Ian Fry

Oddi ar Wicipedia
Ian Fry
DinasyddiaethTwfalw Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Mae Ian Fry yn arbenigwr mewn cyfraith a pholisi amgylcheddol rhyngwladol. Bu'n ganolbwyntio'n bennaf ar bolisïau lliniaru a cholled a difrod sy'n gysylltiedig â Chytundeb Paris, Cytundeb Kyoto ac offerynnau cysylltiedig. Yn 2023 roedd yn parhau yn ei waith fel Rapporteur Arbennig ar hawliau dynol a newid hinsawdd.

Bu Fry yn gweithio i lywodraeth Twfalw am dros 21 mlynedd a chafodd ei benodi'n Llysgennad Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd 2015-2019.[1] Mae'n darlithio'n rhan-amser yn Ysgol yr Amgylchedd a Chymdeithas Fenner ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia gan arbenigo mewn Polisi Amgylcheddol Rhyngwladol a Chyfraith Amgylcheddol.

Ledled y byd, mae hawliau dynol yn cael eu heffeithio'n negyddol a'u sathru o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fywyd, iechyd, bwyd, datblygiad, hunanbenderfyniad, dŵr a glanweithdra, gwaith, tai digonol a rhyddid rhag trais, camfanteisio rhywiol, masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth. Mae anghyfiawnder enfawr yn cael ei amlygu gan economïau datblygedig yn erbyn y tlotaf a'r lleiaf abl i ymdopi. Mae diffyg gweithredu gan economïau datblygedig a chorfforaethau mawr i gymryd cyfrifoldeb am leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol wedi arwain at alw am ‘iawndal hinsawdd’ am golledion. Mae aelodau'r G20 er enghraifft, yn cyfrif am 78 y cant o allyriadau dros y degawd diwethaf.[2]

Nododd llefarydd ar ran Canolfan Cyfraith Amgylcheddol Ryngwladol 'Mae wedi cefnogi dulliau gweithredu ar yr hinsawdd sy’n seiliedig ar hawliau dynol yn barhaus, gan gyfrannu at weithredu hinsawdd mwy teg ac uchelgeisiol a chwarae rhan flaenllaw wrth amddiffyn cymunedau rhag effeithiau mecanweithiau masnachu carbon niweidiol'.[3]


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ohchr.org; gan Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol; adalwyd 18 Mai 2023
  2. [1] reliefweb.int; Nodwyd hyn yn y Saesneg: Throughout the world, human rights are being negatively impacted and violated as a consequence of climate change. This includes the right to life, health, food, development, self-determination, water and sanitation, work, adequate housing and freedom from violence, sexual exploitation, trafficking and slavery. There is an enormous injustice being manifested by developed economies against the poorest and least able to cope. Inaction by developed economies and major corporations to take responsibility for drastically reducing their greenhouse gas emissions has led to demands for ‘climate reparations’ for losses incurred. The G20 members for instance, account for 78 per cent of emissions over the last decade. ar 21 Hydref 22, yn ei anerchiad i Gymanfa Gyffredinol y CU yn Efrog Newydd.
  3. ciel.org; teitl: CIEL Welcomes Dr. Ian Fry as New Special Rapporteur on Human Rights and Climate Change; adalwyd 16 Mai 2023.