10] Er gwaethaf ei ffydd newydd, ariannodd y gwaith o adfer nifer o eglwysi yng Ngymru gan cynnwys Eglwys y Santes Fair, Bodewryd (1867) ym Môn, Eglwys Llanbadrig (1884), [11] ac Eglwys Sant Peirio, Rhosbeirio .

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw a chladdwyd ef ar ddau o'r dyddiadau mwyaf addawol yn y calendr Mwslemaidd, 21 a 25 Ramadan (11 a 15 Rhagfyr 1903 yn y drefn honno). Claddwyd ef yn ôl defodau Mwslemaidd mewn tir anghysegredig yng ngardd y Dower House ar ei stad ei teuluol. Y prif alarwr yn ei gladdedigaeth oedd ysgrifennydd cyntaf y Llysgenhadaeth Otomanaidd yn Llundain. Cafodd gweddïau Islamaidd eu hadrodd dros ei fedd gan imam y llysgenhadaeth. [4] Cynhaliwyd gwasanaeth Janaza er cof am yr ymadawedig ym Mosg Lerpwl, dan arweiniad Abdullah Quilliam .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gilham, Jamie (2024-05-09). "STANLEY, HENRY EDWARD JOHN 3rd Baron Stanley of Alderley and 2nd Baron Eddisbury (1827 - 1903), Diplomat, translator and writer, hereditary peer". Dictionary of Welsh Biography.
  2. Muriel E. Chamberlain (2004). "Stanley, Henry Edward John, third Baron Stanley of Alderley and second Baron Eddisbury (1827–1903)". Oxford Dictionary of National Biography.
  3. "An Englishman Turned Turk". The Daily Delta (quoting The Times of Ceylon) (79). New Bern, North Carolina, USA (quoting a paper from Colombo, Sri Lanka). 6 July 1859. Cyrchwyd 17 September 2020.
  4. 4.0 4.1 Death of Lord Stanley of Alderley
  5. Straits Times 2 July 1859
  6. "Lord Henry Stanley: A Muslim who lovingly restored a church". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2007. Cyrchwyd 3 July 2007.
  7. Muslims of London
  8. Muslim Profile of the United Kingdom
  9. Anthony Reid & Helen Reid, ‘A Voice for Southeast Asian Muslims in the High Colonial Era: The Third Baron Stanley of Alderley, Education about Asia 11, no.3 (Winter 2006) 4-6
  10. Photographs of Nether Alderley
  11. Llanbadrig Church, Anglesey