Peniarth 109

Oddi ar Wicipedia
Peniarth 109
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
AwdurLewys Glyn Cothi, Hywel Cilan Edit this on Wikidata
Rhan oLlawysgrifau Peniarth Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Tudalennau192 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1470 Edit this on Wikidata
Genrecywydd Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata

Llawysgrif Gymraeg o ail hanner y 15g yn llaw'r bardd Lewys Glyn Cothi (tua 1425 - tua 1490) yw Llawysgrif Peniarth 109. Mae'n rhan o'r casgliad a enwir yn Llawysgrifau Peniarth, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Llawysgrif femrwn hir a chul sy'n mesur 238 x 99 mm ydyw, sy'n cynnwys 192 dalen a 106 o gerddi Lewys Glyn Cothi, un o'r mwyaf o Feirdd yr Uchelwyr, yn ei law ei hun. Addurnir y llawysgrif â nifer o ddarluniau, rhai ohonynt mewn lliw, o arfbeisiau teuluoedd uchelwrol Cymru, ffaith sy'n dyst i ddiddordeb y bardd mewn herodraeth ac achau.

Mae'n bosibl iddi gael ei llunio er anrhydedd i'r Arglwydd William Herbert (m. 1469), sefydlydd teulu'r Herbertiaid, gan mai awdl iddo a geir ar ddechrau'r gyfrol, gydag awdl arall i'w frawd Rhisiart yn ei dilyn.

Ni cheir unrhyw gerdd y gellir ei dyddio i'r 1480au yn y casgliad. Mae'r cerddi diweddaraf y gellir eu dyddio yn perthyn i ddiwedd y 1470au, ac mae'n deg casglu fod y llawysgrif wedi'i gorffen tua'r adeg honno.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995). Rhagymadrodd, t. xxviii.
  • E. D. Jones (gol.), Gwaith Lewis Glyn Cothi: y Gyfrol Gyntaf (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Testun llawysgrif Peniarth 109 yn llaw y bardd ei hun, yn yr orgraff wreiddiol. (Ni chafwyd ail gyfrol).