Bioamrywiaeth a hawliau dynol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolegwyddor Edit this on Wikidata
Rhan oBioamrywiaeth, hawliau dynol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2010s Edit this on Wikidata

Egwyddor sy'n cysylltu cyfoeth amrywiaeth natur (neu 'bioamrywiaeth') gyda hawliau dynol yw Bioamrywiaeth a hawliau dynol', a ddaeth i'r amlwg yn y 2010au. Y cwestiwn a ofynir yw: os na all y Ddaear gynnal bywyd planhigion neu anifeiliaid, sut y gallai gynnal bywyd dynol? Mae'n ffaith na chysylltwyd bioamrywiaeth gyda hawliau dynol gan wleidyddion mawr y byd hyd at y 2010au hwyr, ac iddynt, felly, anghofio ein bod fel dynoliaeth yn ddibynol ar gyfoeth amrywiaeth byd natur.[1] Mae cyfoeth o fioamrywiaeth, a digonedd ohono, yn hanfodol ar gyfer cynnal yr ecosystemau sy'n sail i'r biosffer. Darpara amgylchedd iach mwy o wytnwch i fygythiadau fel pridd yn troi'n anialwch, sychder a newyn.

Daeth y cysylltiad hwn - a'r egwyddor hon -i'r amlwg yn gyntaf yn dilyn cyhoeddiad adroddiad (A/HRC/34/49) gan gyn-Rapporteur Arbennig Mr. John H. Knox i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn 2017. Mae'r adroddiad hwn yn archwilio rhwymedigaethau yr hawliau dynol sy'n ymwneud â chadwraeth a defnydd cynaliadwy o amrywiaeth fiolegol (sef 'bioamrywiaeth'); deuir i 3 chanlyniad pwysig:

  1. Mae'n gymorth i egluro bod colli bioamrywiaeth hefyd yn tanseilio y mwynhad llawno'n hawliau dynol;
  2. Yn cynyddu'r angen brys i amddiffyn bioamrywiaeth;
  3. Yn helpu i hyrwyddo cydlyniad polisi a chyfreithlondeb wrth warchod a defnyddio bioamrywiaeth yn gynaliadwy.[2]

Disgrifir pwysigrwydd yr ecosystemau hyn, a bioamrywiaeth er mwyn mwynhau hawliau dynol yn llawn. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae hawliau dynol a phlaned iach yn ddibynnol ar ei gilydd.[3] Ategir y cysylltiad gyda hawliau dynol gan adroddiad melin drafod yr Undeb Ewropeaidd yn 2020, sef Bioamrywiaeth fel Hawl Dynol, a'i oblygiadau ar gyfer Gweithredu Allanol gan yr UE a gyhoeddwyd ar 06-04-2020.[4]

Yn ol y Cenhedloedd Unedig, mae'r pandemig COVID-19 cyfredol wedi tynnu sylw at ba mor hanfodol yw iechyd bioamrywiaeth y Ddaear, a sefydlogrwydd yr ecosystem i'r byd.

“Oherwydd natur gydgysylltiedig holl fywyd ar y blaned hon, mae fframwaith bioamrywiaeth uchelgeisiol ar ôl 2020 yn bwysig iawn, ac rydym wedi ymrwymo i wneud i hyn ddigwydd.” Datganiad UNEP ar COVID-19[5]

Rhaid i bartïon i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) y CU fabwysiadu yr hyn a elwir yn "fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang" ar ôl 2020.[6] Ystyrir y bydd y fframwaith yn gam tuag at Weledigaeth 2050 y Cenhedloedd Unedig o "Fyw mewn cytgord â natur" lle :

"Erbyn 2050, mae bioamrywiaeth yn cael ei werthfawrogi, ei warchod, ei adfer a'i ddefnyddio'n ddoeth, gan gynnal gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a sicrhau buddion yn hanfodol i bawb ”.

Yr Undeb Ewropeaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ebrill 2020, cyhoeddwyd astudiaeth melin drafod yr Undeb Ewropeaidd, sef Bioamrywiaeth fel Hawl Dynol, a'i oblygiadau ar gyfer Gweithredu Allanol gan yr UE sy'n cadarnhau'r cysylltiad gyda hawliau dynol. Yn 2020, cyhoeddwyd adroddiad melin dra[7]

Mae'r astudiaeth hon yn darparu dadansoddiad ar fioamrywiaeth fel hawl ddynol i lywio gwaith Senedd Ewrop ar y ffordd orau i weithredu allanol yr Undeb Ewropeaidd gyfrannu at ddull cyfannol sy'n seiliedig ar hawliau dynol gyda'r nod o atal colli a diraddio bioamrywiaeth.

Ar ôl trosolwg byr o ddata empirig ynghylch effeithiau colli bioamrywiaeth ar hawliau dynol a chyfyngiadau'r ffynonellau sydd ar gael, mae'r astudiaeth yn asesu statws a chynnwys y rhwymedigaethau presennol ar fioamrywiaeth a hawliau dynol. Yna mae’r astudiaeth yn asesu effaith gyfreithiol a gwleidyddol mentrau presennol (potensial) ar lefelau rhyngwladol a rhanbarthol i’r UE fynd i’r afael â bioamrywiaeth a hawliau dynol. Yn ogystal, mae'r astudiaeth yn asesu offer gweithredu allanol yr UE sydd wedi mynd i'r afael â dimensiynau bioamrywiaeth hawliau dynol neu a allai fynd i'r afael â hwy. Mae'n darparu cyfres o argymhellion ar sut y gall Senedd Ewrop a sefydliadau eraill yr UE gefnogi datblygiad dull cyfannol a hawliau dynol sy'n seiliedig ar gadwraeth a defnydd cynaliadwy o fioamrywiaeth mewn gweithredu allanol, gan gynnwys fel rhan o'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. humanrights.blogs.sas.ac.uk; Biodiversity and Human Rights: an intrinsic connection (18 Mai 2017) gan Estefania Monaco; adalwyd 22 Ebrill 2021.
  2. www.ohchr.org; adalwyd 21 Ebrill 2021.
  3. www.unep.org; Incorporating human rights into the world’s biodiversity agenda) (27 Ebrill 2020); adalwyd 22 Ebrill 2021.
  4. europarl.europa.eu; 'Bioamrywiaeth fel Hawl Dynol, a'i oblygiadau ar gyfer Gweithredu Allanol gan yr UE' (6 Ebrill 2020); adalwyd 22 Ebrill 2021.
  5. www.unep.org; Incorporating human rights into the world’s biodiversity agenda (27 Ebrill 2020); adalwyd 22 Ebrill 2021.
  6. www.cbd.int; adalwyd 22 Ebrill 2021.
  7. europarl.europa.eu; 'Bioamrywiaeth fel Hawl Dynol, a'i oblygiadau ar gyfer Gweithredu Allanol gan yr UE' (6 Ebrill 2020); adalwyd 22 Ebrill 2021.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • www.ohchr.org ffeil pdf HUMAN RIGHTS AND BIODIVERSITY - KEY MESSAGES ON HUMAN RIGHTS AND BIODIVERSITY