Effaith mwyngloddio ar yr amgylchedd

Oddi ar Wicipedia
Effaith mwyngloddio ar yr amgylchedd
Draeniad mwyngloddiau asid ym Mhortiwgal
Enghraifft o'r canlynoleffaith amgylcheddol Edit this on Wikidata
Matheffaith amgylcheddol, public pollution Edit this on Wikidata

Gall effaith mwyngloddio ar yr amgylchedd ddigwydd ar raddfa leol, ranbarthol a byd-eang trwy arferion mwyngloddio uniongyrchol ac anuniongyrchol. Gall yr effeithiau arwain at erydiad, sudd-dyllau, colli bioamrywiaeth, neu halogi pridd, dŵr daear, a dŵr wyneb gan y cemegau a ollyngir o brosesau mwyngloddio. Mae'r prosesau hyn hefyd yn effeithio ar yr atmosffer o allyriadau carbon sy'n effeithio ar ansawdd iechyd dynol a bioamrywiaeth.[1]

Efallai y bydd rhai dulliau mwyngloddio (cloddio lithiwm, mwyngloddio ffosffad, mwyngloddio glo, mwyngloddio copaon mynyddoedd, a mwyngloddio tywod) yn cael effeithiau amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus mor sylweddol fel ei bod yn ofynnol i gwmnïau mwyngloddio mewn rhai gwledydd ddilyn codau amgylcheddol er mwyn sicrhau bod yr ardal a fwyngloddiwyd yn dychwelyd i'w chyflwr gwreiddiol.

Erydiad[golygu | golygu cod]

Gall erydiad llethrau agored, tomenni gwastraff y mwyngloddiau, argaeau dal isgynnyrch (tailings dams) a siltio o ganlyniad i ddraenio, nentydd ac afonydd effeithio'n sylweddol yr ardaloedd cyfagos; enghraifft o hyn yw Mwynglawdd Ok Tedi yn Papua Gini Newydd.[2] Gall erydiad pridd leihau faint o ddŵr sydd ar gael ar gyfer twf planhigion, gan arwain at ostyngiad yn y boblogaeth yn yr ecosystem planhigion.[3] Mae erydiad pridd yn cael ei achosi'n bennaf gan ormod o law a diffyg rheolaeth pridd.[4] Mewn diffeithwch gall mwyngloddio achosi dinistr ar ecosystemau a chynefinoedd, ac mewn ardaloedd ffermio gall darfu ar neu ddinistrio tir pori cynhyrchiol a thir cnydau.[5]

Sudd-dyllau (llyncdyllau)[golygu | golygu cod]

Tŷ yn Gladbeck, yr Almaen, gydag holltau a achoswyd gan erydiad disgyrchiant oherwydd mwyngloddio

Achosir sudd-dyllau ar neu gerllaw safle mwyngloddio fel arfer gan do'r mwynglawdd yn chwalu oherwydd propio gwael neu gyfnod o amser heb i'r ogof neu't tyllau a suddwyd i'r Ddaear gael ei archwilio a'i gryfhau.[6] Gall y gorlwyth ar safle'r mwynglawdd ddatblygu ceudodau (mannau gwag) yn yr isbridd neu'r graig, a all fewnlenwi â thywod a phridd o'r strata uwchben. Mae'r ceudodau hyn yn aml yn cwympo, gan ffurfio sudd-dyllau ar yr wyneb. Gall hyn fod yn ddifrifol beryglus i fywyd ac eiddo.[7] Gellir atal y broblem trwy ddylunio seilwaith solad fel cynheiliaid (props) mwyngloddio cryfach ac adeiladu waliau gwell. Gellir llenwi'r ogofau, neu growtio'r waliau i sefydlogi'r gweithfeydd tanddaearol segur.

Llygredd dŵr[golygu | golygu cod]

Gall mwyngloddio lygru'r dŵr wyneb a'r dŵr daear o amgylch. Heb gynllunio'n briodol ymlaen llaw, gall crynodiadau annaturiol o uchel o gemegau, fel arsenig, asid sylffwrig, ac arian bywi ledaenu dros ardal sylweddol o ddŵr wyneb neu ddŵr dan yr wyneb.[8] Mae llawer iawn o ddŵr a ddefnyddir ar gyfer draenio ac oeri mwyngloddiau, echdynnu a phrosesau eraill yn cynyddu'r potensial i'r cemegau hyn halogi'r dŵr. Gan fod mwyngloddio yn cynhyrchu llawer iawn o ddŵr gwastraff, mae'r dulliau gwaredu yn gyfyngedig oherwydd yr halogion yn y dŵr gwastraff. Gall dŵr ffo sy'n cynnwys y cemegau hyn arwain at ddinistrio'r llystyfiant o amgylch.

Llifo neu bwmpio'r dŵr ffo i'r dŵr wyneb neu mewn coedwigoedd yw'r opsiwn gwaethaf. Felly, mae gwaredu'r isgynnyrch mewn argaeau tanddaearol yn cael ei ystyried yn opsiwn gwell (os caiff y gwastraff ei bwmpio i ddyfnder mawr).[9] Mae storio tir ac ail-lenwi'r pwll ar ôl iddo gael ei ddisbyddu hyd yn oed yn well, os nad oes angen clirio coedwigoedd ar gyfer storio'r malurion. Mae halogiad y gwahanfeydd dŵr o ganlyniad i ollyngiad cemegau hefyd yn cael effaith ar iechyd y boblogaeth leol.[10]

Mewn mwyngloddiau sydd wedi'u rheoleiddio'n dda, mae hydrolegwyr a daearegwyr yn cymryd mesuriadau gofalus o ddŵr er mwyn atal unrhyw fath o halogiad dŵr a allai gael ei achosi gan weithwyr y fwynglawdd. Mae lleihau dirywiad amgylcheddol yn cael ei orfodi mewn arferion mwyngloddio Americanaidd gan gyfraith ffederal a gwladwriaethol, trwy gyfyngu ar reolwyr y pyllau i fodloni safonau ar gyfer amddiffyn purdeb dŵr wyneb a daear rhag halogiad.[11] Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio prosesau echdynnu diwenwyn fel bio trwytholchi.[12]

Llygredd aer[golygu | golygu cod]

Mae llygryddion aer yn cael effaith negyddol ar dyfiant planhigion, yn bennaf trwy ymyrryd â chroniad adnoddau. Pan fo dail mewn cysylltiad agos â'r atmosffer, mae llawer o lygryddion aer, megis O3 a NOx, yn effeithio ar swyddogaeth metabolig y dail ac yn ymyrryd â gosodiad carbon net gan y canopi planhigion. Mae llygryddion aer sy'n cael eu dyddodi gyntaf ar y pridd, fel metelau trwm, yn effeithio'n gyntaf ar weithrediad gwreiddiau ac yn ymyrryd â gallu'r planhigyn i gymryd mwynau da o'r pridd. Bydd y gostyngiadau hyn yn effeithio ar dwf planhigion trwy newidiadau yn y modd y mae'r planhigyn yn dyranu adnoddau i'r strwythurau amrywiol. Pan fydd straen llygredd aer yn cyd-ddigwydd â straen arall, ee straen dŵr, bydd y canlyniad ar dyfiant yn dibynnu ar ryngweithiad cymhleth prosesau o fewn y planhigyn. Mewn amaeth-ecosystemau, gall y newidiadau hyn fod yn amlwg mewn llai o gynnyrch economaidd.[13]

Draeniad craig asid[golygu | golygu cod]

Mae mwyngloddio o dan yr wyneb yn aml yn mynd yn ei flaen o dan y lefel trwythiad (water table), felly rhaid pwmpio dŵr allan o'r pwll yn gyson er mwyn atal llifogydd. Pan fydd pwll yn cael ei adael, ar ddiwedd ei oes, mae'r pwmpio'n dod i ben, ac mae dŵr yn gorlifo'r pwll. Y dŵr hwn yw'r cam cychwynnol yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd draenio creigiau asid.

Mewn rhai amgylcheddau mae draeniad craig asidig yn digwydd yn naturiol, fel rhan o'r broses hindreulio creigiau, ond caiff ei waethygu gan fwyngloddio ar raddfa fawr, yn enwedig o fewn creigiau sy'n cynnwys lefel uchel o fwynau sylffid. Gall ardaloedd lle mae'r ddaear wedi'i haflonyddu (ee safleoedd adeiladu, israniadau, a choridorau trafnidiaeth) greu draeniad craig asidig. Mewn llawer o ardaloedd, gall yr hylif sy'n draenio o stociau glo, cyfleusterau trin glo, golchfeydd glo, a thomenni gwastraff glo fod yn asidig iawn, ac mewn achosion o'r fath caiff ei drin fel draeniad mwyngloddiau asid (AMD).

Y pum prif dechnoleg a ddefnyddir i fonitro a rheoli llif dŵr mewn safleoedd mwyngloddio yw

  • systemau dargyfeirio,
  • pyllau cyfyngu,
  • systemau pwmpio dŵr daear,
  • systemau draenio o dan yr wyneb, a
  • rhwystrau o dan yr wyneb.

Yn achos draeniad mwyngloddiau asid (AMD), mae dŵr halogedig fel arfer yn cael ei bwmpio i gyfleuster trin sy'n niwtraleiddio'r halogion.[14] Canfu adolygiad o ddatganiadau effaith amgylcheddol yn 2006 fod "rhagfynegiadau ansawdd dŵr a wnaed i raddau helaeth yn tanamcangyfrif yr effeithiau gwirioneddol ar ddŵr daear a dŵr wyneb".[15]

Metelau trwm[golygu | golygu cod]

Mae metelau trwm yn elfennau sy'n digwydd yn naturiol a sydd â phwysau atomig uchel a dwysedd o leiaf 5 gwaith yn fwy na dŵr. Mae eu cymwysiadau diwydiannol, domestig, amaethyddol, meddygol a thechnolegol lluosog wedi arwain lefel uchel ohonynt yn yr amgylchedd; mae hyn yn achosi pryder mawr ynghylch eu heffaith posibl ar iechyd dynol a'r amgylchedd.[16]

Mwynglawdd Malartig - Osisko
Mwyngloddio lithiwm yn Salar del Hombre Muerto, yr Ariannin.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Effaith amgylcheddol mwyngloddio môr dwfn
  • Effeithiau amgylcheddol mwyngloddio placer
  • Effaith amgylcheddol mwyngloddio aur
  • Effaith amgylcheddol mwyngloddio sinc
  • Rhestr o faterion amgylcheddol
  • Appalachian Voices, grŵp lobïo yn yr Unol Daleithiau
  • Mwyngloddio
  • Adnodd naturiol

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Laura J., Sonter (December 5, 2018). "Mining and biodiversity: key issues and research needs in conservation science". Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences 285 (1892): 20181926. doi:10.1098/rspb.2018.1926. PMC 6283941. PMID 30518573. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6283941.
  2. Rose, Calvin W.; Yu, Bofu; Ward, Douglas P.; Saxton, Nina E.; Olley, Jon M.; Tews, Errol K. (2014-05-24). "The erosive growth of hillside gullies". Earth Surface Processes and Landforms 39 (15): 1989–2001. Bibcode 2014ESPL...39.1989R. doi:10.1002/esp.3593. ISSN 0197-9337. http://dx.doi.org/10.1002/esp.3593.
  3. Moreno-de las Heras, M. (March 2009). "Development of soil physical structure and biological functionality in mining spoils affected by soil erosion in a Mediterranean-Continental environment" (yn en). Geoderma 149 (3–4): 249–256. Bibcode 2009Geode.149..249M. doi:10.1016/j.geoderma.2008.12.003. https://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S0016706108003601.
  4. Wantzen, Karl; Mol, Jan (2013-09-30). "Soil Erosion from Agriculture and Mining: A Threat to Tropical Stream Ecosystems". Agriculture 3 (4): 660–683. doi:10.3390/agriculture3040660. ISSN 2077-0472.
  5. Zhang, Ling; Wang, Jinman; Bai, Zhongke; Lv, Chunjuan (2015-05-01). "Effects of vegetation on runoff and soil erosion on reclaimed land in an opencast coal-mine dump in a loess area" (yn en). CATENA 128: 44–53. doi:10.1016/j.catena.2015.01.016. ISSN 0341-8162. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0341816215000211.
  6. Singh, Kalendra B. (1997). "Sinkhole subsidence due to mining". Geotechnical & Geological Engineering 15 (4): 327–341. doi:10.1007/BF00880712.
  7. Singh, Kalendra B.; Dhar, Bharat B. (December 1997). "Sinkhole subsidence due to mining". Geotechnical and Geological Engineering 15 (4): 327–341. doi:10.1007/BF00880712.
  8. "January 2009". ngm.nationalgeographic.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-15. Cyrchwyd 2023-04-22.
  9. "January 2009". ngm.nationalgeographic.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-01. Cyrchwyd 2023-04-22.
  10. "Mining and Water Quality". www.usgs.gov. Cyrchwyd 2020-04-21.
  11. The principal federal laws are:
  12. Asante, Ramseyer (March 29, 2017). "Environmental Impact of Mining". Global Congress on Process Safety.
  13. Development, Office of Research &. "PLANT RESPONSE TO AIR POLLUTION". cfpub.epa.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-31.
  14. "Mining conference 2008". itech.fgcu.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-17. Cyrchwyd 2023-04-22.
  15. Maest et al. 2006. Predicted Versus Actual Water Quality at Hardrock Mine Sites: Effect of Inherent Geochemical and Hydrologic Characteristics.
  16. Tchounwou, Paul B.; Yedjou, Clement G.; Patlolla, Anita K.; Sutton, Dwayne J. (2012), Luch, Andreas, ed., "Heavy Metal Toxicity and the Environment" (yn en), Molecular, Clinical and Environmental Toxicology (Basel: Springer Basel) 101: 133–164, doi:10.1007/978-3-7643-8340-4_6, ISBN 978-3-7643-8339-8, PMC 4144270, PMID 22945569