Moel-y-don
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ynys Môn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.1878°N 4.2211°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentrefan yng nghymuned Llanddaniel Fab Moel-y-don ( ynganiad ) yn ne Ynys Môn ar lan Afon Menai. Er nad oes dim ond dyrnaid o dai yno heddiw bu'n lle prysur yn y gorffennol fel safle un o'r chwech o fferïau a gysylltai Môn ac Arfon dros y Menai. Mae 126 milltir (202.7 km) o Gaerdydd a 208.1 milltir (334.9 km) o Lundain.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Llecyn nid nepell o Lanidan, tua dwy filtir a hanner i'r de o Lanfair Pwllgwyngyll yw Moel-y-don. Am ganrifoedd lawer bu fferi yno i groesi'r Menai i'r Felinheli, i'r de o Fangor.[1] Yn yr Oesoedd Canol safai yng nghwmwd Menai, cantref Rhosyr.
Yn ôl traddodiadau Môn, dyma'r man lle croesodd y Rhufeiniaid pan ymosododd y Cadfridog Agricola ar yr ynys er mwyn dinistrio canolfan grym y Derwyddon; cododd bont o longau i groesi drosodd.[2]
Ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar y 6ed o Dachwedd 1282 ar Afon Menai rhwng milwyr Edward I o Loegr a gwŷr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar Draeth Lafan rhwng Llan-faes, Môn a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger Moel-y-don ei hun. Fel pont Agricola deuddeg can mlynedd yn gynt, pont o longau oedd y bont hon hefyd, yn ôl pob tebyg.[3]
Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynrychiolir Moel-y-don yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[4][5]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Atlas Môn (Llangefni, 1972).
- ↑ J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tud. 364.
- ↑ Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, tud. 364.
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- H. R. Davies, The Conway and Menai Ferries (Caerdydd, 1942).