Edna O'Brien

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edna O'Brien
Hayfestival-2016-Edna-O'Brien-2.jpg
Ganwyd 15 Rhagfyr 1930 Edit this on Wikidata
Tuamgraney Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaeth Sgriptiwr, Bardd, nofelydd, Ysgrifennwr, cofiannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am The Country Girls, Casualties of Peace Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr PEN Iwerddon, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Awdures Wyddelig yw Edna O'Brien (ganwyd 15 Rhagfyr 1930) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, sgriptiwr, bardd, nofelydd a chofiannydd. Disgrifiwyd hi gan Philip Roth fel "y ferch fwyaf dalentog sy'n sgwennu mewn Saesneg heddiw" a bu i gyn-Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon, Mary Robinson, ddatgan "hi yw un o awduron mwyaf ei chenhedlaeth.[1][2]

Mae gwaith O'Brien yn aml yn troi o gwmpas teimladau mewnol menywod, a'u problemau mewn perthynas â dynion, a chymdeithas yn gyffredinol.[3] Mae ei nofel gyntaf, The Country Girls, yn aml yn cael ei chydnabod â thorri'r tawelwch ar faterion rhywiol a materion cymdeithasol yn ystod cyfnod gormesol yn Iwerddon yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y llyfr ei wahardd, ei losgi a'i wadu o'r pulpud, a gadawodd O'Brien Iwerddon gan droi'n alltud.

Mae O'Brien bellach yn byw yn Llundain. Derbyniodd Wobr PEN Iwerddon yn 2001. Enillodd Saints and Sinners Wobr Stori Fer Ryngwladol Frank O'Connor 2011, gwobr gyfoethocaf y byd am gasgliad o storiau byrion. Cyhoeddodd Faber and Faber ei bywgraffiad, Country Girl, yn 2012. Yn 2015, rhoddwyd y 'Saoi' (math o brifardd) iddi gan y Gymdeithas Wyddelig, Aosdána.

Fe'i ganed yn Tuamgraney, SwyddClare, Iwerddon ar 15 Rhagfyr 1930. [4][5]

Yn ôl O'Brien, roedd ei mam yn fenyw gref a rheolaethol a ymfudodd am ysbaid i America, a bu'n gweithio fel morwyn yn Brooklyn, Efrog Newydd, i deulu Gwyddelig-Americanaidd cefnog cyn dychwelyd i Iwerddon i gychwyn teulu a magu ei phlant. O'Brien oedd y plentyn ieuengaf o "deulu crefyddol-gul". O 1941 i 1946 cafodd ei haddysgu gan Sisters of Mercy - a chyfrannodd hyn at blentyndod lle teimlai ei bod wedi ei "mygu". "Gwrthodais yn erbyn crefydd cul a oedd yn lladd pob ysbryd rhydd" meddai.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Aosdána, Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Nofelau[golygu | golygu cod y dudalen]

Storiau byrion[golygu | golygu cod y dudalen]

Drama[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A Pagan Place
  • 1980: Virginia. A Play
  • Family Butchers
  • Triptych
  • 2009: Haunted

Ffeithiol[golygu | golygu cod y dudalen]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Yn y Saesneg gwreiddiol: Philip Roth: "the most gifted woman now writing in English"; Mary Robinson: "one of the great creative writers of her generation".
  2. Robinson, Mary (29 Medi 2012). "A life well lived, well told". The Irish Times. http://www.irishtimes.com/newspaper/weekend/2012/0929/1224324581393.html. Adalwyd 29 Medi 2012.
  3. Liukkonen, Petri. "Edna O'Brien". Books and Writers. Finland: Kuusankoski Public Library. Archifwyd o y gwreiddiol ar 1 April 2004.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120188928; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: Internet Movie Database, dynodwr IMDb nm0639530, https://www.imdb.com/, adalwyd 16 Hydref 2015Wikidata Q37312
  6. Aelodaeth: http://aosdana.artscouncil.ie/Members/Literature/O-Brien.aspx; dyddiad cyrchiad: 6 Gorffennaf 2018.
  7. Nodyn:Cite newspaper