Rheolaeth gyfreithiol yr amgylchedd

Oddi ar Wicipedia

Mae rheolaeth gyfreithiol yr amgylchedd (Environmental Rule of Law) yn gysyniad haniaethol ac yn astudiaeth cyfreithiol o'r amgylchedd. Mae'n gysyniad ffuglenol, bron iwtopaidd sy'n awgrymu trefn gyfreithiol, sydd a'i pholisïau cymdeithasol, economaidd a chyfreithiol yn galluogi sefyllfa o gynaliadwyedd, wrth chwilio am gytgord rhwng ymelwa ar adnoddau naturiol, parch at urddas pobl a chadwraeth yr amgylchedd.[1]

Mae gan bob gwlad o leiaf un gyfraith amgylcheddol er mwyn gwella'r amgylchedd ac atal newid hinaswdd. Mae'r rhan fwyaf o wledydd wedi gwneud hyn bellach, ac i raddau amrywiol, mae pob gwlad wedi grymuso adranau amgylcheddol o fewn eu llywodraeth. Ac mewn llawer o achosion, mae'r cyfreithiau a'r sefydliadau hyn wedi helpu i arafu neu wrthdroi diraddio amgylcheddol. I gyd-fynd â'r cynnydd hwn, fodd bynnag, mae cydnabyddiaeth gynyddol bod bwlch gweithredu sylweddol wedi agor — mewn cenhedloedd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu fel ei gilydd — rhwng gofynion cyfreithiau amgylcheddol mewn print a'u gweithredu a'u gorfodi. Mae rheolaeth gyfreithiol o'r amgylchedd (hy pa bryd mae'r deddfau hyn yn cael eu deall, eu parchu, a ph bryd mae pobl yn mwynhau buddion o ddiogelu'r amgylchedd) yn allweddol i fynd i'r afael â'r bwlch gweithredu hwn rhwng deddfau ar bapur a'u gweithredu.[2]

Mae cyflawni 'rheolaeth gyfreithiol yr amgylchedd' yn awgrymu gosod mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol ar draws y blaned, gyda chymdeithas fwy ymgysylltiol a mwy o gyfraniad gan y Wladwriaeth, cwmnïau a'r gymuned. Er bod ein deddfwriaeth amgylcheddol yn cael ei hystyried yn eithaf datblygedig gan rai, mae ynddi lawer o ddiffygion.[3] Yn nysgeidiaeth yr Athro Boaventura de Sousa Santos, mae rheolaeth gyfreithiol yr amgylchedd, mewn gwirionedd, yn iwtopia ddemocrataidd, oherwydd mae'r trawsnewid y mae'n anelu ato yn rhagdybio y bydd realiti yn cael ei ail-greu ac ymarfer dinasyddiaeth unigol a chyfunol yn radical, gan gynnwys Siarter hawliau dynol newydd yng nghyd destun byd natur.[4][5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]