Franklin D. Roosevelt
Franklin D. Roosevelt | |
---|---|
Ganwyd | Franklin Delano Roosevelt 30 Ionawr 1882 Hyde Park |
Bu farw | 12 Ebrill 1945 o gwaedlif ar yr ymennydd Warm Springs, Little White House |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, gwladweinydd, golffiwr, sgriptiwr |
Swydd | Arlywydd yr Unol Daleithiau, member of the State Senate of New York, Governor of New York, Assistant Secretary of the Navy, Governor-General of the Philippines, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau |
Taldra | 189 centimetr, 188 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | James Roosevelt |
Mam | Sara Roosevelt |
Priod | Eleanor Roosevelt |
Plant | Elliott Roosevelt, Franklin Delano Roosevelt Jr., John Aspinwall Roosevelt, Anna Roosevelt Halsted, James Roosevelt, Franklin Delano Roosevelt |
Perthnasau | Theodore Roosevelt |
Llinach | Roosevelt family |
Gwobr/au | Person y Flwyddyn Time, Person y Flwyddyn Time, Person y Flwyddyn Time, Marchod Uwch Groes Urdd Milwrol Wiliam, Medal Albert, Médaille militaire, Grand Cross of the Order of the Legion of Honour (Philippines), Urdd Milwrol William, Philippine Legion of Honor, American Philatelic Society Hall of Fame |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Franklin D. Roosevelt | |
Cyfnod yn y swydd 4 Mawrth 1933 – 12 Ebrill 1945 | |
Is-Arlywydd(ion) | John N. Garner (1933–1941) Henry A. Wallace (1941–1945) Harry S. Truman (1945) |
---|---|
Rhagflaenydd | Herbert Hoover |
Olynydd | Harry S. Truman |
Cyfnod yn y swydd 1 Ionawr 1929 – 31 Rhagfyr 1932 | |
Rhagflaenydd | Alfred E. Smith |
Olynydd | Herbert H. Lehman |
Geni |
32ain Arlywydd yr Unol Daleithiau oedd Franklin Delano Roosevelt neu FDR (30 Ionawr 1882 – 12 Ebrill 1945). Etholwyd i bedair tymor yn y swydd, rhwng 1933 a 1945: ef yw'r unig arlywydd i weinyddu mwy na dau dymor. Roedd yn berson canolog yn yr 20g yn ystod adeg o argyfwng economaidd byd-eang a Rhyfel Byd. Er iddo fod yn gyfrifol am arwain yr Undol Daleithiau yn ystod y Rhyfel, bu farw cyn i'r Rhyfel orffen a methodd a weld gwaddol ei fuddugoliaeth yng Nghynhadledd Potsdam a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 1945, na chwaith buddugoliaeth terfynol y Cynghreiriaid dros luoedd Siapan.
Salwch parlys
[golygu | golygu cod]Yn mis Awst 1921, tra roedd y teulu Roosevelt ar wyliau yn Campobello Island, New Brunswick, cafodd Roosevelt salwch. Credwyd ar y pryd mai polio oedd hi, ac arweiniodd at barlysu Roosevelt yn barhaol o'r wast i lawr. Am weddill ei fywyd, gwrthododd Roosevelt gredu fod yn barlys yn barhaol ac arbrofodd gyda amrywiaeth eang o therapïau gan gynnwys therapi dŵr, ac, ym 1926, prynodd gyrchfan yn Warm Springs, Georgia, lle sefydlodd ganolfan therapi dŵr ar gyfer cleifion polio, ac mae'n gweithredu dan yr enw Roosevelt Warm Springs Institute for Rehabilitation hyd heddiw. Ar ôl dod yn arlywydd, helpodd i sefydlu'r National Foundation for Infantile Paralysis (adnabyddir dan yr enw March of Dimes erbyn hyn). Ei arweiniad wrth sefydlu'r gymdeithas hon yw'r rheswm y ceir ei lun ar y darn pres, y dime.
Ar y pryd, roedd llai o archwilio ar fywydau preifat unigolion cyhoeddus nag y sydd heddiw, ac roedd Roosevelt yn gallu argyhoeddi i'r cyhoedd ei fod yn gwella. Credodd Roosevelt fod hyn yn angenrheidiol os oedd am sefyll mewn etholiad. Gan ffitio bresys haearn i'w goesau a'i gluniau, dysgodd ei hun sut i gerdded pellter byr, gan droi ei dorso tra'n cynnal ei hun gyda ffon. Defnyddiodd gadair olwyn yn breifat, ond roedd yn ofalus i beidio byth a gael ei weld ynddi yn gyhoeddus, ymddangosodd yn sefyll gan amlaf, ond wedi ei gynnal ar un ochr gan gynorthwywr neu un o'i feibion.
Yn 2003, canfu astudiaeth adolygiad-cyfoedion ei fod yn fwy tebygol mai Syndrom Guillain-Barré oedd salwch parlys Roosevelt ac nid poliomyelitis.[1]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Un o'r ychydig luniau o FDR mewn cadair olwyn.
-
Franklin D. Roosevelt
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ What was the cause of Franklin Delano Roosevelt's paralytic illness? Archifwyd 2008-03-07 yn y Peiriant Wayback Goldman, AS et al, J Med Biogr. 11: 232–240 (2003)