Plas Ty'n Dŵr

Oddi ar Wicipedia
Plas Ty'n Dŵr
Mathplasty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1866 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Adeilad rhestredig Gradd II* ger Llangollen yn Sir Ddinbych, yw Plas Tŷ'n Dŵr hefyd Neuadd Ty'n Dŵr.[1] Ar droad a dechrau'r 20g, dyma gartref y biliwynydd Americanaidd, Hywel Hughes (Bogotá). Yn ystod y cyfnod hwn, yn 1929, y cynhaliwyd Gwersyll cyntaf yr Urdd, ar dir y plas. Gadawodd Hughes Gymru ac ymsefydlu yn Bogotá, prifddinas Colombia. Gwnaeth ei arian drwy allforio coffi, olew a nwyddau eraill, a magu gwartheg ar ddwy ransh enfawr.

Adeiladwyd yr adeilad presennol rhwng 1866-70 ar gyfer John Dicken ar safle hen dŷ cynharach. Ariannwyd y plasty newydd, o bosibl trwy werthu rhannau o'r ystâd gan berthynas iddo, sef Mr G. Ll. Dicken. Gwerthwyd rhannau pellach o'r ystâd mewn arwerthiant ar ddechrau'r 20g.[2] Cafodd llawer gan gynnwys Plas Ty'n Dŵr ei hun eu tynnu'n ôl ddwywaith ym Mehefin 1902 ac eilwaith yng Ngorffennaf 1903.[3][4][5]

Yn 2007 prynwyd Plas Ty'n Dŵr gan Brifysgol Central Lancaster.[6] Defnyddiwyd y safle i ddarparu cyrsiau sy'n ymwneud â chwaraeon, twristiaeth a'r awyr agored, tan fis Mehefin 2014.[7] Derbyniodd statws Gradd II* oherwydd y gwaith mewnol, cain.

Pensaerniaeth[golygu | golygu cod]

Mae gan y plasty arddull du a gwyn Tuduraidd; cynllun hollol anghymesur ac afreolaidd. Mae iddo ddau lawr ac atig; ceir brics coch gyda dresin a thalynau cerrig rhydd. Mae'r llawr cyntaf y prif ddrychiadau o bren, gan fwyaf, gydag addurniadau panelog, to llechi a phatrwm serol i'r simnai brics coch.

Derbyniodd statws Gradd II* oherwydd y gwaith mewnol, cain.

Yr enw[golygu | golygu cod]

Mae'r enw'n ymddangos ar fapiau ac mewn papurau newydd hyd at ddechrau'r 20g ac yng nghynllun llawr 1903 fel Ty'n Dwfr. Fel adeilad rhestredig, rhaid gwarchod holl nodweddion pensaernïol Plas Ty'n Dŵr, yn ôl y gyfraith, ond nid oes unrhyw fodd y gellir gwarchod yr enw, ac fe'i troswyd i'r Saesneg gyda'r sillafiad 'Ty'n Dwr Hall'. Gan fod perchnogaeth Neuadd Ty'n Dŵr wedi newid dros ei hanes, felly hefyd mae'n enw Cymraeg.[8] [9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-1258-tyn-dwr-tyn-dwr-road-pengwern-vale-llangol#.VoNgIlmExVI. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015. Unknown parameter |site= ignored (help); Missing or empty |title= (help)
  2. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 24 Ebrill 2024.
  3. "LLANGOLLENIMPROVEMENTSI - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1864-01-16. hdl:10107/4578985. Cyrchwyd 2015-12-30.
  4. "WelshPropertyMarket - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria". W. H. Evans. 1902-06-06. hdl:10107/3879540. Cyrchwyd 2015-12-30.
  5. "Advertising - The Chester Courant and Advertiser for North Wales". James Albert Birchall. 1903-07-29. hdl:10107/3662940. Cyrchwyd 2015-12-30.
  6. lep.co.uk. Lancaster Evening Post. 24 Ebrill 2007 http://www.lep.co.uk/news/education/uclan-expands-into-wales-with-youth-hostel-purchase-1-126677. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015. Missing or empty |title= (help)
  7. "University to move out of Tyn Dwr Hall". 3 Mawrth 2014. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
  8. . Cymru Hanesyddol (Historic Wales) http://historicwales.gov.uk/#zoom=7&lat=341223.76781&lon=323191.16665&layers=BFFFFFFTFTTT. Missing or empty |title= (help)
  9. Ty'n Dŵr Hall (12 Rhagfyr 2015). "Trydariad gan @TynDwrHall". Event occurs at Twitter. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.