Hanes Affrica

Oddi ar Wicipedia

Dechreua hanes Affrica gyda'r bodau dynol cyntaf a'u rhagflaenwyr ac felly ar sawl ystyr gellid ystyried cyfandir Affrica fel crud y ddynolryw. Mae wedi bod yn gartref i sawl gwareiddiad a diwylliant dros y canrifoedd.

Cynhanes[golygu | golygu cod]

Mae Affrica yn gartref i'r tir cyfannedd hynaf ar y ddaear, ac mae'r hil ddynol yn tarddu o'r cyfandir yma. Yn ystod blynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif, darganfu anthropolegwyr nifer o ffosilau a thystiolaeth o weithgaredd ddynol, mor gynnar â 7 miliwn o flynyddoedd yn ôl, efallai. Darganfu'r teulu Leakey enwog (sydd â chysylltiadau â Phrydain ag Affrica), gweddillion ffosilaidd nifer o rywogaethau o fodau dynol cynnar, oedd yn debyg i epaod, megis Australopithecus afarensis (wedi'i ddyddio'n radiometregol i 3.9-3.0 miliwn o flynyddoedd CC), Paranthropus boisei (2.3-1.4 miliwn CC) a Homo ergaster (c. 600,000-1.9 miliwn CC). Credir eu bod wedi esblygu'n ddyn modern. Mae'r rhain yn ddarganfyddiadau pwysig yn astudiaeth esblygiad dynol.

Gwareiddiaid hynafol[golygu | golygu cod]

Eglwys Arch y Cyfamod yn Axum, Ethiopia

Datblygodd Affrica nifer o wareiddiaid unigryw, er enghraifft gwareiddiad yr Hen Aifft a Kush, Ethiopia, Simbabwe Fawr, ymerodraeth Mali a theyrnasoedd y Maghreb.

Cyfnod Modern[golygu | golygu cod]

Yn 1482, sefydlodd y Portiwgaliaid y gyntaf o nifer o orsafoedd masnachu ar hyd arfordir Gini, yn Elmina. Y prif nwyddau a fasnachwyd oedd caethweision, aur, ifori a sbeisiau. Cafodd darganfyddiad America yn 1492 ei ddilyn gan ddatblygiad mawr yn y fasnach caethweision.

Ond ar yr un pryd roedd caethwasiaeth yn dod i ben yn Ewrop, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y pweroedd ymerodraethol Ewropeaidd "Ymgiprys am Affrica". Meddiannon nhw ran fwyaf o'r cyfandir, a chreu nifer o wladwriaethau a chenhedloedd trefedigaethol, gan adael ddim ond dwy genedl annibynnol: Liberia, gwladfa'r Americanwyr Duon, ac Ethiopia. Parhaodd y feddiannaeth tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny, fe enillodd y gwladwriaethau trefedigaethol annibyniaeth yn raddol, ac erbyn hyn maent i gyd yn annibynnol.

Heddiw, mae Affrica'n gartref i dros 50 o wledydd annibynnol, ac mae gan bob un ond am ddau yr un ffiniau a luniwyd yn ystod oes gwladychiaeth Ewropeaidd.