Hywel Hughes (Bogotá)
Hywel Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ebrill 1886 Yr Wyddgrug |
Bu farw | 19 Mawrth 1970 Bogotá |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ranshwr, marchnatwr, tyfwr coffi |
Miliwnydd o Langollen, Sir Ddinbych, oedd Hywel Stanford Hughes (24 Ebrill 1886 – 19 Mawrth 1970).[1] Gadawodd Gymru ac ymsefydlu yn Bogotá, prifddinas Colombia. Gwnaeth ei arian drwy allforio coffi, nwyddau eraill, olew a magu gwartheg ar ddwy fferm enfawr. Bu'n gymwynaswr i Blaid Cymru gan gyfrannu'n hael iddi, yn ariannol. Ar ei dir ef - ar gaeau Plas Ty'n Dŵr, ei gartref ger Llangollen - y cynhaliwyd gwersyll cyntaf yr Urdd yn 1929.
Magwraeth a theulu
[golygu | golygu cod]Ganwyd Hywel Hughes yn yr Wyddgrug ar 24 Ebrill 1886, yn unig fab i Owen Hughes, gweinidog Wesleaidd, a'i wraig, Elizabeth merch fferm y "Gefeilie", Llandysilio-yn-Iâl. Roedd ganddynt dair merch hŷn na Hywel. Bu'r tair yn flaenllaw iawn gyda'r swffragetiaid: Vyrnwy, Morfydd a Blodwen, ac roedd y tair yn gyfeillion mynwes i Emmeline Pankhurst. Roedd Vyrnwy yn newyddiadurwraig a bu'n golofnydd i'r Daily Mail dan y llysenw 'Anne Temple'. Addysgwyd Hywel yn ysgolion Grove Park, Wrecsam, a Kingswood, Caerfaddon, sefydliad Wesleaidd. Wedi iddo adael yr ysgol prentisiodd gyda milfeddyg yn Llangollen.
Bogotá
[golygu | golygu cod]Cyfoeth
[golygu | golygu cod]Roedd dau o ewythrod Hywel Hughes wedi symud i Colombia, De America, ac yn 1907 hwyliodd yntau atyn nhw. Roeddent ill dau wedi sefydlu cwmni masnach a oedd yn mewnforio nwyddau. Ymegniodd Hywel yntau yn y gwaith a chyn hir roedd yn berchennog 27,000 o erwau yn rhanbarth Honda, ac arni datblygodd ransh er mwyn magu anifeiliaid. Cychwynnodd allforio coffi a sefydlodd swyddfeydd yn Efrog Newydd a mannau eraill. Pan ddaeth y dirwasgiad economaidd byd-eang yn 1929-33 chwalwyd ei deyrnas, ond drwy ddyfalbarhad, lledodd ei ddiddordebau i feysydd peiriannau amaethyddol, olew, a magu gwartheg. Cefnodd ar allforio coffi. Cyn hir roedd wedi prynu ransh, 'Poponte'.[2]
Herwgipio
[golygu | golygu cod]Ym mis Ionawr 1980 cafodd ei ferch Teleri Jones a'i mab Owen eu herwgipio gan herwfilwyr yr Ejército de Liberación Nacional.[3] Cawsant eu dal yn y jwngl am saith mis a hanner.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hughes, Hywel Stanford (1886–1970). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2014.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 19 Mawrth 2017.
- ↑ (Saesneg) Britons snatched in error. 'The Glasgow Herald' (9 Ionawr 1980). Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2014.
- ↑ (Saesneg) Jones of Columbia embraces heartland. WalesOnline (23 Awst 2004). Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2014.