Peniarth 6

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Llawysgrif Gymraeg ganoloesol yw Peniarth 6. Mae'n rhan o'r casgliad a elwir yn Llawysgrifau Peniarth ar ôl plasdy Peniarth ym Meirionnydd, de Gwynedd, lle cawsent eu cadw am flynyddoedd.

Ymhlith y testunau a geir ym Mheniarth 6 mae dau ddarn o destun Pedair Cainc y Mabinogi, y testun hynaf sydd ar glawr. Mae'r llawysgrif i'w ddyddio i'r cyfnod 1225-1275, efallai. Cedwir Peniarth 6 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.