Neidio i'r cynnwys

Llawysgrifau Peniarth

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:03, 16 Gorffennaf 2015 gan 81.153.60.160 (sgwrs)

Casgliad o lawysgrifau Cymreig canoloesol a gasglwyd yn wreiddiol gan Syr Robert Vaughan (1592 - 1667) o Hengwrt, Meirionnydd, ac a gafodd gartref ym mhlasdy Peniarth, plwyf Llanegryn, Meirionnydd yn y 19eg ganrif yw Llawysgrifau Peniarth. Mae'r casgliad yn cynnwys rhai o'r llawysgrifau hynaf a phwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.

Gwerthwyd y casgliad gan William Wynne VII o Beniarth i Syr John Williams yn 1898. Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol i Gymru addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr, yn cynnwys Llawysgrifau Peniarth, iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn Aberystwyth, ac felly y bu.

Mae'r casgliad yn cynnwys trysorau fel Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin a Llyfr Gwyn Rhydderch (sy'n cynnwys Pedair Cainc y Mabinogi, Y Tair Rhamant a chwedlau eraill) a nifer o lawysgrifau hynafol eraill, yn cynnwys testunau cynnar o Gyfraith Hywel, gwaith nifer o Feirdd yr Uchelwyr. Mae'r llawysgrifau mewn ieithoedd eraill yn cynnwys dwy lawysgrif Ladin o Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy a thestun cynnar, darluniedig, o Canterbury Tales Geoffrey Chaucer a adnabyddir wrth yr enw Hengwrt Chaucer.

Fe'u diogelir i'r genedl yng nghasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Rhai o'r llawysgrifau

Llyfryddiaeth

Ceir manylion am y llawysgrifau yn y llawlyfrau:

  • J. Gwenogvryn Evans, Reports on Manuscripts in the Welsh Language, cyfrol I, rhif 2 a 3.
  • Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales, cyfrol I, rhif 1.