Neidio i'r cynnwys

Enoc Huws (drama gerdd)

Oddi ar Wicipedia
Am y nofel, gweler Enoc Huws
Enoc Huws
Rhaglen Swyddogol Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Enoc Huws (drama gerdd)
GwladBaner Cymru Cymru

Addasiad o nofel Daniel Owen ar gyfer Cwmni Theatr Gwynedd yw'r ddrama gerdd Enoc Huws. Addaswyd y nofel gan y dramodydd William R. Lewis, y cerddor a'r cyfansoddwr Sioned Webb, a Dewi Jones.

Llwyfanwyd y gwaith am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd yn Theatr Gwynedd, Bangor yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Conwy a'r Cyffiniau ym 1989. Yn Rhaglen y cynhyrchiad, dywedodd John Ogwen (aelod o Banel Artistig y Cwmni), "Mae gweld cynhyrchiad cerddorol o waith Daniel Owen yn rhywbeth yr ydw i yn ei groesawu'n arw."

"Ers blynyddoedd bellach yr ydw i wedi bod yn gredwr cryf mewn cyflwyno llenyddiaeth mawrion ein cenedl ar newydd wedd, ac mewn cyfrwng gwahanol i'r gwreiddiol. Yn gam neu'n gymwys, mi rydw i, beth bynnag, yn credu ei fod yn ffordd i ysgogi gwyliwr a gwrandawr i ail-ddarllen yr awduron gwreiddiol. A'i cyflwyno o'r newydd hefyd. [...] Ac os bu storïwr da erioed Daniel Owen ydi hwnnw."[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Enoc Huws
  • Capten Trefor
  • Mrs Trefor
  • Susi Trefor
  • Marged
  • Sem Llwyd
  • Obadiah Simon
  • Mr Denman
  • Mr Davies
  • Elin / Miss Bifan
  • Mrs Denman
  • P.C. Jones
  • Wil Bryan
  • Twm Solet
  • Teulu Denman
  • Teulu Solet

Cynyrchiadau Nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfanwyd y ddrama gerdd am y tro cyntaf ar lwyfan Theatr Gwynedd, Bangor ym 1989, gan gwmni preswyl newydd y theatr, Cwmni Theatr Gwynedd. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Graham Laker; cerddorion: Sioned Webb, Neil Browning, Einion Dafydd, Gwyn Jones a John Hywel Morris; coreograffydd Iona Eryri Williams; cyfarwyddwr cerdd Sioned Webb; cynllunydd Christopher Green; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes a cynllunydd Sain Siôn Havard Gregory. Cast:

  • Enoc Huws - Tom Richmond
  • Capten Trefor - J.O Roberts
  • Mrs Trefor - Maureen Rhys
  • Susi Trefor - Siân James
  • Marged - Mair Tomos Ifans
  • Sem Llwyd - Grey Evans
  • Obadiah Simon - Arwel Gruffydd
  • Mr Denman - Huw Tudor
  • Mr Davies - Eric Wyn
  • Elin / Miss Bifan - Eirian Owen
  • Mrs Denman - Anwen Williams
  • P.C. Jones - Stewart Jones
  • Wil Bryan - Danny Grehan
  • Twm Solet - Gwyn Elfyn
  • Teulu Denman - Ryan Hughes, Tammi Jones, Dylan Eurig Williams, Dylan Llewelyn Williams, Llinos Vaughan Roberts, Ben Hardy, Nia Anne Jones, Barry Williams, Rhodri Siôn, Helen Roberts.
  • Teulu Solet - Eleri Ann Robinson, Einir Lloyd Jones, Caryl Owen, Eilir Aled Jones, Daisy Prendergast, Hayley Williams, Gethin Roberts, Sara Lloyd Williams, Christopher Williams, Eilir Glyn Jones, Sian Verrall, Kelly Vickers, Arfon Bebb.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhaglen swyddogol cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Enoc Huws. 1989.