Neidio i'r cynnwys

Grey Evans

Oddi ar Wicipedia
Grey Evans
GanwydDaniel Vaughan Grey Evans
1942
Blaenau Ffestiniog
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor a chyfarwyddwr theatr
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru, Cwmni Theatr Gwynedd
PlantGwyneth Glyn

Actor a chyfarwyddwr theatr o Gymru sy'n hanu o Flaenau Ffestiniog yw Grey Evans a anwyd ym 1942. Mae'n wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau a theledu Cymru ers y 1960au.

Wedi graddio gyda llwyddiant academaidd arbennig yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, dewisodd yrfa fel actor. Cafodd ei dderbyn yn un o'r cyntaf i ymuno â Cwmni Theatr Cymru o dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts, lle bu'n rhan o sawl cynhyrchiad nodedig, nid yn unig fel actor ond fel cyfarwyddwr hefyd.

Gweithiodd ar sawl cyfres deledu a ffilm i S4C a'r BBC, o'i dyddiau cynnar, gan gynnwys y cyfresi Minafon a Deryn a chyfresi di-Gymraeg fel The District Nurse. Portreadodd nifer eang o gymeriadau mewn ffilmiau Cymraeg gan gynnwys Madam Wen, Branwen, Tylluan Wen ac Y Mynydd Grug. Ef fu'n portreadu tad y bardd Hedd Wyn yn y ffilm Hedd Wyn a enwebwyd am Oscar, ac ymddangosodd hefyd yn yr addasiad ffilm o Un Nos Ola Leuad.

Wedi i Gwmni Theatr Cymru ddod i ben ym 1984, bu'n rhan o sefydlu Cwmni Theatr Gwynedd a bu'n actio a chyfarwyddo i'r cwmni, yn ogystal â bod yn aelod o'r Panel Artistig.[1]

Preswyliodd yn Llanarmon ger Cricieth gyda'i wraig Jane, ac mae'n dad i'r bardd, cerddor ac actores Gwyneth Glyn.

Cafodd ei urddo i Orsedd Y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006, am ei "gymwynas â'r Genedl drwy rannu ei grefft a'i brofiad helaeth fel cynhyrchydd a beirniad drama yn lleol a chenedlaethol".[2]

Theatr*

[golygu | golygu cod]

*gyda Cwmni Theatr Cymru, oni nodi yn wahanol.

Detholiad yn unig.

1960au

[golygu | golygu cod]
  • Y Gelyn Pennaf
  • Un Nos Ola Leuad (1968)

1970au

[golygu | golygu cod]

1980au

[golygu | golygu cod]

Teledu a Ffilm

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhaglenni amrywiol gynyrchiadau Cwmni Theatr Gwynedd.
  2. "BBC Cymru'r Byd - Eisteddfod Genedlaethol 2006 - Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-27.
  3. "Grey Evans". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-08-27.