Simbabwe Fawr

Oddi ar Wicipedia
Simbabwe Fawr
Mathadfeilion, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTeyrnas Simbabwe Edit this on Wikidata
SirMasvingo Province Edit this on Wikidata
GwladBaner Simbabwe Simbabwe
Arwynebedd722 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau20.27°S 30.933°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Rhan o Simbabwe Fawr

Simbabwe Fawr yw'r enw a roddir ar adfeilion dinas hynafol yn Affrica Ddeheuol (Simbabwe heddiw) a oedd ar un adeg yn brifddinas i ymerodraeth sylweddol a elwir yn Ymerodraeth Munhumutapa (hefyd 'Monomotapa' neu 'Mwene Mutapa'). O'i chanolfan yn Simbabwe Fawr, rheolai'r ymerodraeth hon diriogaeth eang sy'n gorwedd heddiw yn y gwledydd presennol Simbabwe (a enwir ar ôl y ddinas) a Mosambic. Roedd trigolion y ddinas yn masnachu ag Arabia ac efallai Asia trwy porthladdoedd fel Sofala, i'r de o ddelta Afon Zambezi.

Codwyd Simbabwe Fawr yn y cyfnod rhwng yr 11g a'r 15g. Amcangyfrifir fod tua 18,000 o bobl yn byw a gweithio yno ar un adeg. Adeiladau o feini mawr, rhai ohonyn nhw'n anferth, a geir ar wasgar ar safle eang sy'n cynnwys tua 1,800 erw o dir (7 km²). Cafwyd hyd i nifer o ddarnau o grochenwaith o darddiad Tsieineaidd, gwydr o darddiad tramor ac arian bath o'r gwledydd Arabaidd, sy'n awgrymu fod cyfoeth a grym Simbabwe a'i hymerodraeth yn seiledig ar reolaeth ar rwydwaith o lwybrau masnach yn arwain i ardordir Dwyrain Affrica lle byddai masnachwyr Arabaidd yn galw yn eu dhows.

Heddiw mae Simbabwe Fawr yn fath o gysegrfan genedlaethol yn Simbabwe, yn symbol o wareiddiad brodorol y wlad ac Affrica Ddeheuol cyn dyfodiad y trefedigaethwyr Ewropeaidd. Darganfuwyd y cerflun a elwir yn Aderyn Simbabwe, symbol genedlaethol Simbabwe, ar y safle. Mae safle archaeolegol Simbabwe Fawr ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Oriel[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]